'Doedd neb yn gwybod amdano' - Rhieni'n galw am frechlyn llid yr ymennydd

Meg DraperFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Meg Draper ei bod wedi gwneud llawer iawn o ffrindiau newydd yn ei chyfnod byr yn y brifysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni menyw ifanc a fu farw o lid yr ymennydd (meningitis) wythnosau ar ôl dechrau yn y brifysgol eisiau i frechlyn fod ar gael i bobl ifanc ar y gwasanaeth iechyd.

Er bod Meg Draper, oedd yn 18 oed, wedi cael brechlyn am fathau eraill o'r salwch, mae ei rhieni'n dweud iddyn nhw gael "braw" nad oedd yn amddiffyn yn erbyn math B yr afiechyd (MenB).

Mae'r brechlyn MenB - yr unig un sy'n amddiffyn yn erbyn y math bacteriol o'r salwch - ar gael i blant o dan 12 mis gan y gwasanaeth iechyd, neu mae'n costio tua £220 yn breifat.

Ar draws y DU, mae llid yr ymennydd bacteriol yn gyfrifol am dros 80% o achosion.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cymryd cyngor pwyllgor arbenigol ar frechlynnau, a ddaeth i gasgliad yn 2014 nad oedd brechu oedolion ifanc yn "gost-effeithiol".

Roedd Meg, oedd o Bont-y-pŵl, Torfaen, newydd ddechrau astudio ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bournemouth, ac yn mwyhau pob agwedd o fywyd myfyriwr.

Roedd wedi ymuno â chlybiau pêl-rwyd a nofio a gwneud llawer o ffrindiau newydd, a dywedodd ei rhieni bod ganddi "awch am fywyd".

Ond un noson dywedodd wrth ei theulu ei bod yn teimlo'n flinedig iawn, ac o fewn 24 awr roedd hi yn yr ysbyty gyda chur pen gwael, yn cyfogi a gyda brech ar ei chorff oedd yn gwaethygu.

Bu farw dyddiau'n ddiweddarach.

Beth ydy llid yr ymennydd?

Mae llid yr ymennydd yn cael ei achosi gan facteria, feirysau a phathogenau eraill, ac mae'r straeniau mwyaf cyffredin yn cynnwys mathau meningococaidd A, B, C, W, X ac Y.

Er ei fod yn gallu cael effaith ar unrhyw un, mae'n fwyaf cyffredin mewn babanod, plant ifanc, pobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc.

Mae'n gallu arwain at septisemia difrifol ac achosi niwed parhaol i'r ymennydd a'r nerfau.

Mae symptomau'n cynnwys cur pen difrifol, tymheredd uchel a brech ar y corff.

Ond gyda diagnosis cynnar a thriniaeth wrthfiotig, mae llawer o bobl yn gwella'n llawn.

Mae tua un mewn pedwar yn cael sgil-effeithiau hirdymor.

Meg a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Meg eisiau i fwy o rieni gael gwybod am frechlyn MenB

Roedd ei theulu'n credu bod Meg wedi'i hamddiffyn rhag llid yr ymennydd ar ôl cael brechlyn yn 14 oed yn erbyn straeniau A, C, W ac Y.

"Roedden ni'n meddwl mai dyna'r brechlyn meningitis," meddai ei mam, Helen.

"Doedd neb wedi dweud fod brechlyn arall yn bodoli ar gyfer MenB."

Ar ôl dysgu bod brechlyn MenB ar gael yn breifat am £220, dywedodd y byddai wedi talu hynny "mewn chwinciad".

"Ond doedd neb yn gwybod amdano – dy'n ni wedi siarad â channoedd o bobl, ac heb ddod o hyd i un person oedd yn ymwybodol."

'Ddylai pris ddim bod yn rhwystr'

Mae teulu Meg eisiau i fwy o rieni gael gwybod am y brechlyn ychwanegol, ac i'r pigiad MenB fod ar gael gan y gwasanaeth iechyd.

Yn ôl prif weithredwr elusen llid yr ymennydd Meningitis Now, mae'r ffaith bod brechlyn ar gael allai amddiffyn y bobl ifanc yma yn "dipyn o drasiedi".

Ychwanegodd Dr Tom Nutt ei fod yn "fuddsoddiad da yn nhermau cadw pobl yn iach ac achub bywydau".

Mae myfyrwyr prifysgol yn arbennig mewn perygl gan eu bod yn cymysgu gyda nifer fawr o bobl newydd, ac mae'r bacteria yn lledaenu yn debyg i sut mae annwyd yn trosglwyddo o berson i berson.

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn dweud "yn syml does dim digon o ymwybyddiaeth" ymysg myfyrwyr.

Dywedodd llefarydd y dylid cynnig brechiad ar y gwasanaeth iechyd ac "na ddylai pris fyth atal mynediad at frechlynnau sy'n achub bywydau".

Mae Llywodraeth Cymru'n dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wrth benderfynu ar ba frechlynnau i'w cynnig.

Yn 2014 daeth y cyd-bwyllgor i'r casgliad nad oedd cynnig brechlyn i bob oedolyn ifanc yn "gost-effeithiol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig