ERYRI 70

Mae mwy i'r parc na'i harddwch. I nodi 70 mlynedd ers ei sefydlu, saith person sy'n sôn am un peth sy'n arbennig iddyn nhw am Barc Cenedlaethol Eryri.

Natur

Trawsfynydd

Tylluen ar goeden

Ers blynyddoedd mae Keith O’Brien wedi bod yn tynnu lluniau o'r byd natur yn ei gynefin.

Keith O'Brien yn tynnu llun

Dwi’n cerdded yma’n aml efo fy nghamera ar fy nghefn, neu’n mynd ar y beic o gwmpas y llyn.

Fel rhywun gafodd ei fagu yng nghefn gwlad roedd gweld byd natur mor hawdd ac mae rhywun yn dod i adnabod yr adar a’r anifeiliaid.

Mae’n bosib gweld gwyach fawr gopog yma – y great crested greeb, a’r ddawns araf maen nhw’n gwneud efo'i gilydd, efo’u gyddfau yn clymu rownd ei gilydd – a’u nyth sydd fel rafft yn arnofio ar y llyn.

Mae rhywun yn gweld y gylfinir, a chri’r gylfinir ydi’r arwydd cynta’ i mi o’r gwanwyn. Mae’n bosib gweld y gornchwiglen hefyd – aderyn sydd wedi mynd yn brin iawn yn y blynyddoedd diwethaf ond mae i’w weld yma. Mae gwalch y pysgod yn dod yma hefyd, ddim i nythu, ond mae’n ymwelydd cyson.

Mae’n ardal cymharol anghysbell. Does 'na ddim trên yn dod yma, a’r A470 ydi’r brif ffordd – ond mae’r ffordd osgoi yn mynd heibio Traws felly dydi pobl ddim yn gweld rheswm i stopio yma. Mae hynny’n broblem i’r economi ar un llaw, ond mae’n rhoi llonyddwch i’r byd natur.

Sigldigwt yn edrych ar bryfyn
Y  Gog
Merlod
Sigldigwt yn edrych ar bryfyn
Y  Gog
Merlod

Hanes diwydiannol

Moel Eilio

Moel Eilio dan gwmwl a thomen llechi

James 'JohnJo' Jones ydi'r chweched genhedlaeth o chwarelwyr yn ei deulu. Mae bellach yn gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Hollti llechen

Mae ardal Moel Eilio yn rhywle dwi’n mynd i gerdded ac ymlacio, a hefyd i weld olion yr holl waith caled sydd ‘di bod yn yr ardal dros y blynyddoedd, sy’n dangos pa mor galed oedd hi i fyw yma.

Mae ‘na hen chwareli ar yr Wyddfa. Yn Nant Peris mae ‘na un ar y llethrau ac un copr ar y llwybr i fyny. Hanner ffordd i fyny o gyfeiriad Llanberis, mae gen ti chwarel lle mae ‘na lechi sy’n barod i fynd, wedi eu naddu a bob dim ond efo mwsogl yn tyfu arnyn nhw erbyn hyn.

Ar Moel Eilio ers talwm roedd ‘na fel cable car yn dod â chopr drosodd o Lyn Cwellyn a Rhyd Ddu ac i lawr ochr arall y mynydd i Lyn Padarn. Ac ar un ochr i Foel Eilio mae ‘na flocia' concrit i'w gweld lle’r oedd hen ffrâm haearn yn dal y cable car.

Wedyn ochr arall mae gen ti chwareli Cefn Du, Glyn Rhonwy a Vivian – a hefyd Dinorwig ei hun wrth gwrs. Dwi’n eu hoffi nhw. I fi mae’n rhan o’n hanes, ond yn fwy na hynny mae o fel monument i’r holl hogia’ wnaeth golli eu bywydau.

