Dyn yn addo gofalu'n well am gar James Bond £1m wedi gwaith trwsio

Ar ôl tair blynedd o waith adnewyddu mae'r car bellach werth £1m
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o'r gogledd oedd yn berchen car Aston Martin oedd yn cwympo'n ddarnau wedi addo gofalu am y cerbyd yn well, ar ôl i waith atgyweirio olygu ei fod bellach werth £1m.
Y tro diwethaf i John Williams, 71, yrru'r Aston Martin DB5 - yr un math ag oedd gan James Bond - oedd yn ystod y 1970au.
Ond nawr - mwy na 45 o flynyddoedd yn ddiweddarach - mae'n ôl ar y ffyrdd yn dilyn gwaith helaeth.
Roedd Mr Williams o'r Wyddgrug, Sir y Fflint, wedi bod yn hoff iawn o'r car ers yn ifanc ac erbyn iddo gyrraedd 19 oed roedd wedi arbed digon o arian i brynu un ei hun am lai na £1,000.
Ar ôl i Mr Williams gael swydd dramor cafodd y car ei adael ar y dreif - ac roedd mewn cymaint o stad bod plant yn chwarae ac yn dringo drosto i gyd.
Mae wedi cymryd tair blynedd o waith ond mae'r car bellach mewn cyflwr gwell na'r gwreiddiol, meddai Mr Williams, ac mae ei weld wedi'i adnewyddu fel "gwireddu breuddwyd".
- Ffynhonnell y llun, Marc Bow/Timbuktu Content

Disgrifiad o’r llun, Doedd John Williams ddim wedi gyrru'r car ers iddo fod yn ei 20au
1 o 4
Cafodd y DB5 ei gynhyrchu rhwng 1963 a 1965, ond fe gynyddodd eu poblogrwydd ar ôl i James Bond yrru un yn y ffilmiau Goldfinger a Thunderball.
Roedd y ceir yn cynnwys sedd alldaflu (ejector seat) a phlatiau rhif oedd yn newid.
Fe brynodd Mr Williams un yn ail-law yn 1973 am £985 - sy'n cyfateb i tua £15,000 heddiw.
Ond ar ôl cael swydd dramor a gadael y car adref fe ddechreuodd ei gyflwr ddirywio.
Esboniodd ei wraig, Susan fod plant y cymdogion yn arfer "bownsio ar y boned ac o'n i'n rhoi row iddyn nhw".
Roedd hi'n cofio un plentyn yn neidio ar y to yn meddwl a fyddai'r to yn agor "gan ei fod wedi gweld ffilm Bond ac yn meddwl y byddai'r sedd yn dod i fyny".
Dros 100 o swyddi Aston Martin mewn perygl ym Mro Morgannwg
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd
Lansio car cyntaf ffatri Sain Tathan
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019
Golwg gyntaf ar geir Aston Martin
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2018
Ond er gwaethaf ei gyflwr fe wnaeth Aston Martin ddweud bod y car dal werth £500,000.
Dywedodd Susan fod John wedi cael cynigion i werthu'r car dros y blynyddoedd a'i fod bron iawn â gwneud hynny, ond bob tro penderfynodd beidio yn y pen draw.
Ers hynny mae'r cwpl wedi arbed digon o arian i gwblhau'r gwaith adnewyddu a gymerodd tair blynedd, a bellach mae'n sgleinio.

Dywedodd John Williams bod y car !yn well nawr nag oedd o pan ddaeth allan o'r ffatri"
Ar ôl gyrru'r car am y tro cyntaf ers dros 45 o flynyddoedd, dywedodd John: "Mae'n rhaid ei fod yn well nawr nag oedd o pan ddaeth allan o'r ffatri.
"Mae'n anhygoel.
"Bydden i'n hoffi pe bai nhw'n gallu gwneud yr un peth gyda fi a gwneud i mi edrych yn 27 eto. Rwy'n sicr yn teimlo'n 27 heddiw."
Doedd Susan ddim wedi bod yn y car gyda John wrth y llyw o'r blaen ac roedd wrth ei bodd.
"Mae'r sŵn yn wych.
"A phan o'n ni'n mynd ychydig yn gynt, o'n i'n meddwl ia cer yn gynt. Gad i ni weld beth all hon wneud!'"
Dim ond ar gyfer achlysuron arbennig y mae John yn bwriadu gyrru'r car ac mae wedi addo na fydd byth yn ei esgeuluso eto.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


