Mam yn diolch am gefnogaeth wrth gwblhau'r daith na lwyddodd ei gŵr

Llun teuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carrie yn benderfynol o fynd â'i phlant Ioan (chwith), a Gruff i weld eu gêm rygbi Cymru gyntaf

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i ddau'n dweud ei bod "wedi'i chyffwrdd gan holl gefnogaeth" ei chymuned leol ym Meifod a'r gymuned rygbi ehangach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ôl colli ei gŵr.

Bu farw Rhys Jenkins mewn gwrthdrawiad car ar 16 Tachwedd y llynedd a chafodd ei fab Ioan ei anafu'n ddifrifol.

Roedd y dyfarnwr rygbi'n teithio i Gaerdydd gyda'i fab i wylio ei gêm rygbi Cymru gyntaf erioed – roedd y ddau "mor gyffrous" meddai Carrie Jenkins – ond chyrhaeddon nhw ddim.

Bron i flwyddyn ers y digwyddiad, mae Carrie am "gwblhau'r daith" gan fynd â'i meibion, Ioan, 10, sy'n "gwneud yn dda", a Gruff, 7, i wylio Cymru yn erbyn Japan, a'i gwneud "yn daith bositif" ac yn "ddathliad er cof am Rhys".

Rhys Jenkins (chwith) a'i feibion Gruff (canol) ac Ioan (dde)Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhys Jenkins (chwith) yn "wladgarol" meddai ei wraig, ac yn "caru ethos a diwylliant rygbi, a bob amser am i'r bechgyn fod ynghlwm â'r gêm"

I ddechrau, roedd Carrie'n meddwl y byddai'n syniad braf mynd gyda chwpl o ffrindiau a theulu – ond fe ledodd y neges.

Bellach, mae dros 100 o bobl am ymuno â hi a'i phlant ddydd Sadwrn yng Nghaerdydd - aelodau'r gymuned, y clwb rygbi lleol ac eraill.

"Fyddai Rhys methu credu'r gefnogaeth," meddai.

"Bydd gwneud y daith yn rhywbeth positif, a rhyw fath o ddathliad er cof am Rhys – cael y bechgyn i'r gêm, a bod yna gyda theulu a ffrindie – yn deimlad calonogol yn hytrach na bod e'n gyfnod hollol drist," ychwanegodd.

Dywedodd ei bod hi'n anodd esbonio pa mor anodd y mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod ac nad yw'r achlysur yma'n ysgafnhau'r trawma.

"Ond mae'r ffaith bo' ni'n gwybod bod y gymuned yn gefn i ni, wedi bod yn rhan mor gryf o'r broses.

"Fyddwn ni ddim ble ydyn ni heddi heb ymateb pawb – ma' 'di bod yn fwy nag o'n i'n disgwyl."

Carrie JenkinsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Carrie ddim moyn i neb anghofio am Rhys na'i ran bwysig yn y gymuned

Mewn digwyddiadau sy'n newid bywyd fel hyn dywedodd Carrie eich bod chi naill ai'n "sink or swim".

"Mae pobl yn cadw dweud pa mor gryf ydw i, ond i fi dwi'n meddwl amdano fe fel doedd dim llawer o ddewis gen i.

"O'n i eisiau dangos i'r plant bod bywyd yn mynd yn ei flaen a bod dyletswydd arnon ni i wneud y mwyaf o'n bywydau, er mwyn Rhys."

Mae'r heriau wedi bod yn anodd meddai, "fel mynd yn ôl i weithio'n llawn amser, dyddiadau pwysig fel Sul y Tadau, pen-blwyddi, cyfnod y Nadolig, a mynd ar eich gwyliau teulu cynta'".

Ond hyd yn oed bryd hynny, pwysleisiodd "dydw i ddim wedi bod yn unig achos mae pobl wedi bod yno'n gefn i mi – felly, pan ma' pethe wedi teimlo'n anodd ma' bob amser wedi bod mewn awyrgylch ble dwi 'di cal cefnogaeth".

Mae'r flwyddyn ddiwethaf "wir wedi dangos pŵer cymuned glos", ychwanegodd.

'Am i'r plant deimlo'n agos ato'

Roedd Rhys yn "uchel ei barch" yn y byd rygbi ar lawr gwlad meddai Carrie ac roedd ganddo "gysylltiadau cryf iawn".

"Dwi'n teimlo dyletswydd i sicrhau bod y bechgyn yn parhau ynghlwm â'r gêm," ychwanegodd gan mai dyna fyddai Rhys wedi ei ddymuno.

Mae Ioan a Gruff nawr yn chwarae dros eu clwb lleol, Cobra, ac mae Carrie hefyd yn hyfforddi'r timau iau sydd wedi bod yn brofiad "fulfilling iawn".

Mae bod o gwmpas y clwb a'r gêm yn gyffredinol yn helpu Carrie i deimlo'n agosach at Rhys, meddai.

"Mae 'na lun ohono ar y wal ac un o'i grysau dyfarnu wedi'i fframio" ac mae'n gobeithio bod ei phlant "yn teimlo'n agos ato yno".

Gruff Jenkins (chwith), Carrie ac IoanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carrie a'i meibion wedi bod yn codi arian ar gyfer sawl elusen sydd wedi bod yn eu cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf

Bron i flwyddyn ers y digwyddiad a newidiodd bywyd y teulu, dywedodd Carrie bod gêm Cymru yn erbyn Japan yn teimlo fel "carreg filltir".

"Do, mae'r flwyddyn ddiwetha' wedi bod yn anodd ond ni 'di dod mor bell.

"Y peth anodda' nawr fi'n credu yw trio delio â'r dyfodol.

"Fi mor browd o'r plant, a bydd neb mor browd o nhw â fi heblaw am eu rhiant arall, ond dyw'r rhiant arall ddim yma gyda fi.

"Ni 'di goroesi, a fi'n gwbod bydd yr un peth yn wir am y dyfodol ond beth sy'n anodd yw teimlo bo chi'n wynebu cerrig milltir fel rhiant sengl nawr," meddai.

Er gwaetha'r heriau, mae Carrie mor falch o sut mae ei bechgyn wedi ymdopi â'r golled a'r galar.

Mae hefyd methu credu'r ymateb na'r gefnogaeth gan bawb o'i hamgylch ac yn gwybod na fyddai Rhys yn gallu credu'r peth chwaith.

Gyda phenwythnos anodd o'u blaenau mae'n benderfynol o wneud y daith bob blwyddyn "a mynd i weld pa bynnag gêm sydd gan Gymru y penwythnos yna a'i wneud yn draddodiad positif i ni fel teulu".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig