'Dylid gohirio treth etifeddiant ffermwyr' - pwyllgor ASau

Protest yn Llandudno ar 16 Tachwedd 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llandudno yn un o'r llefydd a welodd brotestiadau gan ffermwyr y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Dylai newidiadau i dreth etifeddiant ffermwyr gael eu gohirio, yn ôl grŵp trawsbleidiol o ASau.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw ar Lywodraeth y DU i gynnal asesiad ar yr effaith benodol ar Gymru, cyn gweithredu'r newidiadau sydd i fod yn dod i rym fis Ebrill 2026.

Mae eu hadroddiad ar ffermio yng Nghymru yn dweud bod y llywodraeth wedi creu "hinsawdd o ansicrwydd a dryswch" i ffermwyr.

Dywedodd y Trysorlys fod "40% o Ryddhad Eiddo Amaethyddol (treth etifeddiant) - gwerth £219m - yn mynd i 117 o ystadau yn unig" a'u bod eisiau i'r arian hwnnw fynd tuag at wasanaethau cyhoeddus.

Ruth Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ruth Jones, er bod rhywfaint o eiriad yr adroddiad yn "llym", mae'n "gywir"

Y llynedd cafodd cynlluniau eu cyhoeddi yng nghyllideb gyntaf Rachel Reeves i drethu asedau amaethyddol etifeddol gwerth mwy na £1m ar gyfradd o 20%.

Arweiniodd hynny at brotestiadau ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn dweud bod Llywodraeth y DU yn "hunanfodlon" wrth ddelio gyda'r newidiadau.

Mae'n "enghraifft amlwg", medden nhw, o bolisi'r DU yn anwybyddu "natur unigryw" ffermio yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio hefyd na chafodd unrhyw ddata ei gyhoeddi am nifer y ffermydd fyddai'n cael eu heffeithio yng Nghymru.

Canlyniad hynny, yn ôl yr adroddiad, yw bod y "gwagle" hwnnw wedi'i lenwi gan sefydliadau a gyhoeddodd ystadegau eu hunain, gan gynnig amcangyfrifon "hollol wahanol" o'r effaith debygol.

Dim ond y 500 o'r ffermydd cyfoethocaf fydd yn cael eu heffeithio bob blwyddyn gan y newidiadau, meddai Llywodraeth y DU.

Mae'r union niferoedd yn dal i fod yn destun dadl.

Eirian Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd tua 92% o ffermwyr a busnesau bach yn cael eu heffeithio," yn ôl ffigyrau Eirian Humphreys

Yn ôl Eirian Humphreys, cyfarwyddwr cyfrifwyr LHP yng Nghaerfyrddin, sy'n gweithio gyda nifer o fewn y diwydiant amaeth, dyw eu ffigyrau nhw ddim yn cyd-fynd â rhai'r llywodraeth o gwbl.

"Y ffigwr o ran ein cleientiaid ni yw y bydd tua 92% o ffermwyr a busnesau bach yn cael eu heffeithio," meddai.

"Dwi ddim yn siŵr ble mae'r llywodraeth yn cael eu ffigyrau o 7%, ond ni'n delio yn y byd real gyda chleientiaid sydd mewn busnes pob dydd.

"Mae gohirio'r dreth etifeddiant yn iawn am flwyddyn, ond y broblem fi'n gweld yw, os nad ydyn nhw'n mynd i newid a derbyn ystadegau sydd gyda ni fel cyfrifwyr a phobl tebyg, dyw e ddim yn mynd i newid y canlyniad, a dim ond cicio'r can lawr yr hewl maen nhw'n gwneud wrth ohirio."

Mae'r pwyllgor yn awgrymu y gallai Llywodraeth y DU ddechrau "adeiladu pontydd" gyda ffermwyr Cymru trwy oedi'r newidiadau sydd ar y gweill.

Byddai hynny, medden nhw, yn ei gwneud hi'n bosib cyhoeddi "asesiad cynhwysfawr addas", i aelodau graffu arno.

