Plaid Cymru yn trafod cyllideb Llywodraeth Cymru gyda Llafur

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hyn yn ymwneud â lliniaru rhannau gwaethaf y gyllideb y mae Llafur wedi'i chyflwyno," meddai Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau am y tro cyntaf ei bod mewn trafodaethau gyda Llafur ynghylch cyllideb £27bn Llywodraeth Cymru.

Mae'r blaid yn dweud ei bod wedi gwneud "cynnig cyhoeddus" i Lafur ac eisiau gweld mwy o arian i gynghorau a'r gwasanaeth iechyd cyn iddi wneud cytundeb.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, y byddai cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn "effeithio'n galed ar ein gwasanaethau cyhoeddus".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Mark Drakeford gael cefnogaeth pleidiau eraill i gymeradwyo'r gyllideb

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y "bydd y gyllideb hon, fel y mae, yn taro ein gwasanaethau cyhoeddus yn galed.

"Ni fyddai Plaid Cymru byth yn caniatáu i gynghorau wynebu miloedd o golledion swyddi na threth gyngor sy'n codi'n sydyn, ac ni fyddem yn derbyn GIG sy'n derbyn cynnydd cyllido hanesyddol isel.

"Er mai dyma gyllideb Llafur i'w hamddiffyn a'i delifro, ni fydd Plaid Cymru byth yn sefyll o'r neilltu ac yn gadael i Gymru gael ei chyfrwyo â chytundeb amrwd arall.

"Mae hyn yn ymwneud â lliniaru rhannau gwaethaf y gyllideb y mae Llafur wedi'i chyflwyno ac mae Plaid Cymru yn barod i gael gwared ar y twll hwn a wnaed gan Lafur, er mwyn amddiffyn y gwasanaeth iechyd, swyddi a gwasanaethau cynghorau, a biliau treth gyngor."

Graffeg yn dangos nifer aelodau'r pleidiau unigol yn Senedd Cymru - Llafur: 29; y Democratiaid Rhyddfrydol: 1; y Ceidwadwyr: 14; Plaid Cymru: 13; Reform: 1; Annibynnol: 2.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru wedi isetholiad Caerffili

Ar ôl colli sedd Caerffili yn yr isetholiad fis Hydref, does gan llywodraeth Lafur ddim digon o aelodau o'r Senedd i basio'r gyllideb heb gefnogaeth o leiaf dau aelod arall o'r Senedd.

Os ydy'r llywodraeth yn methu taro bargen gyda phlaid arall, mi allai'r goblygiadau fod yn ddifrifol oherwydd mi fydd yn pasio yn awtomatig ar 75% o wariant eleni fyddai'n arwain at doriadau mawr a cholli swyddi.

Roedd Llafur un sedd yn brin o fwyafrif yn barod, hyd yn oed cyn iddyn nhw golli isetholiad Caerffili, ac felly eleni roedd rhaid dibynnu ar yr un AS Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, i basio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Ar ôl i Blaid Cymru ennill yr isetholiad, mae'n rhaid i Lafur berswadio o leiaf dau aelod o'r Senedd i'w cefnogi er mwyn gallu pasio'u cynlluniau gwario ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r gyllideb hon yn arwyddocaol oherwydd mae'r polau piniwn yn awgrymu mai plaid arall fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd, ac felly yn etifeddu'r cynlluniau gwario yma.

Mae drafft cyntaf y cynlluniau yn awgrymu y gallai pob adran weld cynnydd yn eu coffrau o tua 2% ond mae disgwyl i'r ffigyrau yna newid, gyda £380m heb ei benodi er mwyn galluogi'r llywodraeth i sicrhau cefnogaeth plaid arall.

Cafwyd trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr Cymreig a'r llywodraeth ynglŷn â tharo bargen.

Un o flaenoriaethau'r blaid honno ydy cael gwared ar drethi ar werthu tai, yn ôl eu harweinydd, Darren Millar, ond mae Mark Drakeford wedi dweud na fydd hynny'n bosib oherwydd y byddai'n arwain at "dwll du mawr yn y gyllideb".

Mae disgwyl pleidlais ar y gyllideb Gymreig ar 27 Ionawr, dolen allanol ond mae gan y llywodraeth tan ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau nad ydy'n pasio ar y raddfa is o 75%.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.