Rhybuddion llifogydd yn dal mewn grym yng Nghymru ddydd Mawrth

Mae Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, yn un o'r llefydd lle mae rhybudd coch yn dal mewn grym fore Mawrth [llun o ddydd Llun]
- Cyhoeddwyd
Mae sawl rhybudd llifogydd yn dal mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru [CNC] fore Mawrth, yn dilyn glaw trwm ddydd Llun.
Am 07:45 ddydd Mawrth, roedd gan CNC wyth rhybudd am lifogydd, dolen allanol a thua 40 o rybuddion 'byddwch yn barod'.
Yn y de orllewin mae rhybuddion coch mewn grym ar gyfer Afon Tywi rhwng Llandeilo ac Abergwili ac yng nghei Caerfyrddin, Afon Cynin yn Sanclêr, Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod ac Afon Cothi mewn ardaloedd isel ym Mhontargothi a Phont Ynys-wen.
Ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin a De Cymru wedi dweud nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw adroddiadau am lifogydd dros nos.
Mae rhybuddion yn dal i fod hefyd yn y gogledd orllewin hefyd - ger afonydd Colwyn a Glaslyn ym Meddgelert ac Afon Rhyd Hir ym Mhwllheli.
O ran y de ddwyrain, mae un rhybudd yn dal mewn grym ger Afon Elái yn Llanbedr-y-fro, Bro Morgannwg.
Rhybuddion llifogydd ar draws Cymru yn sgil rhagor o law trwm
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
Mae ffyrdd wedi bod ar gau mewn mannau oherwydd llifogydd, gan gynnwys mewn sawl lle yng Ngwynedd - Lôn Pont Morgan rhwng Pwllheli ac Abersoch, yr A487 rhwng Minffordd a Chorris, yr A4085 rhwng Pont Aberglaslyn a Llanfrothen a'r un ffordd rhwng Waunfawr a Rhyd-ddu.
Yn Sir Gaerfyrddin mae un ffordd wedi cau, sef Heol yr Orsaf, y ffordd o gylchfan yr A40 i orsaf drenau Llangadog.
Bu'r A487 ar gau hefyd rhwng Ffwrnais Dyfi a Thre'r-ddôl yng Ngheredigion, ond mae'r ffordd honno wedi ailagor erbyn hyn.
Mae nifer o ffyrdd yng Ngwynedd sydd ar agor ond bod angen gofal wrth yrru arnyn nhw, oherwydd dŵr.
Ymysg y rhain mae'r A497 ym Morfa Nefyn, yr A487 rhwng Penygroes a Groeslon, yr A496 rhwng Ynys a Harlech a'r A4244 rhwng Deiniolen a Rhiwlas.
Fe wnaeth Traffig Cymru alw ar bobl ddydd Llun i wirio'r rhybuddion neu gyfyngiadau ffordd diweddaraf cyn teithio ac i ystyried a oes wir angen gwneud y daith.
Does dim rhybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd ar hyn o bryd ac mae modd gwirio'r rhybuddion a'r cyngor diweddaraf ar wefan CNC, dolen allanol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.