Dal y bws i gael barn etholwyr
- Cyhoeddwyd

Wrth i wleidyddion deithio ar draws y wlad i geisio ennill pob pleidlais, Cymru Fyw sy'n eu hefelychu drwy fynd ar fws i gael barn yr etholwyr.
Felly ar y TrawsCymru ac yn rhai o'r lleoliadau lle mae'r bws yn ymweld â nhw, beth sy'n bwysig i'r bobl pan fydd nhw'n penderfynu ble i roi eu croes? I nifer, mae'n gyfuniad o faterion sydd o dan reolaeth San Steffan, y Cynulliad a chynghorau lleol.


Cyn neidio ar y TrawsCymru ym Mangor, amser am sgwrs dros baned yng Nghaffi Hafan Age Cymru Gwynedd a Môn wrth yr arhosfa bws
'Dwi'm angen mwy o bensiwn. Be' fwy dwi angen? Dwi'm yn smocio' - Robat Owain Jones

"Pan neshi adael ysgol, ro'n i'n 15 oed ac eshi i Twthill, Caernarfon, i weithio fatha becar. O'n i mond yno am fis - roedd y lle yn rhy boeth i fi. Ond dwi 'di gweithio mewn lot o lefydd wedyn ar hyd y blynyddoedd - ro'n i yn Ferrantis am flynyddoedd.
"Dwi'n fotio bob tro - bob tro. Ond dim bob tro'r un ffordd chwaith. Mae'n dibynnu ar y person. Be' sy'n bwysig i fi ydi gwaith i bobl. Alli di ddim byw ar brydferthwch y wlad. Mae pobl angen pres i fyw - dim awyr iach.
"Dwi'm yn gweithio rŵan - dwi ar fy mhensiwn ers 30 mlynedd a dwi'n 96 nesa, ond pwy sy'n dod â gwaith yma sydd dal yn bwysig i fi rŵan pan dwi'n fotio hefyd.
"Dwi'm angen mwy o bensiwn. Be' fwy dwi angen? Dwi'm yn smocio. Dwi'n mynd i chwarae snwcer bob dydd Iau, a dwi'n dod i Fangor ar y bws chwech neu saith gwaith yr wythnos. Wnâi ddim aros adra. Y peth gwaetha' alli di wneud ydi aros adra. Mae depression yn dechrau. Dwi'n mwynhau fy hun efo pobl, ac os oes yna hwyl a sgwrs i gael dwi'n ocê.
"Ond ddeuda i chi be' sy'n bod efo'r llywodraeth yma - mae o'r un peth pwy bynnag sydd yna - mae 'na ormod o millionaires a tydi nhw ddim yn gwybod sut mae pobl gyffredin yn byw. Dim ots pwy sy'n rhedeg y wlad, mae o yn yr un twll."
'Wnaeth nhw drio hel fi allan o'r tŷ o'r blaen am fod y tŷ yn rhy fawr' - Dorothy Hanks

"Dwi'n fotio. Dwi'n penderfynu pwy ar y diwrnod. Mae pawb yn gaddo bob dim ond tyda ni'm yn cael dim byd.
"Dyla nhw helpu ni fwy efo tai. Dwi'n cwffio i gael kitchen newydd yn tŷ, ond wnaeth nhw drio hel fi allan o'r tŷ o'r blaen am fod nhw'n dweud bod y tŷ yn rhy fawr.
"Mae o'n three bedroom ac roedd gen i tenancy pan wnaeth Mam a Dad farw naw mlynedd yn ôl.
"Neshi ddweud na, dwi'm yn symud - dwi wedi byw yma ers oes.
"Dwi'n dod i fan yma am y cwmpeini, dwi wrth fy modd yn dod yma. Heb y lle yma, arglwydd fydda fo'n dead loss."

