AS Reform Laura Anne Jones yn wynebu gwaharddiad am bythefnos

- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys iaith hiliol gref a rhegi
Mae'r unig aelod o blaid Reform yn y Senedd yn wynebu gwaharddiad am bythefnos am sylwadau sarhaus a wnaeth mewn sgwrs WhatsApp.
Ym mis Awst 2023, defnyddiodd Laura Anne Jones sarhad hiliol i ddisgrifio pobl Tsieineaidd. Mae hi wedi ymddiheuro ers hynny.
Wrth argymell y gosb, dywedodd pwyllgor safonau'r Senedd "nad oes lle i sylwadau amhriodol a sarhaus yn ein Senedd nac yn ein cymdeithas yn ehangach".
Cafodd Ms Jones ei chlirio o gwynion yn ymwneud â hawlio treuliau ffug a diswyddo annheg.
AS Ceidwadol ar y pryd
Mae pwyllgor safonau'r Senedd wedi argymell gwaharddiad o 14 diwrnod yn dilyn ymchwiliad hir gan gomisiynydd safonau'r Senedd, Douglas Bain.
Gofynnwyd iddo ystyried tair cwyn yn erbyn Laura Anne Jones, gan gynnwys cwyn ei bod wedi gwneud sylwadau hiliol a methu â mynd i'r afael ag ymddygiad anffafriol gan eraill.
Roedd Ms Jones, sy'n cynrychioli de ddwyrain Cymru, yn AS Ceidwadol pan wnaed yr honiadau.
Pan ymunodd â Phlaid Reform ym mis Gorffennaf, dywedodd arweinydd y blaid, Nigel Farage, na fyddai Ms Jones wedi cael ei derbyn gan y blaid "os nad oeddem ni'n hyderus y byddai [yr honiadau] i gyd yn diflannu".
Dywedodd adroddiad Mr Bain fod Laura Anne Jones yn Awst 2023, wedi dweud "No chinky spies for me!" mewn grŵp WhatsApp lle'r oedd hi a'r achwynydd yn aelodau.

Cafodd llun o'r neges dan sylw mewn sgwrs WhatsApp ei rannu gyda BBC Cymru y llynedd
Mae adroddiad y pwyllgor yn nodi bod y sylw wedi'i wneud mewn ymateb i drafodaeth am TikTok ar adeg pan roedd pryder cyhoeddus bod Llywodraeth Tsieina yn gallu defnyddio'r ap i gasglu gwybodaeth.
Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud bod Ms Jones "wedi derbyn bod ei phost yn 'hollol amhriodol ac annerbyniol' ac wedi ymddiheuro amdano".
Yn ôl adroddiad Mr Bain hefyd, fe alwodd Ms Jones cyn-weithiwr yn "wanker" ac yn "bitter, twisted, useless person", mewn sgwrs WhatsApp gydag aelod arall o staff.
Yn y neges fe ysgrifennodd "Fe drïais i ddeall".
"Fe wnes i hyd yn oed gofyn a oedd ganddo ADHD neu rywbeth, ac os oedd angen cefnogaeth ychwanegol arno... achos mae 'na rywbeth sydd ddim yn iawn efo fo!?"
Fe gafodd yr unigolyn ei alw yn "Grade A prick", gan yr aelod arall o staff oedd yn rhan o'r sgwrs.
Mewn neges ar 13 Tachwedd 2023, dywedodd yr aelod o staff uchod mewn neges WhatsApp: "Roedd Suella [Braverman, y cyn-ysgrifennydd cartref] yn gywir yn yr hyn a ddywedodd hefyd. Mae yna ddwy haen i blismona. Roedd yn amlwg dros y penwythnos os ydych chi'n wyn a dosbarth gweithiol rydych chi'n cael eich curo, os ydych chi'n Islamist mae popeth yn iawn, chwydwch yr holl gasineb yr ydych chi ei eisiau."
Dywedodd y pwyllgor safonau fod Ms Jones wedi derbyn bod y sylwadau yn "annerbyniol" ond ei bod hi wedi methu â herio sylwadau gan ei staff.
Ar ôl ystyried canfyddiadau'r comisiynydd, dywedodd y pwyllgor fod Ms Jones wedi torri sawl rheol o'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau o'r Senedd a dywedodd bod ei hymddygiad "ymhell islaw'r safonau disgwyliedig".
"Mae'n awgrymu diwylliant o fewn ei swyddfa ble nad oedd llawer o barch tuag at eraill nac unrhyw ystyriaeth o'r hyn a allai gael ei ystyried yn sarhaus gan eraill."
AS Reform yn gwadu ceisio gwneud y mwyaf o'i threuliau
- Cyhoeddwyd6 Medi
'Dim tystiolaeth o dwyll' gan Aelod Ceidwadol o'r Senedd
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
Bydd y Senedd yn pleidleisio ar yr argymhelliad i wahardd yr aelod am 14 diwrnod ddydd Mercher nesaf.
Roedd Mr Bain hefyd wedi ymchwilio i honiad bod Ms Jones wedi dweud wrth aelod o staff i wneud ceisiadau treuliau ffug am filltiroedd nad oedd wedi'i chyflawni.
Fe gafodd y cwynion eu cyfeirio at yr heddlu, ddaeth i'r canlyniad nad oedd unrhyw dystiolaeth o dwyll.
Dywedodd y gwleidydd ei bod wedi "dweud wrth yr achwynydd i ddefnyddio'r holl gofnodion sydd ar gael, er mwyn sicrhau ei bod hi'n cynnwys yr holl deithiau y gellid gwneud cais priodol amdano".
Mae'r pwyllgor yn nodi "ar y cyfan [roedd Mr Bain] yn fodlon bod fersiwn yr aelod o'r digwyddiadau yn fwy tebygol na pheidio o fod yr un cywir'" ac felly nad oedd wedi canfod fod Ms Jones wedi hawlio treuliau ffug.
Yn ôl yr adroddiad, mae Ms Jones wedi ad-dalu'r arian a hawliwyd am deithiau nad oedd hi wedi'i gwneud.
Roedd canfyddiadau Mr Bain, gafodd eu rhyddhau i BBC Cymru ym mis Medi, wedi cael eu beirniadu gan yr achwynydd.
Mae'n dweud iddi wneud cwyn allan o "ddial" ar ôl iddi gael ei diswyddo gan Laura Anne Jones ac yn beirniadu ei "hymddygiad" pan gafodd ei chyfweld.
Gwrthodwyd hynny gan yr achwynydd sydd yn dadlau bod Mr Bain wedi "gwadu proses deg a rhesymol i mi".
Mae adroddiad y pwyllgor Safonau yn dweud ei fod wedi nodi "sylwadau'r achwynydd am ffordd y comisiynydd o ymdrin â niwroamrywiaeth".
Ychwanegodd y pwyllgor ei fod wedi codi'r pryderon hyn gyda'r comisiynydd.
Mae llefarydd ar ran Reform yn dweud na fydden nhw'n gwneud sylw tan fod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n swyddogol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.