Yr olygfa o Moel Eilio
Moel Eilio dan eira
Jonathon Jones
Yr olygfa o Moel Eilio
Moel Eilio dan eira
Jonathon Jones

Harddwch mynyddoedd

Y Cnicht

Darlun o'r Cnicht

Mae'r artist Rob Piercy wedi gwneud bywoliaeth o beintio mynyddoedd; mae un yn benodol yn anodd iddo ei hosgoi.

Rob Piercey o flaen ei oriel

Faswn i wedi gallu dewis cannoedd neu filoedd o lefydd ond fel hogyn o Port, dwi wedi dewis Y Cnicht.

Fel plentyn bach dydi rhywun ddim yn ymwybodol o’r golygfeydd o'i gwmpas. Yr unig beth oedd gen i ddiddordeb ynddo oedd pêl-droed a pan o’n i’n chwarae efo Port ro'n i'n chwarae ar y cae pêl-droed efo ella'r olygfa orau yn unlle. Ond dim ond edrych ar y bêl oeddan ni.

Nes i ddechrau dringo a cherdded mynyddoedd pan o’n i’n ifanc, ond wedyn pan nes i ddechrau gwneud lluniau o fynyddoedd nes i ddechrau crwydro mwy a chymryd mwy o sylw - edrych ar y golau a siâp y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd a’r llynnoedd. Wrth gwrs yr un mynydd sy’n sefyll allan i rywun o Port ydi’r Cnicht.

Mae’n fynydd siapus. Mae o'r math o fynydd fyddai plentyn yn ei wneud os yn gwneud llun. Ond Y Twyllwr Mawr ydy’r Cnicht, oherwydd dim ond o gyfeiriad Port mae’n edrych fel hyn.

Dwi’n edrych arno bob bore pan dwi’n agor cyrtans y llofft, a dwi’n ei weld ym mhob math o dywydd, yn y boreau, yn y pnawn a’r hwyrnos, ac o dan eira. Gan fod y crib o’r copa yn dod syth lawr i’r de, be' sy’n dda ydi mae’r golau ar y dde a’r ochr chwith mewn cysgod yn y bore, ond mae o fel arall gyda’r nos.

Tren gyda'r Cnicht yn y cefndir
Y Cnicht i'w gweld o stryd ym Mhorthmadog
Rob Piercy o flaen llun o'r Cnicht
Tren gyda'r Cnicht yn y cefndir
Y Cnicht i'w gweld o stryd ym Mhorthmadog

Llên

Brynllidiart

Adfail Brynllidiart

Mae'r awdur Angharad Tomos wedi bod yn ymchwilio i hen dyddyn arbennig ger ei chartref yn Nyffryn Nantlle.

Angharad Tomos

I mi, rhaid dod yma i ymdeimlo â'r fan.

Wedi i chi ei ganfod, y peth cyntaf sy'n eich taro yw'r tawelwch, rydych mewn dimensiwn gwahanol. Yna, rydych yn sylwi ar yr olygfa, ac mae hwnnw'n anghredadwy – o greigiau Cwm Silyn i'r Wyddfa, i Mynydd Mawr, a draw i'r chwith mae'r môr a Môn yn y pellter. Wedi cyrraedd Brynllidiart, dydych chi ddim yn synnu fod dau brifardd wedi eu geni yma.           

Silyn oedd y cyntaf (neu Robert Silyn Roberts i roi ei enw llawn) aned yma ym 1871, y bardd bregethwr enillodd goron Steddfod 1902, gychwynnodd ei fywyd fel chwarelwr, gafodd goleg ac a roddodd Fudiad Addysg y Gweithwyr ar ei draed yng Ngogledd Cymru, yn ddiwygiwr ac yn Sosialydd ymroddedig. Gadael y dyffryn wnaeth o yn ugain oed, a gadael ei unig chwaer – Nel – yng ngofal y tyddyn.

Roedd Nel yn wraig ddiwylliedig, garai lenyddiaeth a barddoniaeth, ond ‘chydig wyddom amdani. Roedd hi'n caru trafod llenyddiaeth gyda mam Gwilym R. Jones pan ai draw i siop Cloth Hall yn Nhalysarn. Ond chafodd hi ddim coleg fel ei brawd.

