C'mon Midffîld: Ffans a phodledwyr yn cyhoeddi llyfr am y gyfres

John Pierce Jones, Caio Iwan, Tom Gwynedd a Gethin Owen yn ystod recordiad o'r podlediad
- Cyhoeddwyd
Dwy flynedd yn ôl daeth tri ffrind sydd digwydd bod yn ffans enfawr o'r gyfres C'mon Midffîld at ei gilydd i recordio'r podlediad, Pod Midffîld.
Ers hynny, mae Gethin Owen, Caio Iwan a Tom Gwynedd yn dod â'r cyfan yn fyw drwy drafod y gyfres eiconig yn gronolegol.
Mae'r tri yn trin a thrafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig ar hyd y daith.
Yn ychwanegol i'r podlediad, mae hi nawr yn bosib i ddarllen y cyfan mewn cyfrol arbennig, Hiwmor C'mon Midffîld, sy'n seiliedig ar y podlediad.

Gethin Owen â chopi o'r gyfrol
Dywedodd Gethin Owen: "Roedden ni newydd orffen recordio cyfres tri o'r pod a gafon ni ebost gan y Lolfa yn gofyn os y base ganddo ni ddiddordeb gwneud llyfr wedi ei seilio ar hiwmor y gyfres.
"Fel tri wedyn fe 'naethon ni rannu'r cyfrifoldebau. Caio 'nath y rhan fwyaf o'r sgwennu ac fe wnaeth Tom a finna 'neud y player profiles a'r cwis.
"Be' rydan ni wedi neud ydi dewis rhai o'r penodau a chanolbwyntio ar un olygfa yn benodol sydd wedi g'neud i ni chwerthin a ble mae 'na ddyfyniadau cofiadwy," meddai.
Mae'r tri wedi bod yn cyflwyno'r pod ers 2023, gan obeithio i ddechrau y fyddai rhyw 100 o bobl yn gwrando.
Erbyn heddiw, mae dros 20,000 o wrandawyr wedi gwrando ar un o'r rhifynau a sawl un yn gofyn am fwy.
'Diolchgar o'r ymateb'
Mae'r podlediad yn cyfuno cerddoriaeth, dyfyniadau, clipiau o'r rhaglen ac ambell i westai cyfarwydd iawn yn ymuno yn y sgwrsio.
"Rydan ni'n cael tipyn o bobl yn cysylltu efo ni yn dweud eu bod nhw'n mwynhau.
"Doedd gyno ni ddim syniad y basa fo mor boblogaidd ond rydan ni'n ddiolchgar iawn o'r holl ymateb," meddai Gethin.
Yn ôl y Lolfa, mae'r llyfr yn "geid syml i hiwmor haenog" y gyfres hoff. Mae cynhyrchydd y gyfres, Alun Ffred Jones yn dweud ei hun yn y llyfr "Does yna ddim mwy i'w ddweud am C'mon Midffîld", ond yn amlwg mae'r tri sy'n ffans enfawr wedi gweld lle i fwy.
Dywedodd Gethin: "Pan ddaeth y gwahoddiad i ysgrifennu'r llyfr, roedd o'n anrhydedd i ddeud y gwir.
"Mae'r tri ohonom ni wedi bod yn ffans ers ein bod ni'n blant a wedi tyfu fyny yn gwylio a mwynhau'r gyfres, felly mae cael ysgrifennu llyfr am rhywbeth sydd mor sbeshal i chi wir yn anrhydedd."

Un peth mae Gethin yn falch ohono yw eu bod wedi gallu holi ambell i westai arbennig.
"Roedd o'n grêt cael John Pierce Jones (sy'n actio cymeriad Arthur Picton) wrth gwrs, ond rydan ni'n ddiolchgar i bob un ac mae pawb yn wahanol.
"Fe gawson ni Mr Craig ar un ohonyn nhw, Ian Gwyn Hughes a llawer iawn mwy.
"Yr unig un o'n i'n gutted chafon ni ddim oedd Mark Hughes, ond roedd o newydd golli ei job yn Bradfod City ychydig ddyddiau ynghynt felly mae hynny'n ddealladwy pan nad oedd o ar gael i ddod i drafod C'mon Midffîld," meddai Gethin.
O ran y dyfodol, does gan y tri ddim bwriad o stopio.
"Mae sawl un yn gofyn pryd mae'r gyfres nesaf am ddechrau. Y peth ydi, daeth y cais 'ma i 'neud y llyfr, felly mae ein amser ni wedi mynd yn canolbwyntio ar orffen hwnna.
"Gobeithio bydd 'na amser ar ddechrau'r flwyddyn ar gyfer cyfres pedwar, ond yn y cyfamser gobeithio fydd pawb yn mwynhau'r llyfr fel rhyw ddarn i aros pryd."
Bydd Hiwmor C'mon Midffîld yn cael ei lansio'n swyddogol ar nos Wener, 5 Rhagfyr yng Nghlwb Hwylio Caernarfon.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023

- Cyhoeddwyd27 Mawrth
