Arestio dyn ar amheuaeth o ffugio teitl lluoedd arfog ar Sul y Cofio

Roedd y dyn yn gwisgo lifrai un o'r rhengoedd uchaf yn y Llynges Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 64 oed wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau ei fod wedi dynwared swyddog o'r llynges mewn digwyddiad Sul y Cofio dros y penwythnos.
Fe wnaeth y dyn, ar y cyd ag eraill, osod torch yn Llandudno ddydd Sul, ac fe saliwtiodd y gofeb ryfel cyn gorymdeithio i ffwrdd.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod dyn o Harlech wedi'i arestio mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ymwneud â chamddefnyddio gwisg filwrol.
Daeth ar ôl i swyddogion ddarganfod lifrai'r llynges a medalau yn ei feddiant.
Dywed aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfog eu bod wedi dod yn amheus pan welon nhw'r dyn yn gwisgo lifrai a medal brin.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi'r digwyddiad fod dynwared swyddog yn "sarhau unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth"
Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan: "Mae ein hymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.
"Gallwn gadarnhau, wrth chwilio cyfeiriad y dyn yn gynharach heddiw, bod lifrai'r llynges a detholiad o fedalau wedi cael eu canfod.
"Bydd diweddariadau pellach ar yr ymchwiliad yn cael eu rhannu pan fyddant ar gael."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