Priododd a ganed bachgen iddi ym 1901, fe'i bedyddiwyd yn Mathonwy. A fo ydi'r ail fardd, enillodd gadair Eisteddfod 1956. O ystyried ei fod yn lle mor anhygyrch, roedd yn syndod ei fod yn fan cyfarfod i gymaint o wŷr llên y cyfnod, ond dod yno a wnaent.

Ond cyn inni, sy'n mwynhau moethau yr 21ain ganrif, ramantu gormod am y lle, sylwch ar y tir llwm sydd dan draed, teimlwch yr iâs yn y gwynt. Wedi diwrnod yn y chwarel, y peth olaf fyddwn i am ei wneud fyddai trin y tir yma a godro, fel y gwnaeth taid Mathonwy drwy ei oes. Meddai Mathowny: “Roedd cymdeithas yn cerdded drwy Lyn Cysgod Angau bob dydd o'i bywyd yn y dyddiau hynny... nid pignig oedd byw mewn tyddyn mynyddig diarffordd.”

Ac mi geisiaf gofio hynny hefyd. Enw'r prifeirdd sydd ar y garreg, ond dylid cofio aberth Nel Hughes, yn ogystal â'i mam. Rhyfeddu at eu dycnwch a wnaf.

Brynllidiart
Brynllidiart
Dyffryn Nantlle
Brynllidiart
Brynllidiart
Dyffryn Nantlle

Y Gymraeg

Llanuwchllyn

Robat Williams

Yn un o 12 o blant, mae Robert Williams wedi ei eni a'i fagu yn ardal Penllyn.

Golygfa o Lyn Tegid

Mae’n bwysig i gadw’r Gymraeg yma. Mae o dal yn gryf yma, ond mae’n Seisnigeiddio yn arw iawn a lot o dai yn mynd yn dai haf. Ond mae’r rhai sy’n dod yma i fyw, mae eu plant nhw’n dysgu Cymraeg pan maen nhw’n mynd i’r ysgol, ac wedyn maen nhw’n siarad o’n well na fi – dim ond eu bod nhw’n siarad y Gymraeg modern yma.

Mae’n bwysig cadw’r enwau Cymraeg yma hefyd. Dim ond enwau Cymraeg sydd i’r mynyddoedd fel Yr Aran, Arenig a Moel Llyfnant ochr draw.

Enwau Cymraeg sydd i’r afonydd hefyd – mae ganddon ni Afon Fach fan yma – neu Nant yr Eglwys fydda’n Nhad a’n Nhaid yn ddweud, a Cynllwyd, Afon Dylo yng Nghwm Tylo, ac mae ganddon ni’r Ddyfrdwy.

Cymraeg ydi’r ffermydd hefyd - fel Tŷ’n Bwlch, a Drws Cae’r Gwenyn – a’r caeau. Mae ganddo ni Cae Dan Tŷ, Cae Tan yr Ardd, Cae Swêj. Mae’n rhaid i ni eu cadw nhw a tra bod yr hogia' lleol dal i ffermio mi fyddan nhw’n cael eu cadw, ond be' fydd yn digwydd pan maen nhw wedi mynd pwy a ŵyr.

Arwydd Ty Aran
Arwydd Berwynfa
Arwydd Ty Moelwyn
Arwydd Trem Aran
Item 1 of 5
Arwydd Ty Aran
Arwydd Berwynfa
Arwydd Ty Moelwyn
Arwydd Trem Aran

Hamdden

Coed y Brenin

Llun o'r awyr o berson ar feic

Mae Matt Ward yn gweithio yn y byd chwaraeon awyr agored. Mae'n byw yn ardal Corris ac yn rhedeg ers pedwar degawd.

Matt Ward yn rhedeg

Fel rhywun sydd wedi teithio i lawer o dirweddau anhygoel ledled y byd, rydw i'n gwybod eich bod yn aml yn teithio gyda'ch pasbort a'ch bag, ond bron bob tro yn gadael eich calon adre.