Mae Bethan Jones (chwith) yn dod i'r caffi am bryd o fwyd a chwmni bob dydd: "Os faswn i yn Number 10 faswn i'n rhoi mwy o bensiwn a mwy o gyflog i bobl sy'n gweithio - a llai o tax. Mae pobl yn cwyno bod nhw'n talu gormod o tax."
'Maen nhw'n deud bod pensioners rŵan yn gyfoethog - myth ydi hynny' - Dilys Pritchard

"Maen nhw'n deud bod pensioners rŵan yn gyfoethog, yn lle dwi'm yn gwybod! Ewadd annwyl, myth ydi hynny - mond isho chi weld faint o'r canolfannau 'ma sy'n rhoi bwyd yn y cymunedau, a faint o bensiynwyr sy'n mynd i fanno.
"Ers talwm adeg rhyfel fydda Nain yn hel tuniau corn beef a ham a ballu erbyn 'Dolig - wel rŵan mae rhai pobl yn gorfod iwsio pethau felly yn y canolfannau yma i fwyta bob dydd. Tydi cig fel yna - maen nhw'n iawn mewn sandwich - ond mae rhai yn gorfod byw ar ddiet o hynny bob dydd achos 'di nhw methu fforddio dim.
"Mae lot sy'n stryglo yn cael pension credit, 'di hwnnw ddim llawer, ond os gewch chi hwnnw gewch chi rent rebate a council tax a rhyw betha fel yna yn help.
"Ond sbïwch chi ar carers - pobl sy'n gofalu am eu teuluoedd - maen nhw wedi gorfod rhoi eu gwaith i fyny. Mae o'n go anodd arnyn nhw chi, yn enwedig efo dementia - wrach bod y wraig mewn oed a'r gŵr efo dementia.
"Dwi'n reit ffodus bod gen i ferch a dau fab. Dwi reit indepedent ond os ydi nhw'n meddwl bod sgeno fi ddim rhywbeth, erbyn diwrnod wedyn mae o yna.
"Ma' llefydd fel Hafan fan yma yn ideal, reit wrth y lle bws, ac mae isho cadw'r lle yma i fynd. Y peth ydi, mae rhai o'r bobl sy'n dod yma yn byw ar ben eu hunain a lasa nhw ddim gwneud bwyd poeth iddyn nhw eu hunain adra - maen nhw'n gael o'n fama ac maen nhw'n cael cwrdd â'i gilydd a chael sgwrs neu jôc.
"Dwi fy hun ddim yn meddwl bod digon o arian i lefydd fel yma yn y cymunedau - mae angen mwy ac mae eisiau bysus i fynd i nôl pobl sydd methu symud allan o'r tŷ a'u helpu i ddod i'r canolfannau yma i siarad efo pobl eraill yn lle bod yn tŷ yn sbïo ar bedwar wal."
'Mae'r politicians yn cael expenses am bob dim - tydi pawb arall ddim' - Meryl Williams

"Be' sy'n bwysig ydi bod y politicians yn Llundain yn cael llai o gyflog ac expenses - maen nhw'n cadw'r rich yn rich a'r tlawd yn dlawd. Mae'r politicians yn cael expenses am bob dim - tydi pawb arall ddim.
"O ran yr henoed, mae angen rhoi mwy o bensiwn iddyn nhw, a mwy o help tuag at ofal a chostau gofalu achos pan mae pobl ar ben eu hunain does dim digon o help i fod yn annibynnol adra.
"Mae rhai pobl yn jeopardisio eu jobs neu eu priodas i edrych ar ôl rheini a tydi hynny ddim yn iawn. Ac mae angen mwy o help pan maen nhw'n sâl.
"Dwi'n gwneud raffls i hel pres i gael ambell beth yn y gegin fan yma. Dyla 'na fod fwy o lefydd fel hyn. Mae un ym Mangor, bechod does 'na ddim mwy - yng Nghaernarfon, Porthmadog, Pwllheli - mewn trefi ar draws Gwynedd a Môn. Loneliness is an illness maen nhw'n deud, mae o'n bwysig bod pobl yn gallu dod allan."

