Llais y stadiwm yn galw am fwy o Gymreictod ar drothwy ei gêm olaf

Ar ôl 35 mlynedd wrth y meicroffon, mae'r actor Iestyn Garlick yn paratoi ar gyfer ei gêm olaf fel llais y stadiwm yng ngemau rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
"Byddwch yn Gymry," medd llais rygbi stadiwm ar drothwy ei gêm olaf.
Mae'n ddiwedd cyfnod i Iestyn Garlick wrth iddo baratoi i gyhoeddi yn ei gêm rygbi olaf yn y stadiwm cenedlaethol.
Ar ôl datgan rai misoedd yn ôl ei fod am roi'r gorau i gyhoeddi'r sgôr ac enwau'r sgorwyr ceisiau, bydd yn cydio yn y meicroffon am y tro olaf yn y gêm rhwng Cymru a De Affrica brynhawn Sadwrn.
Ar drothwy'r achlysur, bu'n sôn wrth BBC Cymru am ei awydd i weld elfen fwy "Cymreig" mewn gemau cenedlaethol.
Iestyn Garlick i roi'r gorau i'w rôl fel llais gemau Cymru
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
12 newid i dîm Cymru yn erbyn De Affrica a Tom Rogers wedi'i anafu
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
"Mae'r awyrgylch wedi newid yn sylweddol ers fel o'dd hi yn yr hen Barc yr Arfau, lle o'dd gynnoch chi jyst band a'r arweinydd yn arwain y dorf," meddai.
"Erbyn hyn mae'r dechnoleg yn caniatau'r holl oleuadau, mae'r peth wedi troi mewn i ryw fath o ddisgo efo'r goleuadau'n fflachio ym mhobman.
"Ond dydy o ddim yn Gymreig iawn.
"Dwi ddim yn d'eud bod o'n wrth-Gymreig neu'n anghymreig. Cadw fo'n fywiog ac yn ifanc a hynna i gyd, ond 'chydig bach o - mwy na jyst nod at Gymru, byddwch yn Gymry."

Mae Iestyn Garlick yn dweud bod sawl gêm gofiadwy dros y blynyddoedd
Pan gychwynnodd gyhoeddi ar ddechrau'r 1990au, doedd Iestyn Garlick ddim yn credu y byddai'n drefniant parhaol ac felly ddim yn cofio'r union gêm gynta' iddo weithio arni.
Ond mae'n dweud bod sawl gêm gofiadwy dros y blynyddoedd, gan gynnwys pan enillodd Cymru'r Gamp Lawn yn erbyn Iwerddon ym mis Mawrth 2005.
"Diwrnod bendigedig yng Nghaerdydd, o'dd y lle dan ei sang ac mi o'dda chi'n gw'bod bod ni'n mynd i ennill.
"O'dd y sgript i gyd yn ei le, o'dd yr actorion yn eu lle, er bod Iwerddon wedi trio'u gorau glas i rwygo'r sgript fyny, 'naethon nhw fethu a gaethon ni ddiwrnod bendigedig.
"Ma' hwnnw'n bendant yn sefyll yn y co'."

Mae Iestyn Garlick hefyd yn cofio am ambell dro trwstan wrth gyhoeddi sgorwyr y ceisiau.
"Mae un stori dwi'n d'eud yn aml iawn. Mi o'dd 'na wobr o £1,000 i bwy bynnag o'dd yn cael y cais cynta' yn y stadiwm, a'r gêm gynta' 'nathon ni chwarae yn erbyn De Affrica fel mae'n digwydd.
"Ma' pawb yn gw'bod erbyn hyn mai Mark Taylor gafodd y cais cynta' 'na. Mi 'nes i gyhoeddi gydag arddeliad mai Alan Bateman o'dd o!
"Mae 'na reswm am hynna - o'dd gen i ddim teledu, doedd 'na ddim sgrins mawr yn y stadiwm, o'n i reit yr ochr arall, mi sgoriodd o ym mhen cae Caerdydd a 'nai gyd weles i o'dd y rhif 12 yn mynd ar draws y llinell.
"Nes i edrych ar fy rhaglen a gweld rhif 12, Alan Bateman. Doedd neb wedi d'eud wrtha' i bod Alan Bateman a Mark Taylor wedi cyfnewid crysau!"

Wrth symud o un stadiwm i'r llall, a'r newid yn yr awyrgylch dros y blynyddoedd, dywedodd bod yna "waith" i'w wneud ond fod yna "bobl o fewn yr undeb sy'n Gymry Cymraeg yn cicio yn erbyn y tresi a thrio cael pethau i newid, ond talcen caled fydd hi".
Mae hefyd yn adlewyrchu ar sefyllfa'r gêm yng Nghymru erbyn hyn, gan ddweud: "Dwi 'di bod yn rhan o'r uchelfannau a 'da ni 'di wedi mynd i'r gwaelod.
"Does dim dwywaith, fydd y 15 fydd ar y cae ddydd Sadwrn yn gwneud eu gorau glas i roi gêm i'r gwrthwynebwyr fel 'naethon nhw wythnos diwetha' yn erbyn Seland Newydd.
"Dwi ddim yn amau brwdfrydedd y chwaraewyr ond mae 'na r'wbeth mawr o'i le a 'dwi ddim yn hollol siŵr be' ydy'r atebion.
"Dwi'n meddwl bod angen dod â rhywun mewn o gefndir rygbi yn hytrach na chefndir busnes - er mae rygbi, wrth gwrs, yn fusnes enfawr."

Mae Iestyn Garlick wedi cadw nifer o raglenni a thocynnau'r wasg dros y blynyddoedd
Wrth baratoi at ei gêm olaf yn cyhoeddi ar ôl 35 mlynedd, mae'n dweud ei fod yn teimlo mai dyma yw'r amser iawn i roi'r gorau iddi.
"Fydda i ddim yn mynd o 'na efo deigryn dwi'm yn meddwl achos dwi'n reit fodlon yn dod â'r peth i fwcl.
"Mae'n gyfnod digon hir a dwi'n teimlo 'mod i 'di gwneud fy siâr, dwi 'di trio cadw'r Gymraeg yn weddol flaengar ac mae'r llais yn dal yn weddol.
"'Swn i'n licio gadael efo pobl yn d'eud 'biti bod o 'di mynd', yn hytrach na 'biti bod o ddim wedi mynd'!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.