Paratoadau Cymru ddim yn berffaith o bell ffordd cyn gemau hollbwysig

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn awtomatig fwy neu lai ar ben ar ôl colli'n erbyn Gwlad Belg
- Cyhoeddwyd
Mae gan Gymru ddwy gêm allweddol o'u blaenau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Liechtenstein a Gogledd Macedonia.
Ennill y ddwy a mi fydden nhw'n saff o orffen yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol
Mae gorffen yn ail yn hollbwysig gan y byddai'n rhoi llwybr haws iddyn nhw yn y gemau ail-gyfle.
Ond dydy paratoadau Cymru ar gyfer y gemau yma heb fod yn berffaith o bell ffordd.
Anafiadau
Mi fydd Cymru heb ddau chwaraewr allweddol oherwydd anafiadau.
Mae'r capten Ben Davies a'r ymosodwr Kieffer Moore wedi gorfod tynnu'n ôl o'r garfan oherwydd anafiadau.

Mae Ben Davies newydd ennill ei 100fed cap dros Gymru
Mi fydd Davies yn golled anferth am resymau amlwg.
Mae ganddo gymaint o brofiad ar y llwyfan rhyngwladol ar ôl ennill ei 100fed cap fis diwethaf, mae'n arweinydd o fri ac mae'r gallu ganddo i chwarae yng nghanol yr amddiffyn neu fel cefnwr chwith.
Er mai eilydd oedd Kieffer Moore yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Gwlad Belg, dwi'n siŵr y byddai wedi dechrau'r ddwy gêm nesaf petai'n holliach.
Mae wedi bod ar dân o flaen gôl i Wrecsam y tymor yma gan sgorio naw gwaith, ac mae ei faint a'i gryfder bob tro'n achosi problemau i amddiffynwyr.
Bellamy a Celtic

Craig Bellamy yn chwarae i Celtic yn erbyn Rangers yn ngêm ddarbi yr Old Firm yn 2005
Er fod Craig Bellamy wedi dweud yn gyhoeddus nad oes ganddo unrhyw fwriad gadael ei swydd gyda Chymru i ymuno â Celtic, mae ei enw'n dal i gael ei gysylltu gyda'r swydd wag yn Parkhead.
Mae Celtic yn chwilio am reolwr newydd ar ôl i Brendan Rodgers adael fis diwethaf, gyda Martin O'Neill yn gwneud y swydd dros dro ar y funud.
Tybed beth fyddai'n digwydd os na fydd Cymru'n cyrraedd Cwpan y Byd?
Fydd Bellamy yn aros ymlaen ar gyfer Euro 2028, neu a fydd o'n cael ei demtio i reoli clwb?
Pwy â ŵyr - efallai y bydd Celtic yn fodlon gadael i O'Neill barhau yn y swydd dros dro tan y bydd Bellamy yn fodlon gadael Cymru.
Y gobaith ydy na fydd yr ansicrwydd yn effeithio ar y garfan, gan fod Bellamy yn rheolwr poblogaidd.
Aaron Ramsey
Mae beth sydd wedi digwydd i Aaron Ramsey'n ddiweddar yn drist iawn.
Ar ôl i'w gi fynd ar goll ym Mecsico mae wedi gadael clwb PUMAS ac wedi dychwelyd adref i Gymru gyda'i deulu.
Fe ymunodd â PUMAS yn y lle cyntaf gan ei fod dal yn gobeithio chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.
Ond ar y funud mae wedi ei anafu eto, a does ganddo ddim clwb.
Does 'na neb yn siŵr ar y funud beth fydd Ramsey yn ei wneud nesaf.
Ydy'r awydd yno i gario ymlaen i chwarae? Ac oes 'na glwb yng nghynghreiriau Lloegr yn fodlon rhoi cytundeb iddo yn sgil ei holl anafiadau diweddar?
Efallai ein bod ni wedi gweld Ramsey yn chwarae ei gêm olaf dros Gymru.

Mae Aaron Ramsey yn helpu gyda pharatoadau'r garfan ar gyfer y ddwy gêm nesaf
Mae Craig Bellamy wedi ei wahodd mewn i helpu'r garfan baratoi ar gyfer y ddwy gêm nesaf.
Ar ôl cyfnod fel rheolwr dros dro Caerdydd y tymor diwethaf dwi'n eithaf siŵr mai dyma'r cam nesaf yn ei yrfa.
Ond y gwir amdani ydy, er ei fod yn 34 oed bellach, mae o dal yn chwaraewr o safon.
Mae ganddo dal rywbeth i'w gynnig i Gymru os bydd o'n dod o hyd i glwb newydd.
Canlyniadau diweddar

Craig Bellamy yn cysuro Jordan James ar ôl colli 3-0 yn erbyn Lloegr
Dydy'r hyder o fewn y garfan ddim yn gallu bod yn uchel ar y funud gan gofio'r rhediad siomedig mae Cymru arno.
Maen nhw wedi colli pedair o'u pum gêm ddiwethaf, ac er iddyn nhw guro Kazakhstan dim ond crafu buddugoliaeth wnaethon nhw yn Astana.
Mae'n bwysig cofio eu bod nhw wedi wynebu Gwlad Belg ddwywaith a Lloegr yn Wembley yn ystod y rhediad yna, ond mae Craig Bellamy wedi dweud fwy nag unwaith mai ei ddymuniad yw gweld Cymru'n chwarae'n erbyn rhai o dimau gorau'r byd yn rheolaidd.
Mae 'na gyfle euraidd i gael buddugoliaeth swmpus yn erbyn Liechtenstein nos Sadwrn, cyn i Ogledd Macedonia ymweld â Chaerdydd nos Fawrth.
Brennan Johnson
Brennan Johnson oedd gobaith mawr nesaf Cymru ar ôl i Gareth Bale ymddeol yn 2023.
Ar ôl cymryd y crys rhif 11 gan Bale, mi oedd sawl un yn disgwyl i Johnson fod yn seren nesaf Cymru am flynyddoedd maith.
Ond mae pethau wedi mynd o chwith braidd yn ddiweddar.

Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i Brennan Johnson gyda Chymru
Dim ond unwaith mae o wedi sgorio yn ei wyth gêm ryngwladol ddiwethaf, a mi gafodd ei adael ar y fainc ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg fis diwethaf.
Mae angen i Craig Bellamy ddod o hyd i sut i gael y gorau allan ohono eto mor fuan â phosibl.
Dim ond 24 oed ydy Johnson, felly mae amser yn sicr o'i blaid.
Ond os ydy Cymru am gyrraedd Cwpan y Byd mi fysa' nhw'n gallu gwneud efo Johnson yn dechrau tanio o flaen gôl eto.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd14 Hydref

- Cyhoeddwyd13 Hydref
