Comisiynydd y Gymraeg 'wedi colli'i ffordd' - Cymdeithas yr Iaith

Mae Efa Gruffudd Jones wedi bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ers 2022
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Comisiynydd y Gymraeg o "golli'i ffordd" am fod canran a nifer yr ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal wedi gostwng yn sylweddol.
Mae'r mudiad yn dweud bod canran y cwynion dilys sy'n destun ymchwiliad gan y Comisiynydd wedi gostwng o 63% yn 2021-22 i 26% yn 2024-25.
Maen nhw'n dweud mai dyma'r "ganran isaf o ymchwiliadau i gwynion yn hanes y swydd", ac mae nifer yr ymchwiliadau hefyd wedi gostwng o 66 i 20 yn ystod yr un cyfnod.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryderon am sawl peth arall yn ymwneud â swyddfa'r Comisiynydd yn ogystal.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod cynnal ymchwiliadau yn "rhan bwysig o'n ffordd o weithio" ond mai ei nod yw "sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn y gwasanaethau y dylent eu cael drwy geisio osgoi sefyllfaoedd lle mae sefydliadau yn methu yn y lle cyntaf".
Ffocws Comisiynydd y Gymraeg ar bobl ifanc, iechyd a'r gweithle
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
Angen 'shifft mewn polisi' ar addysg Gymraeg - comisiynydd
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Dirywiad cyson cynlluniau iaith yn 'destun pryder' - comisiynydd
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024
Daw'r feirniadaeth cyn i bwyllgor diwylliant y Senedd graffu ar waith Comisiynydd y Gymraeg mewn sesiwn ddydd Mercher.
Efa Gruffydd Jones sydd wedi bod yn y rôl ers 2022.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon eu pryderon at gadeirydd y pwyllgor cyn y sesiwn.
Beth yw'r ystadegau?
Fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg dderbyn 104 o gwynion dilys yn 2021-22.
Agorwyd ymchwiliad i 66 o'r achosion hynny - 63%.
Yn 2024-25 derbyniwyd 77 o gwynion dilys.
Fe wnaeth swyddfa'r Comisiynydd agor ymchwiliad i 20 - 26% - o'r cwynion hynny.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu'r ffaith bod y Comisiynydd wedi symud ei swyddfa i bencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays
Yn ogystal â'r gostyngiad yng nghanran y cwynion sy'n destun ymchwiliad, mae'r mudiad wedi codi rhagor o bryderon am swyddfa'r Comisiynydd.
Maen nhw'n dweud fod gwybodaeth oedd yn arfer cael ei gyhoeddi bellach yn cael ei guddio, ac yn eu cyhuddo o "wrthod herio Llywodraeth Cymru i estyn hawliau iaith i sectorau eraill".
Maen nhw'n dweud hefyd bod Cynllun Strategol newydd y Comisiynydd, a gafodd ei gyhoeddi eleni, yn rhoi "llawer llai o bwyslais ar hawliau iaith", a hefyd yn beirniadu'r ffaith bod y Comisiynydd wedi symud ei swyddfa i bencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod trywydd y cynllun yn groes i'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn 2011 oedd yn sefydlu swydd y Comisiynydd," meddai'r Gymdeithas.
"Mae'r ddeddf honno'n datgan mai drwy orfodi'r Safonau ar gyrff y mae hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn cael eu creu."
'Mae'n sgandal'
Dywedodd cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, Aled ap Robert: "Ers cael ei phenodi, mae'r Comisiynydd wedi dilyn agenda sy'n tanseilio'r ddeddfwriaeth, ac yn ceisio gweithredu dymuniadau rhai yn y gwasanaeth sifil sydd eisiau blaenoriaethu buddiannau cyrff fel nhw'u hunain yn lle hawliau iaith pobl.
"Yn llythrennol, mae hi wedi symud ei swyddfa i'r un adeilad â'r bobl hynny nad ydyn nhw eisiau rheoleiddio cadarn. Mae'n sgandal.
