Covid-19. Stori un pentref
Tydi'r Felinheli ddim yn bentref anarferol, ond eleni mae’n llawn o straeon anghyffredin.
Ac er y bydd trigolion y pentref ar lan Afon Menai yn siŵr o gofio'u profiadau am weddill eu hoes, mae rhai tebyg i’w canfod ym mhob cwr o'r wlad eleni. Stori Y Felinheli ydy stori Cymru gyfan yn 2020.
I nodi chwe mis ers dechrau cyfnod clo Covid-19, dyma brofiadau aelodau cyffredin o’r gymuned mewn cyfnod anghyffredin iawn.
Y golled
Fis Ionawr roedd teulu Maldwyn Jones yn tynnu ei goes wrth weld penawdau am feirws yn lledu ar ochr arall y byd. O fewn tri mis, a heb adael ei filltir sgwâr, roedd o’n sgwennu ei ewyllys ar ôl dal yr haint a’i wraig ar fin marw ohono.
Fel gweddill poblogaeth y byd, mae o’n dal i geisio dod i dermau gyda pha mor sydyn newidiodd ei fywyd.
Mae’n cofio nôl i fis Ionawr a’r coronafeirws yn y newyddion wrth i China geisio mynd i’r afael gyda'u hargyfwng nhw. Roedd Wuhan yn ymddangos yn bell iawn o gartref Maldwyn a’i wraig Heather, ac roedd eu merch Rhianwen wedi galw draw i'w gweld nhw ac yn herian ei thad.
“Dyma’r ferch yn dweud wrtha i – ‘os oes unrhywun am gael o chdi fydd o’, achos dwi’n dal bob dim. Bob annwyd sy’n mynd o gwmpas dwi’n gael o, dwi’n ofnadwy. Roedd Heather, er bod hi’n denau ac yn fach ar ôl bod yn sâl, bob tro’n dod drwy bob dim.
"Roeddan ni’n cael hwyl am y peth. Roedd y peth yn bell i ffwrdd a doedd neb yn gwybod be’ oedd o, neb yn meddwl bod o mor serious."
Buan iawn newidiodd hynny.
Y Felinheli, pentref ar lannau Afon Menai, ydi cartref Maldwyn a’i deulu ers 20 mlynedd. Bu’n gyrru lorïau a bysus cyn ymddeol ac roedd ei wraig Heather yn gofalu am eu mab David. Mae David, sy'n 49 oed, yn mynd i Antur Waunfawr, menter sy'n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu.
“Roedd Heather yn gwneud bob dim i David – bob dim,” meddai Maldwyn.
“Roedd hi’n gwneud bob dim yn tŷ hefyd. Os o'n i’n mynd i olchi llestri fyddai Heather yn dweud ‘wna i hwnna’ – a doedd hi ddim yn gadael i fi fynd i’r gegin, tan iddi fynd yn sâl.”
Roedd Heather wedi cael canser a phroblemau gyda’i chalon yn y blynyddoedd diwethaf felly wrth i’r byd ddysgu mwy am Covid-19 fe sylweddolodd y teulu y gallai hi fod yn fregus i’r haint.
Ganol Chwefror, fe ddechreuon nhw gyfnod clo eu hunain.
“Wnaethon ni dynnu David o Antur Waunfawr ac wedyn mond fi oedd yn mynd allan,” meddai Maldwyn, sy’n 73. “Ro’n i’n gwisgo menig i siopa. Ella bod ambell un yn edrych yn od arna i ar y pryd, ond erbyn diwedd y mis roedd pawb yn eu gwisgo nhw.”
Dal yr haint
Fis Mawrth roedd yn rhaid i Heather fynd i’r ysbyty am driniaeth, a chafodd ei tharo’n wael ar ôl dod adra.
“Roedd hi’n giami ac roedd rhaid i fi gario hi i’w gwely. Yn y diwedd roedd rhaid iddi fynd yn ôl mewn i Ysbyty Gwynedd,” meddai Maldwyn.
Ar ôl iddi ddechrau gwella a’i symud i ysbyty Penrhos, Caergybi, fe ddaeth y newyddion bod Heather wedi ei phrofi’n bositif i Covid-19. Erbyn hynny roedd Maldwyn a David hefyd wedi dechrau dangos symptomau ac yn gwaelu.
“Doeddwn i methu anadlu, a ro’n i’n boeth. Roedd rhaid i fi gael y paramedics yma dair neu pedair gwaith mewn 10 diwrnod. Ro’n i’n gorfod codi yn y bore, rhoi shower i David a’i helpu i’w roi ar y toiled, wedyn mynd lawr a jest gorwedd ar y setee. Roedd Rhianwen y ferch yn dod efo bwyd ac yn rhoi nhw ar y stepan drws. Doeddwn i methu gwneud dim byd.”