Bydd Doreen Williams (chwith) yn pleidleisio bob tro: "Dwi'm yn gwybod os ydi o werth fotio chwaith, dwi'm yn gwybod faint o wahaniaeth mae o'n 'neud. Mae pob un yn gaddo bob dim ond 'sna'm byd yn newid."

Mae'r T2 yn mynd o Fangor i Aberystwyth, gan ymweld â threfi Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau a Machynlleth
'Does 'na ddim digon o staff i edrych ar ôl pawb' - Maureen Roberts

"Dwi ar fy ffordd i Ysbyty Gwynedd i volunteerio. Dwi'n mynd yna fel Robin Volunteer - 'da ni'n mynd ar y wards ac yn gwneud panad, mynd i siarad efo pobl neu fynd i'r siop iddyn nhw os maen nhw eisiau. Unrywbeth i helpu.
"Does 'na ddim digon o staff yn yr NHS. Maen nhw'n dweud does dim digon o welyau i bawb, ond staffio ydi'r broblem - does 'na ddim digon i edrych ar ôl pawb, dyna'r brif broblem. Felly mae'r NHS yn bwysig i fi adeg etholiad.
"Ond fatha pawb arall, dwi'm yn gwybod be' sy'n mynd ymlaen efo Brexit a bob dim. O'n i eisiau allan, felly stick to guns dwi'n meddwl."
'Hwn ydi chance fi i ddeud fy marn ar Brexit achos ro'n i rhy ifanc adeg y refferendwm' - Ynyr Williams

Doedd Ynyr Williams ddim am gael tynnu ei lun - ond mae'r arwydd yma yn adlewyrchu ei farn ar Brexit
"Dwi yn y brifysgol ym Mangor yn 'neud busnes. Dwi'n 20, a neshi ddim pleidleisio tro diwetha' felly dwi'n first time voter. Dwi ychydig yn excited a 'chydig yn nerfus - achos mae 'na rywbeth bach o'r enw Brexit... dwn'im os yda chi wedi clywed amdano!
"Hwn ydi chance fi - ac i lot o bobl oed fi - i ddweud ein barn ar Brexit achos ro'n i rhy ifanc adeg y refferendwm, felly hwn ydi'n vote ni.
"Dwi eisiau aros, ond tydi barn y pleidiau ar Brexit ddim yn effeithio pwy dwi'n pleidleisio achos y bobl sy'n dweud bod nhw eisiau gadael ydi'r bobl dwi ddim yn cytuno efo nhw efo stwff arall hefyd.
"Ar y funud mae Brexit yn eclipsio bob dim arall sy'n siomedig iawn, ond mae o i'w ddisgwyl."
'Well gen i fyw yn fy myd bach fy hun i fod yn onast' - Mechia Harvey a Lucas

"Dwi ar y ffordd i Aberystwyth at Mam. Dwi'n byw yn Tregarth. Mae hi'n dod i nôl fi fel arfer ond mae hi wedi cael damwain car felly 'da ni'n cael y bws.
"Wnâi ddim pleidleisio. Dwi'n 25 a dwi erioed wedi pleidleisio, dwi ddim yn gwybod pam. Dwi'n clywed pethau ar y radio ond dwi'm yn gwybod be' sy'n mynd ymlaen go iawn achos dwi ddim yn licio gwrando ar y newyddion, mae o'n ddigalon.
"Well gen i fyw yn fy myd bach fy hun i fod yn onast. Teulu ac ati sy'n bwysig i fi."

Bydd parhad o'r daith ar Cymru Fyw yn y dyddiau nesaf
Ymgeiswyr Arfon
Gonul Daniels - Ceidwadwyr
Gary Gribben - Plaid Brexit
Hywel Williams - Plaid Cymru
Steffie Williams Roberts - Llafur