Ar y lechen
Ar 22 Awst, 1969, caewyd chwarel Dinorwig, ond gadawodd ei hôl ar yr ardal a'i phobl
Er bod yr haul wedi hen fachlud ar chwarel Dinorwig, mae'r llechen yn dal i daflu ei chysgod ar yr ardal a'r gymuned.
Yn ei hanterth roedd dros 3,000 o bobl yn gweithio ar lethrau Elidir Fawr yn Nyffryn Peris yn un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd.
Er i'w llechi gael eu gwerthu i bedwar ban byd, dros ddegawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf dirywio wnaeth y diwydiant ar draws gogledd Cymru. Erbyn diwedd yr 1960au ychydig gannoedd o chwarelwyr oedd ar ôl yn gweithio'r ponciau yn Ninorwig.
Daeth y cyfan i ben 50 mlynedd yn ôl pan gaewyd y gwaith ar 22 Awst, 1969, a chollodd y 350 chwarelwr olaf eu bywoliaeth.
Ond fel mae'r cyfres o luniau yma yn ei ddangos, tra bod rhesymau economaidd yn gallu rhoi stop dros nos ar ddiwydiant 200 mlynedd oed, mae'r tirwedd a'r gymuned yn fwy 'styfnig.
Ôl gwaith
"Roedd datblygiad y chwarel fel llanw a thrai, fel oedd y diweddar Dafydd Orwig, pennaeth daearyddiaeth y Coleg Normal yn arfer dweud. Pan oedd y chwarel yn datblygu roedd y llanw yn dod i mewn ac yn symud i fyny'r dyffryn, gyda thai a thyddynnod yn cael eu hadeiladu ac ati, ac yna wrth i'r chwarel ddirywio roedd y llanw yn mynd allan - ac yn gadael ei ôl."
Mae Dr Dafydd Roberts yn treulio’i ddyddiau yng nghanol rhai o’r olion hynny gan mai ef yw Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru, sydd wedi ei lleoli yn hen weithdai Gilfach Ddu yn Llanberis.
“Mae nifer o gapeli hefyd yn rhan o'r gwaddol – nifer o addoldai wedi eu hadeiladu pan oedd y chwareli yn agored – ac mae prif ffurf a maint y pentrefi yn seiliedig ar y chwareli,” meddai.
Yn wahanol i ddyffrynnoedd glofaol y de, dyw'r gwyrddni heb ei annog yn ôl i Ddyffryn Peris a’r gwastraff diwydiannol yn rhan o’r tirlun o hyd.
Heddiw mae'r gwaddol gweledol hwnnw yn rhan bwysig o gais ardal chwareli'r gogledd i gael statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Mae'r graig yn cynnal diwydiant o hyd hefyd, yn cynhyrchu trydan yn hytrach na llechi.
Yn yr 1970au fe gafodd nifer o’r chwarelwyr eu cyflogi i gloddio twnneli enfawr i mewn i'r mynydd i greu pwerdy hydro, ac mae'r mynedfa i'w weld yn glir wrth droed y mynydd ger Llyn Peris.
Felly er bod Elidir Fawr yn llawer tawelwch heddiw a’r llanw wedi cilio ers hanner can mlynedd, mae'n amhosib ymweld â'r ardal heb weld arwyddion amlwg o gloddio.
Hamddena
yn y gweithle
Ers 46 mlynedd, mae Hefin Owen wedi bod yn cludo pobl ar hyd hen drac rheilffordd chwarel Dinorwig. Roedd ei dad yn yrrwr trên yno hefyd, ond cario llechi oedd ef tan i'r lle gau.
Yn enedigol o Lanberis, mae Hefin yn ymgorfforiad o'r newid sydd wedi digwydd o'r diwydiant cynhyrchu i'r diwydiant hamdden.
'Ffitar' yn trwsio ac yn gyrru trenau oedd ei dad, Alwyn 'Kent' Owen.
Pan gaewyd y chwarel yn 1969 bu'n rhan o dîm o bobl leol fu'n ceisio achub y peiriannau ar gyfer y dyfodol – yn cynnwys yr hen injans trên.
Sefydlwyd cwmni yn 1971 gyda'r bwriad o greu swyddi lleol yn sgil cau'r chwarel. Erbyn heddiw mae Rheilffordd Llyn Padarn yn cyflogi bron i 30 – 12 yn barhaol – ac yn cludo 78,000 o bobl bob blwyddyn.
Mae’n bosib gweld rhai o'r peiriannau eraill gafodd eu hachub yn Amgueddfa Lechi Cymru, dafliad carreg o orsaf y rheilffordd yn Gilfach Ddu.
Mae'r amgueddfa yn cyflogi 30 yn barhaol, ac yn cael 140,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Yn ôl Hefin Owen, fu'n cydweithio ar y trên bach gyda'i dad am gyfnod, mae pobl yn dod i’r ardal oherwydd harddwch yr ardal a’r hanes.
