Lluniau: Dawnsathon 24 awr Trystan ac Emma
- Cyhoeddwyd
Wedi 24 awr flinedig, mae Trystan ac Emma wedi llwyddo dawnsio am 24 awr!
Fe wnaeth y ddau ddechrau dawnsio am 11:00 fore dydd Iau, a gorffen ar ddiwedd eu rhaglen fore Gwener. Cafodd y cyfan ei ddarlledu'n fyw ar Radio Cymru, Radio Cymru 2 ac iPlayer.
Wrth i'r ddau ddawnsio, daeth digon o westeion i'r stiwdio i'w cefnogi.
Gallwch gefnogi'r her a rhoi arian i elusen BBC Plant mewn Angen yma, dolen allanol.
Llongyfarchiadau mawr Trystan ac Emma! Dyma rai uchafbwyntiau:

Ymysg gwesteion cyntaf Dawnsathon Trystan ac Emma roedd criw o ddawnswyr gwych o Ysgol Hamadryad, Caerdydd.


Sabrina Lee o dîm tywydd BBC Cymru gyda Trystan brynhawn dydd Iau.



Wrth i Ifan Evans gyflwyno ar BBC Radio Cymru brynhawn Iau, roedd awr arbennig o ddawnsio llinell yng nghwmni'r criw yma o Frynaman.

Daeth Cordia hefyd i'r Dawnsathon yn ystod rhaglen Ifan Evans a pherfformio pedair cân yn fyw.

Criw o grŵp dawns cymunedol Jukebox Collective, Caerdydd.

Molly Palmer yn arwain y dawnsio brynhawn dydd Iau.

Am saith o'r gloch nos Iau, bu Huw Stephens yn cyflwyno'n fyw ar Radio Cymru. Gallwch wrando eto ar BBC Sounds.

Un o uchafbwyntiau y Dawnsathon i Emma oedd ymweliad Non a Rachael, ei chyd-aelodau o grŵp Eden.

A roedd digon o sbort i'w gael yn eu cwmni!

Ac am 11 y nos, fe ymunodd Caryl Parry Jones â'r criw.

Am hanner nos, daeth Côr Ifor Bach i'r stiwdio i ddawnsio a chanu...

Ac fe wnaeth Emma ymuno yn y canu!


Daeth perfformwyr drag i gefnogi Trystan ac Emma am un o'r gloch y bore.

Cadi a Cati, sydd hefyd yn aelodau o dîm cyflwyno Stwnsh ar S4C yn y stiwdio am 4 y bore gyda chriw o ffrindiau.


Daeth dau westai arbennig iawn i'r stiwdio am bump y bore! Roedd Cyw a Mr Urdd a'u cyfeillion yno i ddechrau dydd Gwener mewn steil. Chwe awr i fynd!


Erbyn 6:30 roedd Trystan ac Emma wir wedi blino! Yn ffodus roedd digon o wynebau cyfeillgar gerllaw i godi'r ysbryd.

Am wyth y bore daeth Jac Northfield a Sion Tomos Owen i gadw cwmni, a cafodd y ddau eu herio i dynnu llun o Trystan ac Emma. Er gwaethaf ymdrech Jac, teg dweud mai gwaith Sion wnaeth argraff fawr...

Wrth i ddiwedd yr her agosau, daeth Rhys Gwynfor a Lisa Angharad i'r stiwdio i berfformio dwy gân yn fyw.
Trystan ac Emma'n cwblhau'r Dawnsathon

