CBDC yn ceisio denu buddsoddiad o America i'r Cymru Premier

Cafodd yr hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel y Cymru Premier, ei sefydlu yn 1992
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid pêl-droed Cymru wedi teithio i'r Unol Daleithiau er mwyn ceisio denu buddsoddiad newydd i'r gynghrair genedlaethol.
Y gobaith yw bod y Cymru Premier yn gallu elwa o'r diddordeb sylweddol yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam a'r cynnydd mewn perchnogaeth Americanaidd yng nghlybiau pêl-droed ym Mhrydain.
Bydd swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn mynychu cynhadledd fusnes pêl-droed byd-eang ym Miami yr wythnos hon, gyda'r nod o hyrwyddo diddordeb mewn clybiau pêl-droed domestig Cymru.
Bydd digwyddiad Soccerex yn cael ei ddefnyddio i arddangos y cynlluniau i ddatblygu'r Cymru Premier, gan gynnwys y buddsoddiad diweddar o £6m gan y corff llywodraethu.
Cais i ddenu ffeinal Cynghrair Pencampwyr y Merched 2029 i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd31 Hydref
Ymchwilio i honiad fod tîm pêl-droed wedi'u 'gwawdio am siarad Cymraeg'
- Cyhoeddwyd22 Hydref
Cymru'n colli 3-0 yn erbyn Lloegr mewn gêm gyfeillgar
- Cyhoeddwyd9 Hydref
Ond bydd swyddogion hefyd yn tynnu sylw at y posibilrwydd o fuddsoddiad allanol uniongyrchol yn y clybiau.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae clybiau Uwch Gynghrair Lloegr a'r adrannau is dros y ffin wedi profi cynnydd sylweddol mewn perchnogaeth Americanaidd.
O bosib yr esiampl enwocaf oll ydy Wrecsam, welodd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn prynu'r clwb yn 2021.
Mae swyddogion CBDC yn credu y gallai clybiau Cymru sydd y tu allan i system Lloegr hefyd fod yn ddeniadol i fuddsoddwyr, yn enwedig gan fod cyfleoedd i gyrraedd cystadlaethau Ewrop am gost gymharol isel.
Er bod Cymru wedi profi llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol, mae'r brif gynghrair ddomestig yn parhau i fod ymhlith y rhai gwanaf a tlotaf yn Ewrop.

Mae'r gynghrair yn y broses o ehangu o 12 clwb i 16 erbyn tymor 2026/27, gyda chyllid newydd ar gael ar gyfer staff llawn amser ym mhob clwb i wella gweinyddiaeth a marchnata.
Ond mae cydnabyddiaeth bod angen mwy o incwm i gryfhau'r carfannau, ac o ganlyniad, sicrhau gwell cystadleuaeth yn y gynghrair.
Y Seintiau Newydd, o dan berchnogaeth Mike Harris, yw'r unig glwb llawn amser ar hyn o bryd.
Maen nhw wedi ennill y gynghrair 11 gwaith yn y 13 blynedd ddiwethaf.
Mae dylanwad buddsoddwyr Americanaidd ar bêl-droed Ewrop yn parhau i gynyddu, gyda Serie A yr Eidal bellach yn cynnwys hyd at naw grŵp perchnogaeth o'r Unol Daleithiau.
Gan fod nifer o fuddsoddwyr wedi'u prisio allan o farchnadoedd chwaraeon yn America, mae swyddogion y CBDC yn gobeithio tynnu sylw at y cyfleoedd o fewn Uwch Gynghrair Cymru, lle gellir cael effaith sylweddol am fuddsoddiad cymharol fach.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.