Y ddwy ffrind o Ddyffryn Peris sy'n annog pobl ifanc i ddawnsio

Erin, Iola, Chloe, Beca a Nel. Mae Iola a Chloe yn cael cymorth Erin, Beca a Nel erbyn hyn i gynnal y clwb gyda chynifer wedi ymuno
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Iau 13 Tachwedd, bydd cyflwynwyr Radio Cymru, Trystan ac Emma, yn dechrau ar eu her o ddawnsio am 24 awr er budd Plant Mewn Angen.
Ac yn ôl Chloe Roberts a Iola Bryn Jones o glwb dawns Hudoliaeth sy'n cynnal sesiynau dawnsio i bobl ifanc yn Nyffryn Peris, "mi fydd y ddau yn chwys pys, ond gyda digonedd o diwns upbeat, fe gawn nhw lot o hwyl ac mi fydd yr amser yn hedfan".
Cymru Fyw fuodd yn sgwrsio gyda Chloe a Iola am fuddion dawnsio ac am glwb dawnsio Hudoliaeth.

Tybed a fydd Pudsey yn ymuno yn dawnsathon Trystan ac Emma?
Dwy ffrind gorau yn sefydlu clwb
Sefydlodd y ddwy y clwb yn 2019 gyda thua 40 o aelodau. Bellach mae 150 o blant a phobl ifanc yn cyfarfod bob wythnos i ddawnsio dan arweiniad Chloe neu Iola yn Y Ganolfan yn Llanberis neu yn neuadd yr eglwys ym Mhenisarwaun.
Felly beth sbardunodd Chloe o Lanrug a Iola o Ddeiniolen i gychwyn y clwb?
Eglurodd Chloe: "Mae'r ddwy ohonan ni yn ffrindia' gora' ers ein bod ni yn ifanc iawn, ac mae'r ddwy ohonan ni wrth ein bodda' yn dawnsio.
"'Dan ni'n dwy wedi dawnsio efo'n gilydd trwy'r ysgol uwchradd ac yn cystadlu efo'n gilydd o oedran ifanc iawn. Sasha o Fethel oedd yn ein dysgu ni.
"Wnaethon ni benderfynu 'neud grŵp ein hunain yn 2018, cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018, dod yn gyntaf a mi 'nath hynny roi hwb i ni i gychwyn clwb."
"O'n i'n meddwl mai jocian oedd Chloe pan wnaeth hi awgrymu cychwyn y clwb efo'n gilydd am y tro cynta'," ychwanegodd Iola.

Iola a Chloe
Cyngor i Trystan ac Emma
Ers 2019 mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth ac wedi cael llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol ac yn cynnal sioe flynyddol yn y Galeri, Caernarfon dros gyfnod y Nadolig.
Ac mae'r ddwy hefyd yn ddipyn o ffrindiau gyda Trystan ac Emma ers i raglen Prosiect Pum Mil ddod draw i Neuadd yr Eglwys ym Mhenisarwaun i adnewyddu'r neuadd gan ei wneud yn ofod dawnsio addas iddyn nhw.
Meddai Chloe am eu hymddangosiad ar y rhaglen: "Mae o'n ofod brafiach i ni bellach, mae'r plant wrth eu boddau efo'r drych i gael gweld eu hunain yn perfformio."

Trystan ac Emma yn ystod eu cyfnod yn trawsnewid Neuadd yr Eglwys ym Mhenisawaun yn ofod dawnsio i glwb Hudoliaeth
Yn ôl Chloe a roddodd wers ddawns i Emma ar y rhaglen, "mi fydd Emma rêl boi, mae ganddi rhythm".
Fe wnaeth Trystan lwyddo i osgoi'r wers ddawnsio ar y rhaglen, felly beth yw cyngor Iola i Trystan yn ystod yr her?
Meddai: "Oedd ganddon ni jôc fewnol ar Prosiect Pum Mil lle oeddan ni yn defnyddio'r lythyren C am cau dy geg, c am canolbwyntio, felly dwi isio Trystan i atgoffa ei hun tro yma - c am cario 'mlaen!
"Hefyd mae gen i bob ffydd yn Trystan os wneith o gofio ei fod o'n Ibiza a dawnsio i diwns upbeat. Mae Pump it Up yn diwn da iddo fo, ac yn amlwg mi fydd yn rhaid cael caneuon Eden."

Rhai o aelodau Hudoliaeth
Bydd Trystan ac Emma ynghanol eu her pan fydd Hudoliaeth yn cyfarfod nesaf ar nos Iau 13 Tachwedd ond mae Chloe, Iola ac aelodau'r clwb am ddangos eu cefnogaeth iddyn nhw.
Meddai Chloe: "Mi fydd y plant yn gwisgo dillad lliwgar neu sbarcli neu'n dod mewn gwallt gwirion a mi fyddwn ni yn cyfrannu at yr achos, ac wrth gwrs yn dawnsio! Gobeithio y bydd hynny'n ychydig o hwb i Trystan ac Emma."

Mae gan glwb Hudoliaeth 150 o aelodau erbyn hyn
Buddion dawnsio
Mae'r ddwy'n teimlo yn gryf bod buddion corfforol a meddyliol i ddawnsio ac nad oes gan neb droed chwith.
Meddai Chloe: "Mae'n annog pobl Ifanc i ddyfalbarhau a rhoi hyder iddyn nhw. 'Dan ni'n gweld lot yn cychwyn efo ni a maen nhw reit ddistaw. O fewn mis ella bo' nhw yn hollol wahanol a'u personoliaeth nhw wedi tyfu."
Mae Iola'n cytuno: "Mae o lot blant hefyd yn licio dod yma i ddawnsio i dynnu meddwl oddi ar bethau eraill fel arholiadau.
"Maen nhw'n cael 'neud ffrindiau a maen nhw yn mynd drwy lot efo'i gilydd trwy gystadlu, a dysgu sut i ennill ac i golli efo'i gilydd. Mae hynny'n bwysig."

Chloe a Iola yn dawnsio pan oedden nhw'n ifanc
Beth yw atgofion y ddwy o gyd-ddawnsio pan oedden nhw'n iau?
Meddai Iola: "O'n i wrth fy modd yn dianc at Chloe i ddawnsio, a chymysgu miwsig efo'n gilydd a chael sleepovers."
Ychwanegodd Chloe: "Mae o'n rhan fawr o'n bywyda' ni ac wedi siapio pwy ydan ni heddiw. Dwi ddim yn gwybod be' fasan ni yn 'neud heb ddawnsio."
Gyda'r ddwy'n rhoi'r sesiynau dawnsio gyda'i gilydd ac ar wahân i aelodau Hudoliaeth boed yn ddawnsio disgo, hip hop, stryd, neu salsa, ai Chloe neu Iola yw'r tiwtor fwyaf llym?
Meddai Chloe: "Iola sydd fwyaf strict. Hi ydi'r bad cop a fi ydi'r good cop!"
Tydi Iola ddim yn anghytuno gyda hi, ond meddai hefyd bod dawnsio yn weithgaredd sy'n agored i bawb o bob oed.
Ychwanegodd Iola: "Mae o'n ffordd mor wych i gadw'n heini, ac i gadw'r meddwl a'r corff yn gryf ac yn iach. Ffeindiwch glwb dawnsio lleol ac ewch amdani."

Dawnswyr Hudoliaeth
Gwrandewch ar ddawnsathon Trystan ac Emma:
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Awst

- Cyhoeddwyd28 Hydref
