Dileu rheithgorau ar gyfer troseddau â dedfrydau o lai na thair blynedd

David LammyFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

"Nid yw'n deg gofyn i ddioddefwyr aros," meddai David Lammy

  • Cyhoeddwyd

Bydd treialon rheithgor ar gyfer troseddau sy'n debygol o arwain at ddedfryd o lai na thair blynedd yn cael eu dileu, mae ysgrifennydd cyfiawnder llywodraeth y DU, David Lammy, wedi cyhoeddi.

Mae'r diwygiadau i'r system gyfiawnder yn cynnwys creu "llysoedd chwim" o dan gynllun y llywodraeth i fynd i'r afael ag oedi digynsail yn y system llysoedd.

Bydd troseddau difrifol gan gynnwys llofruddiaeth, lladrad a threisio, yn dal i fynd gerbron rheithgor.

Bydd ynadon cymunedol gwirfoddol, sy'n delio â'r rhan fwyaf o'r holl achosion troseddol, yn ymgymryd â hyd yn oed mwy o waith.

Ond "tanfuddsoddi cronig yw'r broblem, nid rheithgorau," meddai Plaid Cymru.

'Un o egwyddorion sylfaenol cyfraith Cymru'

Dywedodd Mr Lammy bod y newid yn angenrheidiol gan na fydd rhywun sy'n cael ei gyhuddo o drosedd heddiw o bosibl yn cyrraedd y llys tan 2030.

Credir bod chwech o bob 10 o ddioddefwyr treisio yn tynnu'n ôl o erlyniadau oherwydd oedi.

Mae tua 1.3m o erlyniadau yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn, ac mae 10% o'r achosion hynny'n mynd gerbron Llys y Goron.

O'r rheini, mae tri allan o 10 yn arwain at dreialon.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS ar ran Plaid Cymru: "Dim ond 16 oed yw Canolfan Gyfiawnder Caernarfon ond mae'r to'n gollwng pan mae'n bwrw glaw, a dydy'r gwres ddim yn gweithio.

"Fe wna i restru'r prif achosion pam bod llysoedd ynadon a llysoedd y Goron yn prosesu llai o achosion.

"Llwyth gwaith uchel, prinder staff a diffyg profiad, prosesau gweinyddu gwan, adeiladau sy'n dadfeilio, technoleg sydd bellach yn anaddas.

"Sut mae e'n meddwl y bydd cael gwared ar un o egwyddorion sylfaenol cyfraith Cymru a Lloegr yn datrys y problemau hyn i gyd?"

Wrth ymateb dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder: "Rydym yn buddsoddi, bydd yn cymryd amser, nid yw'n deg gofyn i ddioddefwyr aros."