Dyn yn gwadu llofruddio Ian Watkins yn y carchar

Bu farw Ian Watkins ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi gwadu llofruddio Ian Watkins, y troseddwr rhyw oedd yn arfer bod yn ganwr i'r grŵp roc o Gymru Lostprophets.
Roedd Watkins, o Bontypridd, wedi'i garcharu am 29 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant - gan gynnwys ymgais i dreisio babi.
Bu farw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref.
Yn Llys y Goron Leeds fore Mercher, fe blediodd Samuel Dodsworth yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae hefyd wedi gwadu cyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant yn y carchar ar y diwrnod y cafodd Watkins ei ladd.
Mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ym mis Mai y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth ail ddiffynnydd, Rico Gedel sy'n 25 oed - sydd hefyd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth - wrthod ymddangos yn y llys ar ffurf fideo a ni chyflwynwyd ple ar ei ran.
Cadarnhaodd yr heddlu fis diwethaf bod dau ddyn arall, carcharorion 23 a 39 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref

- Cyhoeddwyd21 Hydref