Penderfynodd alw'r twrnai.
"Trwy’r ffenest nes i wneud yr ewyllys.
“Ro’n i ar un ochr y ffenest ac roedd y twrna ar ochr arall y ffenest yn gwneud yr ewyllys. Ro’n i ofn ac wedi panicio ac yn meddwl ‘my number is up’.”
Deuddydd yn ddiweddarach, fe gafodd wybod bod Heather wedi marw, yn 82 oed.
“Pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae’n newid trefn bywyd," meddai Maldwyn. "‘Da ni gyd yn gwybod bod rhywbeth fel hyn am ddigwydd i ni rhywbryd, ond mae’r salwch yma wedi bod mor greulon - y peth mwya’ creulon ydi bod ni methu bod yno ar y funud ola’.
"Pan oedd hi angen ni fwya’, doeddan ni methu bod yno efo hi.
“Pan oedd ganddi hi ganser yn 2012, os fasa hi wedi mynd adeg yna fyddwn i wedi deall achos roedd hi’n wael ddychrynllyd, a faswn i wedi gallu bod yno.”
Ei unig gysur ydy bod nyrsys yn yr ysbyty wedi bod gyda'i wraig yn ei munudau olaf.
Fe wnaeth Maldwyn ddechrau gwella ac roedd yn ddigon da i fynd i'r angladd, ond mae’r haint wedi gadael ei ôl. Mae o’n fyr ei wynt, wedi blino’n lân ac eto methu cysgu yn y nos. Ac mae yna wacter.
Maldwyn rŵan sydd efo’r cyfrifoldeb dros ofalu am David. Mae’n diolch i’w gymuned a’r gwasanaethau cymdeithasol am fod yn gefn iddo, ond tydi pethau ddim yn hawdd.
“Mae David yn cael pyliau drwg, mae o wedi colli ei fam dydi, ei ffrind gorau.
“Mae’n galed, ond ‘da ni’n gorfod cario ‘mlaen.”
Babi newydd
Pan ddaeth un o bentrefwyr diweddara Y Felinheli i’r byd, doedd ei gymuned newydd ddim yn cael mynd yn agos ato i’w groesawu drwy fagu a dotio.
Fe laniodd Tadhg i fyd dan glo ar Ebrill 7 cyn gwneud y daith dair milltir o Ysbyty Gwynedd, Bangor, i ymuno â’i bentref newydd.
Fel rhieni eraill ar draws Cymru gafodd fabis yn ystod y cyfnod, roedd yn brofiad gwahanol i Elgan ac Orla Roberts.
“Doeddwn i ddim yn cael mynd i mewn i’r ysbyty tan oedd y wraig yn dechrau’r enedigaeth,” meddai Elgan. “Ro’n i yn y car park tu allan ar ôl mynd a hi at y drws, tan oedd hi mewn official labour.
“Roedd y staff i gyd efo’i masg, dim ond un person i mewn ar y tro a doedd y doctor ddim yn dod mewn i’r stafell - roeddan nhw’n siarad drwy’r drws efo’r midwife felly roedd rhywun yn colli’r teimlad personol fel efo’r genedigaethau eraill 'da ni di bod drwyddyn nhw.
“Hefyd, roedd Orla efo 'chydig bach o dymheredd felly roedd nhw’n trin hi fel Covid patient, gath hi test – roedd hi’n iawn – ond roedd hi wedi gorfod mynd i’r Covid ward.
“Roedd rhaid i ni wisgo masg drwy’r adeg, a’r midwife mewn PPE llawn.”
Fe laniodd y bachgen yn ddiogel, ond gan fod ansicrwydd ar y pryd ynghylch risg y feirws i fabis newydd roedd yn gyfnod pryderus.
Roedd y cyfnod clo hefyd yn creu anawsterau unwaith roedd y babi newydd gartref gyda’i chwiorydd, Blathmaid a Meabh.
“Doedd neb yn gallu dod draw,” meddai Elgan. “Ddaru ffrindiau sy’n bwy yn y pentref ddod lawr a sefyll allan yn y ffordd a ni yn yr ardd i ddweud helo, ond roedd o’n anodd i’r teulu achos fydda rhaid iddyn nhw drafaelio.
“Ddaeth Mam a Dad ddim draw - maen nhw’n byw ochrau Rhuthun a Mam yn shieldio felly tro cynta’ iddyn nhw weld Tadhg yn iawn wyneb yn wyneb oedd ar ôl i’r shielding orffen mis Awst.
