Arestio dyn yn ei 80au dros honiadau hanesyddol yn erbyn plant

Dywedodd yr heddlu bod y dyn o ardal Blaenau Ffestiniog wedi ei arestio ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o ardal Blaenau Ffestiniog wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.
Cafodd y dyn yn ei 80au ei arestio ar 13 Tachwedd ar amheuaeth o sawl ymosodiad anweddus.
Cafodd ei gludo i'r ddalfa yn Llanelwy, Sir Ddinbych.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Christopher Bell: "Byddwn yn gweithio'n ddidrugaredd am unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â gweithgaredd rhywiol amhriodol yng ngogledd Cymru ac yn ymchwilio i'r mater.
"Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi profi camdriniaeth rywiol i rannu gyda ni, pryd bynnag y digwyddodd hynny. Dyw hi byth yn rhy hwyr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.