“Dwi’n siarad efo lot o’r bobl sy’n dod ar y trên, ac mae 'na lot o ddiddordeb yn hanes y chwareli ac eisiau gwybod mwy.
"Dwi'n meddwl bod cyfnod y chwarel yn gyfnod hapus – roedd gen ti'r eisteddfod a sgwrs yn y caban, ond doedd o ddim yn hawdd.
“Doedd y trenau ddim efo cab y dyddiau hynny felly roedd y dreifars yn socian pan oedden nhw'n gweithio yn y glaw. Mae gen i gaead ar yr injan yma a pan mae'n bwrw dwi'n cau cyrtens i gau'r glaw allan."
Awyr iach
Hongian ar raff ar ochr y graig i ennill cyflog oedd y chwarelwyr, nid i fwynhau eu hunain.
Erbyn heddiw mae clogwyni llechi Dinorwig yn adnabyddus o fewn y byd dringo, a llyfrau tywys yn rhoi cyngor ar y dringfeydd gorau.
Er mai’r Wyddfa yw’r dynfa fawr, mae’r chwareli hefyd yn denu pobl sy’n mwynhau’r awyr agored.
Mae llwybr cyhoeddus wedi ei greu drwy’r chwarel, o Ddinorwig i Nant Peris, ac mae cystadleuwyr treiathlon y Slateman yn rhedeg ar ei hyd ar ôl nofio a seiclo yng nghysgod y domen.
Ar lan Llyn Padarn mae rwbel o chwareli Dinorwig a Glyn Rhonwy wedi ei ddefnyddio i greu cyfres o lynnoedd bychain – y ‘lagŵns’ – sy’n boblogaidd gyda phobl leol a thwristiaid.
"Mae busnes yn sicr wedi mynd i fyny yn gyson,” meddai Chris Thorne, perchennog Watersport Snowdonia ar ochr Llanberis a chwarel Glyn Rhonwy o’r llyn.
“Mae lluniau o’r lagŵns ar wefannau cymdeithasol felly mae pobl yn gwybod am y lle.
"Mae yna ddyddiau pan mae'n amhosib gyrru car i mewn o ben y lôn a bydd pobl yn trio mynd drwy'r coed a dros y gwair i barcio. Mae'n gallu bod reit hectic.
"Yn bersonol, dwi'n meddwl bod angen rhyw fath o control erbyn hyn.”
Pan ddaw’r haul allan ar benwythnos yn yr haf, mae'r lle yn gweddnewid.
Y gymuned
“Neith o ddim dweud wrth neb be’ mae o’n wneud – mae o fel state secret, gei di wybod fwy gan Putin na fo.”
Nid chwarae plant ydi Carnifal Deiniolen i rai trigolion.
Elfed Williams ydi ysgrifennydd Gŵyl Deiniolen, a’r Carnifal ydi uchafbwynt wythnos o weithgareddau.
Yn ôl y cynghorydd sir, seren y sioe ydi cadeirydd yr ŵyl, Carwyn Thomas, neu Spike i bawb yn y pentref. Does neb yn cael gwybod dim am ei wisg ffansi tan y parêd.
“Mae o’n brilliant chwarae teg – fo sy’n curo bob blwyddyn," meddai.
“Pan wnaetho ni weld o flwyddyn yma fatha King Kong ar ben yr Empire State Building wnaetho ni gyd ddweud, ‘O 'na fo – mae o wedi curo eto’. Mae pawb yn gwybod mai fo ydi’r boi i guro.
“Mae o’n lot o waith iddo fo – ond gwneud o i’r pentre’ mae o.”
Yn ôl Elfed Williams mae hyn yn adlewyrchiad o’r gymuned wnaeth ddatblygu 800 troedfedd uwch lefel y môr, ar ochr uchaf y chwarel:
“Mae’r lle dal yr un fath – y werin yda ni 'de.
“Fel bob man arall mae ‘na lot o bobl 'da ni ddim yn ‘nabod yn dod i mewn, ond mae o dal y teip o le alli di gnocio ar ddrws rhywun a gofyn am help.
“Mae’r band pres yn dal i fynd, mae gen ti ddau aelod sydd wedi gwneud dros 100 mlynedd o wasanaeth rhyngddyn nhw. Mae hwnna’n dod ag enw da i’r pentre’, yn enwedig adeg ‘Steddfod. Mae’n stop tap yn tŷ ni adeg hynny i ni weld os 'di nhw’n mynd i guro.
“Mae gen ti tua 16 neu 17 o wahanol fudiadau yn pentref hefyd – fatha bingo bob nos Wener, clwb llenyddol bob nos Lun, Merched y Wawr, eisteddfod bentref, clwb pêl-droed ieuenctid, a youth club Deiniolen – mae gen ti tua pump sy’n gwneud gwaith gwych yna, a hebddyn nhw fasa’r lle wedi cau.”
