Gobaith i ymchwil arloesol drawsnewid triniaeth afiechyd meddwl difrifol

Mae Joe, sydd ag anhwylder deubegwn a seicosis yn dweud bod angen gwell dealltwriaeth am y cyflyrau yma
- Cyhoeddwyd
"Fi'n really lwcus achos ges i naw mis o trauma therapy gan y tîm iechyd meddwl lleol, fi nawr mewn lle dwi'n gallu delio 'da stress.
"Weithiau fi'n y tŷ am cwpl o ddyddie a fi ffili mynd mas a wedyn fi'n cael cyfnodau pryd fi really yn manic yn hollol motorised, ddim yn cysgu am ddyddie ond ma' rheolaeth 'da fi nawr."
Mae Joe Williams, 52 sy'n dod yn wreiddiol o'r Rhondda, yn cymryd rhan mewn cynllun arloesol i wella diagnosis a thriniaeth cyflyrau fel sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn [bipolar disorder] a seicosis.
Prifysgol Caerdydd sy'n arwain yr astudiaeth, gydag ymchwilwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn casglu data gan 600 o bobl i wella dealltwriaeth o afiechyd meddwl difrifol.
Am y tro cyntaf bydd y data sy'n cael ei gasglu'n gan Hwb yr Ymennydd a Genomeg, dolen allanol sy'n edrych ar y darlun cyfan gan gynnwys ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol.
Mae Joe, sydd ag anhwylder deubegwn a seicosis, yn dweud bod angen gwell dealltwriaeth o fewn cymdeithas a llai o stigma.
"Mae lot o waith gyda ni 'neud a fi'n gobeithio bod yr ymchwil yma yn mynd i really edrych ar hwnna a gobeithio yn mynd i helpu cymdeithas i weld iechyd meddwl yr un fath a rhywbeth fel canser."
Cafodd Joe ei chamdrin yn rhywiol pan yn ifanc, ac fe ddechreuodd yfed er mwyn delio'r â'r boen. Bu hefyd mewn perthnasau treisgar fel oedolyn.
"Un o'r pethe o'n i'n arfer 'neud oedd mynd mas a cael sexually risky behaviour a fi'n meddwl bod pobl ddim yn gweld hwnna fel symptom o iechyd meddwl, mae'r feriniadaeth o fenwywod sy'n 'neud 'na, mae'r stigma mor wael."
Bu Joe yn gweithio ym maes diogelu plant ac yn arwain tîm o weithwyr cymdeithasol, mae hi bellach yn gwirfoddoli gydag elusen sy'n cefnogi unigolion.
Mae'n dweud bod y gefnogaeth mae hi wedi ei dderbyn gan ei merch yn allweddol yn enwedig pan mae'n dioddef.
"Pan fi'n isel mae'r spiral yn digwydd yn gyflym", meddai.
"Os o'dd e ddim am fy merch i, byddwn i wedi treulio lot o amser mewn ysbytai meddwl. Mae hi'n gweld e achos yn y foment, ti ddim yn gwybod bod e ddim yn real."
Soniodd am un achlysur pan gladdodd ei hun mewn mwd yn ei gardd.
"O'n i wedi palu yn yr ardd a claddu'n hunan, a gorchuddio'n hunan mewn mwd.
"Do'n i ddim yn fodlon golchi am dros dridie achos on i'n meddwl bod yr ysbrydion yn y mwd yn amddiffyn fi."

Mae'r seiciatrydd Dr Rhys Bevan Jones yn dweud bod y prosiect yn un "cyffrous iawn"
Mae anhwylder deubegwn a sgitsoffrenia yn effeithio ar tua 3% o'r boblogaeth.
Mae gan y rhai sydd â'r afiechydon hyn ddisgwyliad oes byrrach - rhwng 10 a 20 mlynedd yn llai na'r boblogaeth yn ehangach.
Yn ogystal mae ymchwilwyr yn dweud nad oes unrhyw therapïau newydd wedi eu cyflwyno ers dechrau defnyddio lithiwm a gwrthseicotigau 50 mlynedd yn ôl.
Bydd y gwaith ymchwil yn torri tir newydd, yn ôl y seiciatrydd Dr Rhys Bevan Jones sy'n rhan o'r prosiect.
Drwy'r defnydd o sganiau MRI a MEG, bydd gweithgaredd yr ymennydd yn cael ei nodi gyda'r bwriad o wella dealltwriaeth a thriniaethau yn y dyfodol.
Helpu ymchwilwyr yn fyd eang
"Mae'r hwb yn brosiect cyffrous iawn ble ni'n dod â pobl at ei gilydd sydd yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl difrifol fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn", meddai Dr Rhys Bevan Jones.
"Ni'n edrych ar wahanol ffactorau er enghraifft ffactorau geneteg, sganio'r ymenydd, symptomau clinigol, pethau cymdeithasol er mwyn deall y cyflyrau yma'n well.
"Ry'n ni tu nôl yn gyffredinol yn glinigol ond hefyd o ran ymchwil yn y byd iechyd meddwl i gymharu ag ardaloedd eraill o feddygaeth," ychwanegodd.
Ar ôl casglu data gan y cannoedd sy'n cymryd rhan yn anhysbys, bydd yr wybodaeth ar gael fel adnodd i ymchwilwyr eraill ledled y byd.

Yn ôl Carys Williams o Adferiad mae'n cymryd yn hirach i gael diagnosis anhwylder deubegwn yng Nghymru
Mae'r elusen iechyd meddwl, Adferiad hefyd yn rhan o'r cynllun ac yn gobeithio y bydd yn arwain at wella dealltwriaeth a diagnosis.
"'Da ni'n mewn sefylla lle ma pobl bipolar er enghraifft yn cymryd 12 mlynedd iddyn nhw gael diagnosis yng Nghymru," meddai Carys Jones o'r elusen.
"Ma' hwnna'n cymharu â naw mlynedd yn Lloegr, sydd yn amlwg yn amser rhy hir iddyn nhw aros gyda'r symptomau eang ma nhw'n dioddef."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020

- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
