Cyn-lywydd CBDC, Trefor Lloyd Hughes, wedi marw yn 77 oed

Roedd Trefor Lloyd Hughes ffigwr cyhoeddus amlwg yn ystod llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ystod cyfnodau Gary Speed a Chris Coleman wrth y llyw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes, wedi marw yn 77 oed.
Yn 2007 cafodd ei urddo i'r Orsedd, ac ym mis Rhagfyr 2016 cafodd ei anrhydeddu gydag MBE am ei wasanaethau i bêl-droed - yn benodol ar Ynys Môn.
Bu'n ffigwr cyhoeddus amlwg yn ystod llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ystod cyfnodau Gary Speed a Chris Coleman wrth y llyw.
Ym mis Mawrth 2015, fe gollodd y ras i gael ei ethol gan UEFA fel is-lywydd FIFA i David Gill - cyn-gyfarwyddwr Manchester United.
Roedd hefyd yn gynghorydd sir ar Gyngor Môn, gan gynrychioli Plaid Cymru yn Ynys Gybi tan ei farwolaeth.

Trefor Lloyd Hughes ym mis Hydref 2019
Yn frodor o Fôn, dechreuodd weithio'n wirfoddol i'w glwb lleol, Bodedern yn ei arddegau yn gwerthu tocynnau, yn marcio'r cae, gosod rhwydi ac yn codi arian.
Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i chwarae pan yn 25 oed oherwydd anaf ac aeth ymlaen i weithio fel mecanig a pharafeddyg, gan weithio i'r gwasanaeth ambiwlans am 34 mlynedd.
Dechreuodd weinyddu'r gêm i Gynghrair Ynys Môn ddiwedd yr 1970au, cyn symud ymlaen i lefel Gogledd Cymru.
Fe ymunodd â bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1989, ac roedd wedi ymgymryd â sawl rôl o fewn y gymdeithas, gan gynnwys trysorydd a llywydd.

Agoriad swyddogol canolfan Parc y Ddraig yn 2013 - Trefor Lloyd Hughes (ail o'r dde) mewn cwmni da
Mewn datganiad, fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru roi teyrnged iddo gan ddweud fod ei ddylanwad ar draws pêl-droed Cymru yn "enfawr ar y lefel llawr gwlad ac ar y lefel rhyngwladol".
Dywed y datganiad iddo ddod yn "bersonoliaeth gref yng ngogledd Cymru ac yn 1989 cafodd ei ethol ar Gyngor CBDC".
"Bu'n drysorydd, yn Is-Lywydd ac yn 2012 daeth yn Llywydd.
"Bob tro yn barod i siarad, bob tro yn gwrtais a diymhongar roedd yn hynod o boblogaidd gyda staff y gymdeithas.
"Roedd yn credu'n gryf yn y gymuned leol a hynny yn cael ei amlygu yn ei waith fel Cynghorydd ar draws Ynys Môn."
'Cyfaill annwyl, doeth a ffraeth'
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Môn fod Trefor Lloyd Hughes yn "ddyn pêl-droed ac yn ddyn gwleidyddiaeth ond yn fwy na dim byd arall, roedd yn ddyn oedd yn deall gwleidyddiaeth y byd pêl-droed".
"Rydym wedi colli cyfaill annwyl, doeth a ffraeth.
"Ar lefel bersonol, byddaf yn colli ein sgyrsiau hir am y gêm brydferth.
"Ni lwyddon ni erioed i drafod gwleidyddiaeth am yn hir cyn ein bod yn troi at obeithion timau pêl-droed yr ynys neu hynt a helynt y tîm cenedlaethol."
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd cyn-arweinydd y cyngor ac Aelod Seneddol presennol Ynys Môn, Llinos Medi, fod "Caergybi, Ynys Môn a Chymru wedi colli cawr o ddyn".
"Yn bendant roedd gan Gaergybi lais cryf pob tro roedd Trefor yn yr ystafell.
"Roedd yn gyfaill annwyl gyda chyngor doeth a byddaf yn colli ein sgyrsiau direidus a heriol gyda gwên.
"Braint o'r mwyaf oedd cael adnabod person mor arbennig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2022
