Cyngor Gwynedd i ystyried cynnal ymchwiliadau pellach i droseddau Foden

Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi dweud eu bod yn "cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy'n cael eu hamlygu" ac yn "ymddiheuro'n gwbl ddidwyll" i'r dioddefwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gynghorwyr Gwynedd ystyried a oes angen ymchwiliadau annibynnol pellach i droseddau'r cyn-bennaeth ysgol Neil Foden er mwyn sicrhau "fod 'byth eto' yn golygu 'byth eto'".

Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ar 4 Rhagfyr yn gofyn i'r cabinet ystyried a oes angen cynnal ymchwiliadau pellach er mwyn gallu "mynd i'r afael â materion y tu allan i ffiniau'r" Adolygiad Ymarfer Plant diweddar.

Yn ôl yr adolygiad, a gafodd ei gyhoeddi ar 4 Tachwedd, collodd awdurdodau dros 50 o gyfleoedd i atal y pedoffeil Neil Foden rhag ymosod yn rhywiol ar ferched dros nifer o flynyddoedd.

Mae'r cynnig wedi'i gyflwyno gan y Cynghorydd Beca Brown, sy'n cynrychioli ward Llanrug ac ynddo mae'n canmol "dewrder, penderfynoldeb a gwytnwch rhyfeddol" y plant a ddaeth ymlaen a rhannu eu profiadau.

Foden wedi creu enw iddo'i hun fel 'bwli'

Cafodd Neil Foden - prifathro yn Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd, ac am gyfnod pennaeth strategol yn Ysgol Dyffryn Nantlle - ei garcharu am 17 mlynedd fis Gorffennaf 2024 am gam-drin pedair merch yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Yn dilyn hynny cafodd Adolygiad Ymarfer Plant ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Plant Cymru er mwyn canfod sut roedd Foden wedi gallu cam-drin plant yn rhywiol.

Nododd yr adroddiad bod 52 o gyfleoedd wedi eu methu.

Dyn yn cerdded allan o ddrws fan tuag at ddrws llys. Ochr ei ben sydd i'w gweld, gyda'i glust dde yn wynebu'r camera. Mae'n gwisgo siaced glas.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu yn 2024

Yn ôl Jan Pickles, arweinydd yr adolygiad ymarfer plant, roedd Foden yn "bedoffeil soffistigedig" a "greodd ddiwylliant oedd yn galluogi iddo droseddu yn gwbl agored".

Mewn datganiad yn dilyn rhyddhau'r adroddiad dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy'n cael eu hamlygu" ac yn "ymddiheuro'n gwbl ddidwyll" i'r dioddefwyr.

Dydd Iau bydd y cyngor yn trafod a oes angen ymchwiliadau pellach gyda'r nod o "droi pob carreg er mwyn sicrhau, hyd eithaf ein gallu, fod 'byth eto' yn golygu 'byth eto'".

'Mae'n dyled iddynt yn enfawr'

Mae hysbysiad llawn cynnig y Cynghorydd Brown ar wefan y cyngor yn dweud dweud: "Hoffem groesawu cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant ar 4 Tachwedd gan gofnodi ein diolch dwfn i'r cadeirydd Jan Pickles am ei gwaith gofalus, a felly hefyd i'r panel ac i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

"Hoffem nodi teitl yr adroddiad, Sef Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y teitl bob amser wrth drafod yr adroddiad hwn, gan ei fod yn talu teyrnged gwbl haeddiannol i ddewrder plant – plant oedd i fod yn saff yn eu hysgolion, a phlant ddaeth â blynyddoedd o droseddu erchyll un o ddynion mwyaf grymus y sir yma i ben.

"Mae'n dyled iddynt yn enfawr.

"Mae'n meddyliau ni gyda nhw ac rydym yn diolch o waelod calon iddynt am eu penderfynoldeb a'u gwytnwch rhyfeddol.

"Ymrwymwn fel cyngor i ddysgu pob gwers a ddaw yn sgil yr adroddiad, ond ymhellach na hynny, ymrwymwn i edrych ar unrhyw faterion perthnasol sydd wedi disgyn tu allan i gylch gorchwyl yr AYP, a oedd yn edrych ar achos y troseddwr hwn yn y cyfnod rhwng 2017 a Medi 2023.

"Galwn felly ar y cabinet i ystyried pa ymchwiliadau annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn cyfarch yr hyn sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau'r AYP.

"Rydym yn gwbl effro i'r ffaith fod gwaith pellach i'w wneud, ac yn gofyn i'r Cabinet fynd ati yn ddiymdroi i adnabod yr hyn sydd eto i'w gyflawni.

"Mynegwn unwaith eto ein ymddiheuriadau didwyll i'r plant sydd wedi dioddef niwed, a byddwn yn ymroi i droi pob carreg er mwyn sicrhau, hyd orau, ein gallu, fod 'byth eto' yn golygu 'byth eto'."

Pynciau cysylltiedig