"Cyflwynwyd dull 'cydreoleiddio' o dan Efa Gruffydd Jones, sy'n brawf ei bod hi wedi colli ei ffordd.
"Mae hi wedi colli golwg ar ei swyddogaeth graidd fel rheoleiddiwr annibynnol dros y Gymraeg ac eiriolwr dros hawliau siaradwyr Cymraeg.
"Yn ogystal â gwanhau rheoleiddio, mae newid amlwg a niweidiol ym mhwyslais a chyfeiriad y sefydliad yn ei gyfanrwydd o dan y Comisiynydd presennol.
"Mae'n amlwg bod y Comisiynydd yn benderfynol o droi'r corff yn gorff a fydd yn bennaf yn hyrwyddo'r Gymraeg mewn ffordd feddal."
'Defnyddio'r dulliau mwyaf effeithiol'
Yn ymateb i feirniadaeth Cymdeithas yr Iaith dywedodd Efa Gruffydd Jones fod "sicrhau bod Safonau'r Gymraeg yn cael eu gweithredu'n briodol ac yn effeithiol yn rhan greiddiol o waith y sefydliad o ddydd i ddydd ac fe fydd yn parhau i fod drwy gydol cyfnod y cynllun strategol".
"Mae cynnal ymchwiliadau statudol a gosod camau gorfodi yn rhan bwysig o'n ffordd o weithio," meddai.
"Rydym yn gwneud hynny fel arfer pan fydd methiant wedi digwydd, ac yn arbennig, pan nad oes tystiolaeth bod sefydliadau yn cymryd camau i wella'r sefyllfa.
"Ond fy nod yw sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn y gwasanaethau y dylent eu cael drwy geisio osgoi sefyllfaoedd lle mae sefydliadau yn methu yn y lle cyntaf.
"Rydym yn gwneud hynny drwy ymyrryd yn gynnar, cefnogi sefydliadau i ddeall eu dyletswyddau, ac annog dulliau rhagweithiol o gydymffurfio.
"Nid yw hyn yn golygu gwanhau ein rôl fel rheoleiddiwr – mae'n golygu defnyddio'r dulliau mwyaf effeithiol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i siaradwyr Cymraeg."
Gostyngiad 5% yng nghyllid pob comisiynydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd21 Mai 2024
Comisiynydd y Gymraeg wedi 'ymyrryd' 837 gwaith
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2024
'Anghyfforddus' symud swyddfa comisiynydd - cyn-weinidog
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023
Ychwanegodd: "Dwi ddim am ymddiheuro am weithio yn fwy strategol a meddwl sut mae cael y datrysiad gorau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, a chyfeirio ein hadnoddau at wneud hynny – rwyf wedi bod yn hollol agored a thryloyw wrth wneud hynny.
"Rwyf hefyd wedi bod yn hollol agored yn nodi fy nyheadau i ehangu cwmpas y Safonau i gynnwys cyrff y Goron, yn ogystal â'r sefydliadau a'r sectorau eraill sydd eisoes wedi'u henwi yn y Mesur.
"Fel sefydliad cyhoeddus, rwy'n atebol i Senedd Cymru drwy adroddiadau blynyddol ac mae fy ngwaith yn destun craffu gan bwyllgorau'r Senedd.
"Rwyf yn croesawu unrhyw graffu ar ein gwaith ac yn barod i gael fy herio."
'Parchu annibyniaeth y Comisiynydd'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "fodlon bod gan Gomisiynydd y Gymraeg bwerau digonol i ymchwilio i gwynion".
"Fel swyddfa annibynnol, mater i'r Comisiynydd yw sut mae'r pwerau hynny'n cael eu harfer," meddai llefarydd.
"Rydyn ni'n cydnabod ac yn parchu annibyniaeth y Comisiynydd, sy'n hanfodol iddi gyflawni ei swyddogaethau statudol yn effeithiol a bod yn llais cryf, annibynnol dros y Gymraeg a'i siaradwyr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.