Ymchwilio os oedd dyn yn ffugio teitl lluoedd arfog ar Sul y Cofio

Roedd y dyn yn gwisgo lifrai un o'r rhengoedd uchaf yn y Llynges Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion yn ymchwilio i weld a wnaeth dyn, a oedd yn rhan o seremoni Sul y Cofio, ffugio ei fod wedi bod yn y llynges.
Fe wnaeth y dyn ar y cyd ag eraill osod torch yn Llandudno ddydd Sul ac fe saliwtiodd y gofeb ryfel cyn gorymdeithio i ffwrdd gyda pherson arall.
Dywed aelodau a chyn-aelodau y lluoedd arfog eu bod wedi dod yn amheus pan welon nhw'r dyn yn gwisgo lifrai a medal brin am wasanaethu.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn ystyried hyn fel mater difrifol a bod dynwared swyddog o'r llynges yn gallu bod yn drosedd.
Nifer yn pryderu
Roedd cannoedd o bobl ar lan y môr yn Llandudno y penwythnos diwethaf yn nodi Sul y Cofio.
Yn ystod y digwyddiad gwelodd aelodau o Gymdeithas Lyngesol Frenhinol y dref ddyn yn gwisgo gwisg anarferol ymhlith rhengoedd y milwyr a'r cyn-filwyr.
Roedd y dyn yn gwisgo'n rhannol lifrai un o'r rhengoedd uchaf yn y Llynges Frenhinol.
Roedd ganddo hefyd amrywiaeth o fedalau ar ei frest chwith, gan gynnwys un fedal brin - dim ond ychydig sydd wedi'u dyfarnu ers 1979.
Mae nifer o gyn-filwyr a swyddogion sy'n gwasanaethu wedi mynegi pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol gan amau nad oedd y dyn, o bosib, wedi bod yn y llynges ac mae'n bosib nad oedd o wedi ennill yr holl fedalau yr oedd yn eu gwisgo.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod dynwared swyddog yn "sarhau unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth"
Cyngor Tref Llandudno oedd yn trefnu'r digwyddiad ac maen nhw wedi cadarnhau nad oedd disgwyl unrhyw un â'r teitl, yr oedd y dyn hwn yn ei arddel, i fynychu'r seremoni.
Dywedodd y Cynghorydd Greg Robbins, cadeirydd yr is-bwyllgor dinesig fod y dyn "wedi cael ei herio gan farsial yr orymdaith".
"Ond, fe ddywedodd ei fod o reng benodol a'i fod yn cynrychioli swyddfa'r Arglwydd Raglaw.
"Nid oedd gan farsial yr orymdaith lawer o ddewis ond ei gynnwys yn y seremoni gosod torchau."
Y peth pwysicaf am seremonïau Sul y Cofio, meddai Mr Robbins, "ydy eu bod nhw ag urddas briodol - ac mi oedd hon hefo hynny".
"Ni wnaeth yr unigolyn yma amharu ar y seremoni, ond rydym yn awyddus i wybod pwy oedd o, a byddwn yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ar eu hymchwiliad."
Sul y Cofio: 'Meddwl am ffrindiau na sydd yma fyddai i'
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Cafodd y dyn ei weld yn cerdded at y gofeb ryfel gyda pherson arall, oedd hefyd yn gwisgo lifrai khaki.
Gosododd y person arall dorch cyn i'r ddau gyfarch a cherdded i ffwrdd gyda'i gilydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod dynwared swyddog o'r llynges yn "sarhau unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth a gellir ei ystyried yn drosedd".
"Ni ddylai unrhyw beth dynnu oddi wrth deimlad dwys Sul y Cofio, sy'n gallu bod yn amser sobr i aelodau teulu'r Llynges Frenhinol ac yn gyfle i bobl mewn cymunedau ledled y wlad i dalu parch i bobl sydd wedi neu sy'n parhau i wasanaethu eu gwlad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.