Ymgyrch Seal Bay: Troseddwr lleol yn siarad

Soeren Berg-Arnbak, un o'r troseddwyr wedi'i guddio y tu ôl i amryw o enwau ac edrychiadau
- Cyhoeddwyd
Mewn ardal hardd a heddychlon o Sir Benfro yn 1983 roedd criw o smyglwyr wedi cychwyn ar gynllwyn i ddod â llwyth canabis gwerth £9 miliwn i'r wlad.
Hwn oedd un o'r cynlluniau smyglo cyffuriau mwyaf sy' wedi bod ym Mhrydain ac mae'n cael ei adnabod fel Operation Seal Bay, sef yr enw roddodd Heddlu Dyfed Powys ar yr ymdrech i ddal y gang.
Am y tro cyntaf mewn dros 30 mlynedd, mae un o'r bobl gafodd ei garcharu am fod yn rhan o'r ymgyrch wedi siarad yn gyhoeddus.
Er na chafodd ei enw go iawn ei ddefnyddio mewn rhaglen ddogfen ar S4C, Ymgyrch Seal Bay, dyma'r hyn yr oedd ganddo ei ddweud, dan y teitl Jim Jones.
Dirgelwch y dyn lleol
"Fe wnaethon nhw fy neffro i un bore yn fy ngharafán," meddai.
"Roeddwn wedi dychryn, dwi ddim yn gwbl sicr sut gafon nhw atai, ro' i'n meddwl fy mod wedi cael i ffwrdd efo hyn."
Ond sut cafodd Jim Jones ei ddal yn y lle cyntaf a beth oedd hanes ymchwiliad yr heddlu?
Mae'r stori yn cychwyn gyda ffermwr yn darganfod caead dan y cerrig ar draeth o'r enw Cell Hywel (Seal Bay) tu allan i Drefdraeth.
Dan y caead oedd byncer cudd wedi ei adeiladu gyda waliau fibreglass oedd yn dal dŵr.
Y cynllun oedd dod â thair tunnell o ganabis i'r lan. Erbyn diwedd 1982 ffeindiodd dau berson yn cerdded ar y traeth yn Nhrefdraeth bwndel o ganabis oedd wedi ei olchi ar y traeth.
Sialens Heddlu Dyfed Powys oedd dod o hyd i bob aelod o'r gang – rhywbeth oedd yn her oherwydd natur ryngwladol y criw.
Roedd ymholiadau wedi digwydd yn gyflym iawn a'r ddau berson cyntaf i gael eu dal oedd Kenneth Aubrey Dewer a Robin Boswell.
Holwyd cyn-wraig Boswell hefyd am y darganfyddiad. Fe soniodd Susan Boswell am ddyn lleol a oedd hefyd yn rhan o'r smyglo.
Doedd ganddi hi ddim enw i'r dyn, dim ond disgrifiad. Dyma'r heddlu wedyn yn mynd ati i geisio chwilio am enwau posib i ffitio'r disgrifiad.
Daeth un enw penodol i'r amlwg wnaeth arwain yr heddlu at garafán mewn man anghysbell yng nghefn gwlad Sir Benfro, carafán Jim Jones.

Y caead yn arwain at y byncer ar draeth Cell Hywel
Daeth yr heddlu o hyd i bapur yn y garafán oedd yn perthyn i gar Citroen a oedd wedi cael ei brynu gan Robin Boswell drwy ddefnyddio un o'i 17 ffug enw.
Dywedodd Jim Jones: "Doeddwn i heb arfer delio gyda'r heddlu."
Ond siarad wnaeth Jim, a datgelu llawer mwy nag oedd yr heddlu yn gwybod am yr holl ymgyrch i smyglo cyffuriau i Brydain.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Don Evans mai dyma'r datganiad gorau iddo erioed ei weld yn ei yrfa gyda'r heddlu.
Dros gyfnod o 36 awr, fe wnaeth Jim ddarparu datganiad 50 tudalen i'r heddlu gan ddatgelu manylion hanfodol am y cynllwyn o'r dechrau i'r diwedd.
Cyfaddef y cwbl
Yn ei gyfweliad fe wnaeth Jim ddatgan ei fod wedi gweithio fel mecanic i Robin Boswell yn y gorffennol, yn addasu ceir i smyglo canabis.
"Fe wnaeth gyrraedd yn fy ngharafán un noson a dweud fod ganddo ragor o waith i mi, a'r diwrnod wedyn fe aethon ni i ryw ffarm neis iawn ochrau sir Hampshire, nes i edrych o gwmpas a sylwi ar sawl Land Rover yno ac ychydig o gychod ac injans ar eu cyfer. Fy job i oedd cael y cyfan i weithio'n iawn."
Fe gafodd yr holl offer wedyn eu cludo i Sir Benfro.
"Aethon nhw a fi i'r traeth a dechrau symud cerrig mân i un ochr, o'n i'n meddwl beth maen nhw'n neud? Nesa' dyma'r hatch yn dod i'r golwg, dyma nhw yn ei agor a dweud wrtha'i i edrych i mewn. Roedd beth weles i yn anhygoel, ogof wedi'i adeiladu. Roedd e'n anhygoel i ddweud y gwir.
"Y cynllun oedd i'r cwch mawr fynd allan i'r môr i nôl y canabis cyn dychwelyd yn gyflym gyda'r canabis, roedden nhw angen ychydig o ddynion ar y traeth i symud y canabis wedyn i mewn i'r ogof.
"Un o'r problemau mwyaf oedd cael y canabis i lanio," meddai.

Tu fewn y byncar: Waliau fibreglass ac injan cwch
Roedd y dystiolaeth yn glir o ran lefel y troseddu ac roedd Jim wedi'i ddal yn y gwe pry cop o fod yn rhedwr i'r prif drefnwyr ac wedi chwarae rhan allweddol yn y smyglo.
O ganlyniad i'w droseddu, cafodd Jim ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar fel un o beirianwyr y criw smyglo.
Enw arall a ddaeth i'r amlwg fel un o brif arweinwyr yr ymgyrch oedd actor o Ddenmarc - Soeren Berg-Arnbak, oedd ar y pryd yn cael ei adnabod fel un o ddelwyr cyffuriau mwyaf Ewrop.
Ond wrth edrych nôl, roedd Jim yn credu fod y ddedfryd o chwe blynedd a gafodd am fod yn rhan o'r cynllwyn yn un llym: "Mae sawl person wedi dweud wrthai dros y blynyddoedd fod e'n ddedfryd difrifol i feddwl na gafwyd hyd i unrhyw gyffuriau arna i."
Ond gyda'r lefel o gyhoeddusrwydd, roedd y barnwr wedi penderfynu mai ond dedfrydau llym oedd yn briodol yn yr achosion yma.
Cafodd arweinwyr y cynllwyn, Boswell a Soeren Berg-Arnbak, rhwng wyth a 10 mlynedd yn y carchar. Carcharwyd chwech aelod arall o'r gang hefyd.
Heb os cafodd yr holl beth effaith ar y gymuned leol yn Nhrefdraeth ac roedd y chwydd wydr genedlaethol o ran y newyddion ar y dref fach lan môr am wythnosau wedi'r digwyddiad a phobl yn parhau i siarad am Ymgyrch Seal Bay hyd heddiw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2016
