Byddai dod â chynllun Taith i ben yn 'brifo lot o bobl ifanc'

Cafodd Reece (chwith) a Zack (dde) gyfle i fynd ar daith i'r Ffindir yn 2023 gyda chefnogaeth cynllun Taith
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y gall miloedd o bobl o gefndiroedd difreintiedig fod ar eu colled pan fydd cynllun Llywodraeth Cymru, Taith, yn dod i ben.
Cafodd y cynllun ei sefydlu yn 2022 i ariannu cyfleoedd i bobl mewn addysg yng Nghymru i fynd dramor ar ôl i Lywodraeth y DU dynnu 'nôl o gynllun Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd yn 2021.
Ar hyn o bryd, does dim bwriad gan Lywodraeth Cymru i ariannu cynllun Taith ar ôl 2028.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael y cyfleoedd rhyngwladol.
Cynllun Seren yn gyrru talent ac arian o Gymru i Loegr - prifysgolion
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
'Testun pryder' bod hanner myfyrwyr Cymraeg wedi gadael Cymru
- Cyhoeddwyd29 Hydref
Ceisiadau prifysgol yn gostwng eto - ydy agweddau'n newid?
- Cyhoeddwyd12 Awst
Nod Taith yw rhoi cyfleoedd i unigolion a sefydliadau na sydd yn draddodiadol wedi cael cyfleoedd i fynd dramor, neu sydd wedi cael trafferth cael mynediad at gyllid.
Ymhlith y rhain mae pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, pobl ag anghenion dysgu ychwanegol a phobl o gefndiroedd difreintiedig.
Mae'r cynllun wedi cael ei ymestyn tan 2028 bellach, ond bydd gwaith y cynllun yn dod i ben ym mis Awst 2027.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan eu hymrwymiad i ailymuno ag Erasmus+, ond mae pryderon na fydd pobl o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cael mynediad at y cyllid hwnnw mor hawdd ag oedden nhw drwy gynllun Taith.

Roedd cael teithio dramor gyda Gisda yn agoriad llygaid, meddai Zack
Mae Zack, 23, wedi bod yn rhan o elusen GISDA ers yn 16 oed - elusen sy'n cefnogi pobl ifanc digartref a bregus yng Ngwynedd.
Yn 2023, aeth ar drip i'r Ffindir gafodd ei ariannu gan gynllun Taith.
Dywedodd fod y profiad o fynd i wlad dramor wedi cael cryn dipyn o effaith arno.
"Oedd o'n eye-opening bod yn rhywle gwahanol," meddai.
"Ma' 'di neud i fi sylwi ar y bigger picture o bywyd a cha'l persbectif newydd.
"Nes i actually gallu gwella am y tro cynta' 'efo rhywbeth o'n i'n strugglo 'efo yn bersonol ac oedd hynny'n eye-opening - i ddysgu bo' dwi 'efo'r gallu i wella hefyd."

Mae Reece yn credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y cynllun yn parhau
Mae Reece, 22, wedi bod gyda GISDA ers wyth mlynedd, ac wedi bod ar sawl trip gafodd eu hariannu gan Taith, gan gynnwys un i Lundain, Efrog Newydd a'r Ffindir.
"Ma'r bobl dwi 'di eu cyfarfod, even though dwi ddim yn siarad 'efo nhw'n aml ,ma' nhw wedi newid persbectif fi o bywyd," meddai.
Byddai colli cynllun fel Taith yn "rili rili brifo lot o bobl ifanc", ychwanegodd.
'Newid bywydau'
Yn ôl Pennaeth Datblygu elusen GISDA, Lyndsey Thomas, mae cynllun Taith yn rhoi "cyllid ychwanegol i bobl ifanc sy'n stryglo, pobl ifanc difreintiedig i allu cael pethau fel passports a bagiau so s'dim byd yn stopio nhw fynd dramor".
Yn ei barn hi, doedd cynllun Erasmus ddim yn cynnig "gymaint o gefnogaeth" i bobl ifanc o gefndiroedd llai breintiedig.
"'Dan ni yn gobeithio'n wir y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ffeindio ffordd i 'neud o [cynllun Taith] barhau.
"Ma'r effaith just yn anhygoel. Mae'n newid bywydau a dwi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli hynny," meddai.

Gallai pobl ifanc difreintiedig golli allan os nad yw cynllun Taith yn parhau, yn ôl Lyndsey Thomas
Yn ôl Rheolwr Rhaglen Addysg Uwch ac Addysg Bellach Taith, Walter Brooks, mae'r cynllun yn wahanol i Erasmus gan eu bod yn "ffocysu'n benodol ar fynediad".
"'Dan ni'n trio rhoi mwy o gymorth a gwneud pethe'n haws i bawb allu cymryd rhan.
"Ma' sectorau wedi dweud wrthon ni'n barod - os 'dan ni'n mynd nôl i Erasmus bydd pethau'n fwy anodd, falle'n amhosib iddyn nhw allu cyrraedd y math yma o gyfleoedd," esboniodd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Taith, Susana Galván: "Os yw Taith yn diflannu, y perygl yw bydd sefydliadau ddim yn ymgeisio am Erasmus, ac felly fe all miloedd o gyfranogwyr posib - yn enwedig rheiny o sefydliadau llai – golli allan ar gyfleoedd fel hyn yn y dyfodol."
Y llywodraeth am 'sicrhau parhad y cyfleoedd i ddysgwyr'
Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi cadarnhau bod rhaglen Taith am gael ei hymestyn tan 2028.
"Rydyn ni am ganolbwyntio ar ddarparu rhaglen bresennol Taith, a sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael y cyfleoedd rhyngwladol y maen nhw'n eu haeddu.
"Rydyn ni'n cydnabod y bydd natur rhaglen Taith i'r dyfodol yn cael ei llywio gan ganlyniad trafodaethau'r DU i ailymuno ag Erasmus+.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau parhad y cyfleoedd i ddysgwyr, ac fe fyddwn ni'n ystyried yn ofalus y goblygiadau unwaith y daw'r trafodaethau ynghylch ailymuno ag Erasmus+ i ben."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.