Maen nhw'n mynnu bod Llywodraeth y DU yn cydnabod "amgylchiadau diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd unigryw ffermio yng Nghymru" wrth wneud penderfyniadau polisi, ac yn argymell y dylai Swyddfa Cymru arwain asesiadau effaith yn y dyfodol - ochr yn ochr â pha bynnag adran sy'n gweithredu'r newidiadau.

Dywedodd Ruth Jones, cadeirydd y pwyllgor, er bod rhywfaint o eiriad yr adroddiad yn "llym", mae'n "gywir".

"Ar y funud dyw'r llywodraeth ddim yn ymddangos fel eu bod nhw'n becso am ffermwyr Cymru, ac ry'n ni'n gofyn iddyn nhw ystyried y gwahaniaethau yng Nghymru, a rhoi stop ar y trethi nes bod modd gwneud asesiad effaith llawn," meddai.

'40% yn mynd i 117 o ystadau'

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Rydyn ni'n cefnogi ffermydd Prydain gyda Lwfans Buddsoddi Blynyddol o £1m ar gyfer buddsoddi mewn peiriannau, biliynau ar gyfer bwyd cynaliadwy, a gweithredu er mwyn torri costau allforio i'r Undeb Ewropeaidd.

"Ar hyn o bryd mae 40% o Ryddhad Eiddo Amaethyddol (treth etifeddiant) - gwerth £219m - yn mynd i 117 o ystadau yn unig.

"Bydd ein diwygiadau yn rhoi'r buddsoddiad hwnnw i wasanaethau cyhoeddus allweddol."

Mae Llywodraeth Cymru wedi diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad, ac yn dweud y byddan nhw'n "nodi ei gasgliadau".

Peter Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae newidiadau am "newid y dyfodol i ni fel teulu," medd y ffarmwr Peter Rees

Dywedodd Peter Rees, sy'n ffermwr yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, fod y dreth am "effeithio yn fawr iawn" arnyn nhw fel teulu.

"Ma' tri ohonom ni yn y bartneriaeth ac wedi mynd heibio ein 65 - a rhai ohonyn ni'n hynach.

"Mae e'n newid yn gwbl y dyfodol i ni fel teulu," meddai.

Esboniodd mai'r cyngor yr oedden nhw wedi ei gael hyd yma, oedd nad oedd unrhyw "hast" i benderfynu ar y ffordd yr oedden nhw am ddatblygu a phasio'r fferm ymlaen.

Ychwanegodd Mr Rees bod popeth roedden nhw'n ei wneud ar y fferm er mwyn y genhedlaeth nesaf, yn hytrach na nhw eu hunain.

"Nawr ma' rhaid i ni wneud penderfyniad straight away.

"S'dim arian i ni, ma' popeth yn yr adeiladau, yr anifeiliaid a'r tir."

Huw Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Thomas y byddai'n "gobeithio ac yn cymell" y llywodraeth i ystyried yr adroddiad

Fel cynghorydd gwleidyddol NFU Cymru, mae Huw Thomas yn gweithio gyda ffermwyr yn aml a dywedodd fod pryderon Peter Rees yn rhai cyffredin.

"Ma' stori Peter yn eitha' nodweddiadol o'r hanesion a'r straeon ni'n cael o amgylchiade rhai o'n haelodau ni a sut effaith ma'r dreth am ei chael arnyn nhw."

Esboniodd Mr Thomas ei fod yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn cymryd sylw o'r adroddiad.

"Mae'r adroddiad yma yn un cryf, ma' fe'n feirniadol o'r llywodraeth.

"Byddwn i'n gobeithio ac yn cymell y llywodraeth i gymryd hwn mewn i ystyriaeth ac i gymryd golwg arno fe."

Ychwanegodd Huw Thomas y byddai "creu'r gwagle 'na i ni gael edrych ar bethau eto, i gael ystyried pethau - bydde fe'n lot o help."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.