Cyhuddo dyn, 64, o wisgo lifrai milwrol heb ganiatâd ar Sul y Cofio

Cafodd dyn ei weld yn gwisgo lifrai un o'r rhengoedd uchaf yn y Llynges Frenhinol yn ystod y gwasanaeth yn Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 64 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn honiadau fod rhywun wedi dynwared swyddog o'r llynges mewn digwyddiad Sul y Cofio dros y penwythnos.
Cafodd Jonathan Carley o Harlech ei arestio yn ei gartref ddydd Gwener ar amheuaeth o wisgo lifrai milwrol heb ganiatâd.
Daw ar ôl i luniau gael eu rhannu yn y wasg ac ar-lein o ddyn yn gwisgo lifrai'r llynges a medalau mewn digwyddiad Sul y Cofio yn Llandudno ar 9 Tachwedd.
Mae disgwyl i Mr Carley ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ganol Rhagfyr.
Dywedodd y prif arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: "Rydyn ni'n deall fod y digwyddiad yma wedi achosi pryder ymhlith y cyhoedd, yn enwedig o ystyried ei fod wedi digwydd ar Sul y Cofio.
"Wrth ymateb i adroddiadau a dderbyniwyd gan Heddlu'r Gogledd, mae swyddogion wedi ymateb yn gyflym ac wedi arestio a chyhuddo unigolyn.
"Rydyn ni'n annog y cyhoedd i osgoi rhannu sïon ar-lein ac i beidio â rhannu unrhyw gynnwys gallai effeithio ar y broses gyfreithiol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 awr yn ôl