Barod i fynegi barn
I lawr y dyffryn yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, mae’r Ceidwad Dr Dafydd Roberts yn cytuno bod y diwydiant wedi gadael ei ôl nid yn unig ar y tirwedd, ond ar bersonoliaeth y gymuned hefyd.
“Mae'r effaith ddiwylliannol yn rhan o'r gwaddol,” meddai. “Roedd y chwarelwyr a'u teuluoedd yn ddiwylliedig – diwylliedig ym mhob ystyr o’r gair, nid yn unig o ran llyfrau – ac mae ein staff ni yma yn ddiwylliedig, gyda diddordeb mewn bob math o bethau, ac efo balchder yn eu broydd, ac yn helpu a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau, yn glybiau pêl-droed ac ati.
“Un o nodweddion y chwarelwyr hefyd oedd eu bod nhw'n mynegi barn yn ddiflewyn-ar-dafod, ac mae'r staff yma hefyd yn yr un modd yn barod i ddweud eu barn, a dwi'n parchu hynny.”
Ond mae’r gymuned wedi newid.
Ar hyd Stryd Fawr Llanberis mae’r siopau gwerthu offer awyr agored a siop hufen iâ yn adlewyrchu diwydiant y pentref erbyn heddiw, ac yn wahanol i’r chwarel 'dyw’r Wyddfa a Llyn Padarn ddim yn debygol o gau.
Uwchben Dyffryn Peris mae’n fwy o her.
“Wnaeth un person sôn wrtha i fod o’n cofio 34 o siopa yn Neiniolen adeg y chwarel,” meddai Elfed Williams. “Dwi’n cofio dechrau’r 80au pan oedd yna siop 'sgidia yma, siop chips, banc, y siop bapur gorau yn yr ardal, dau dafarn ac un neu ddau o siopa' eraill. Sgen ti mond un siop rŵan, un caffi, un garej, un tŷ tafarn.
“Mae’r rhan fwya' yn mynd allan rŵan i weithio – i Fangor neu Gaernarfon, neu lawr i Lanbêr.
“Dwi’n gwybod bod hi wedi gwanio’n Llanbêr, ond mae Llanbêr yn dal yn gryf ac am fod twristiaeth yn Llanbêr maen nhw’n cael help o ran cael buddsoddiad ac ati heb orfod gofyn gormod. Am ein bod ni’n wan efo hynny ‘da ni’n gorfod gweiddi fwy yn fama. Mwya’n byd o bethau sgen ti a mwya' o bobl sy’n dod yna, mwya' gei di hefyd.”
Effaith anadlu'r llwch
Mae un gwaddol o’r chwarel sydd bron wedi diflannu o’r ardal bellach nad oes neb yn ei fethu. Y llwch.
Am ddegawdau bu’r chwarelwyr yn brwydro i gael iawndal am y difrod wnaed i’w hysgyfaint ar ôl anadlu llwch llechi, mewn cyfnod pan oedd safonau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn isel iawn.
Mae Dr Robin Parry yn feddyg teulu i drigolion Dyffryn Peris: “Pan 'nes i ddechrau yma ugain mlynedd yn ôl roedd lot o bobl yn diodde’ o pneumoconiosis, ac roedd nodiadau doctor lot o’r hen fechgyn yn sôn am effaith y llwch yn mynd nôl blynyddoedd.
“Ond maen nhw i gyd wedi mynd rŵan. Ddaeth un i’n ngweld i bore 'ma – yn ei 80au hwyr – ond fel arall maen nhw i gyd wedi mynd.
“Roedd TB hefyd yn ddrwg yma ers talwm – oherwydd y llwch a phroblemau brest roeddet ti’n fwy tebygol o gael y diciâu, ac wrth gwrs roedd pobl yn dlawd, pawb yn smocio, y tai yn damp a lot o bobl yn byw ar ben ei gilydd mewn un tŷ.
“Os ti’n mynd i gerdded ar hyd y topiau rŵan ti’n gweld rhai o’r hogiau yn eu 70au yn cerdded ac maen nhw’n ffit.
“Ond y genhedlaeth cyn hynny – y genhedlaeth efo’r llwch – doedd ganddyn nhw ddim siawns.”
Cydnabyddiaeth:
Cynhyrchu: Bryn Jones
Lluniau archif: Amgueddfa Cymru; J. Roberts; John Davies; Dr M. Swaine; Gwasanaeth Archifau Gwynedd; Getty; British Pathé - llun chwarelwr ar raff.
Diolch i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis. Bydd arddangosfa Cofio'r Cau - Dinorwig '69 i'w weld yn yr amgueddfa drwy'r haf.
Mae hawlfraint ar bob llun.