Rydw i bob amser wedi teimlo fel hyn gydag Eryri. Ar ôl tyfu fyny ger Llanberis a’r Wyddfa a’i mynyddoedd hyfryd o greulon, erbyn hyn mae llethrau mwy tawel a choedwig Coed y Brenin yn agos at fy nghalon. Yn benodol, lleoliad gyferbyn â Dolfrwynog sy’n edrych uwchlaw'r hyn sy’n cael ei adnabod yn lleol fel y Gors Copr.

Rydw i wedi dod yma i redeg cannoedd o weithiau – ar ben fy hun, gyda grwpiau nos Iau, i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac i rasio. A dros y ddegawd diwethaf rydw i wedi sefyll yma yn aml yn edrych a gwrando.

Efallai nad ydy’r olygfa mor eang â’r un o Tryfan neu Cader Idris er enghraifft, ond gallwch weld copaon y Rhinogydd yn ne Eryri, ac ar ôl rhedeg i fyny’r llwybr serth drwy'r coed Douglas Fir a Derw Secile mae’r olygfa heddychlon a phanoramig yr un mor syfrdanol.

Ar noson o haf, rhwng yr olygfa a’r arogleuon, ac wrth i’r bwncath hedfan uwchben, mae’n hawdd dychmygu eich bod ym mynyddoedd Colorado. Ond Cymru ydi hwn, ac yn y gaeaf mae copa'r Garn gyda’i chap eira yn gwyro tuag at Afon Mawddach wrth i'r niwl godi o’r coed, yn olygfa bythgofiadwy.

Golygfa o'r Fawddach
Yr olygfa o'r Gors Copr
Coed
Golygfa o'r Fawddach
Yr olygfa o'r Gors Copr
Coed

Daeareg

Cader Idris

Ardal Cader Idris

Warden yn ne'r parc ydi Rhys Gwynn, ers 2004.

Rhys Gwynn yn y parc

Lluoswch 70 mlynedd o fodolaeth Parc Cenedlaethol Eryri gyda rhyw saith miliwn o flynyddoedd, ac fe laniech yng ngwawr y cyfnod Ordofigaidd, a enwyd gan ddaearegwyr cynnar ar ôl y llwyth Celtaidd a drigai yn y parthau hyn.

Bryd hynny, gyda’r tir a ddoi maes o law yn Gymru ymhell i’r de o’r cyhydedd, roedd Meirionnydd dan fôr. Y prawf mwyaf sicr o hyn yw’r lafâu clustog arbennig nid nepell o gopa Cader Idris.

Rhyw gybolfa o dalpiau crynion o graig yw’r rhain a ffurfiodd wrth i’r magma eirias o grombil y ddaear ddianc drwy holltau yng ngwely’r môr a chael ei oeri’n syth gan y dŵr.

Dim ond wedyn y crychiwyd croen y ddaear gan godi gwely’r môr yn gopaon mynyddoedd. Mae myrdd o ryfeddodau daearegol yn Eryri, ond Cader Idris yn ddi-os yw un o’r mannau gorau i’w gweld.

Craig wedi ei wneud o lafa
Cadair Idris
Golygfa o ardal Cader Idris
Craig wedi ei wneud o lafa
Cadair Idris

Cyhoeddwyd: 18 Hydref 2021

Cynhyrchu: Bryn Jones

Hawlfraint lluniau: Lluniau natur Trawsfynydd - Keith O'Brien; Cader Idris/Mawddach/Coed Y Brenin/Lluniau o'r Cnicht o'r awyr/Pier Trawsfynydd - Y Goron; Eryri o gopa Moel Eilio - Johnathon Jones; Brynllidiart - Dafydd Emyr Jones/Marika Fusser; Y Gors Copr - Matt Ward; Lafâu clustog a hunlun - Rhys Gwynn; James Jones - Amgueddfa Lechi Cymru; darlun Y Cnicht - Rob Piercy. Holl luniau eraill - BBC.