“Roedd Mam y greadures yn crio pan wnaeth hi weld o y tro cynta’.”
Roedd yn anoddach byth i Orla, gwraig Elgan, gan fod ei theulu hi draw yng ngorllewin Iwerddon.
Ond roedd manteision i’r cyfnod clo hefyd. Gydag Elgan ar ffyrlo fe gafodd ddau fis i ddod i adnabod aelod newydd y teulu – a cheisio bod yn athro i’r ddwy chwaer fawr.
“Roedd y tywydd yn ffantastig, ac roedd yn wych i ni gael babi newydd a medru bod allan yn yr ardd ac roedd y plant yn gallu chwarae. Roedd o yn gyfnod neis.
“Pan neshi fynd yn ôl i' ngwaith roedd hi bach yn anoddach ar y wraig yn trio rhoi addysg i’r plant ac efo babi newydd.”
Mae wedi bod yn gyfnod o newid mewn sawl ffordd i Elgan a’i deulu, a’r teimladau’n gymysg am y misoedd nesaf.
Y Dyfodol
Oherwydd ansicrwydd gwaith yn sgil Covid-19 fe benderfynodd adael ei swydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chael hyd i swydd newydd. Ychydig fisoedd ar ôl iddo fo ddechrau fe fydd Orla yn mynd yn ôl i’w gwaith fel nyrs.
“Mae Orla bach yn bryderus o ran beth fydd ei swydd ar ôl mynd yn ôl, ond o leia’ mae hi’n gwybod bod ganddi swydd,” meddai Elgan.
“Dwi’n mynd i ddechrau’r swydd newydd sy’n eithaf exciting ond eithaf rhyfedd hefyd dechrau swydd newydd heb office i fynd iddo. Fydda i ddim yn eistedd drws nesa' i rywun i ddallt y dalltings, dim ond skype call bob hyn a hyn – ond gawn ni weld sut mae’n mynd.
“Dwi’n gobeithio ceith y plant aros yn yr ysgol, ond os oes lockdown arall y gaeaf yma dwi’n poeni bach am Mam a Dad, eu bod nhw am gael gaeaf adra ella yn shieldio. Mae o bach yn anodd byw yn bellach i ffwrdd - anodd cynnig help.
"Mae pobl yn gallu teimlo’n isolated yn y gaeaf ac mae am gael mwy o effaith ar sut mae rhywun yn teimlo ac iechyd meddwl a ballu. Un peth ydi shieldio yn yr haf pan mae'n braf ond fydd hi'n anoddach yn y gaeaf.”
Ffarwelio â Mam
Er iddi gael amser caled yn ystod y cyfnod clo, mae Anwen Roberts yn ddiolchgar.
Fe gollodd ei mam a gorfod ffarwelio gyda hi o dan amgylchiadau anodd, ond mae hi’n gwerthfawrogi cefnogaeth y pentrefwyr ac yn gobeithio bydd rhywfaint o ddaioni yn dod o’r cyfnod yn y pen draw.
Mae gwreiddiau Anwen yn ddwfn yn Y Felinheli. Fe’i magwyd hi yno, fel ei mam o'i blaen, a heblaw am gyfnod yn y coleg dydy hi heb symud o’r pentref. Er hynny, fe wnaeth cyfyngiadau’r cyfnod clo wneud iddi werthfawrogi ei chynefin hyd yn oed yn fwy.
“Ro’n i’n ffeindio llwybrau doeddwn i erioed wedi bod arnyn nhw o’r blaen, roedd rhywun yn gwneud yr ymdrech ac yn siarad efo pobl, a gweld mwy am fod pawb adra a’r tywydd yn braf.
“Er bod yr ofn a’r pryder yno roedd pobl yn gallu cymryd gwynt ac ymlacio mwy yn lle rhuthro o gwmpas ac wedyn yn dod yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd. Gobeithio bod hynny yn rhywbeth wnaiff barhau.
“Mae gen i ardd, dim un mawr, ond gardd efo digon o waith, a ro’n i’n ddigon hapus – tydi’r ardd erioed wedi edrych mor dda. Dwi’n meddwl am bobl ganol dinas mewn fflat heb ardd, mae'n rhaid bod yn ddiolchgar yn does.”
Mae’n dweud bod pobl Felin wedi helpu ei gilydd yn ystod y cyfnod, yn cynnwys y siop leol oedd yn cludo nwyddau i bobl oedd yn gaeth i’w tai. I ddangos eu gwerthfawrogiad, mae’r pentrefwyr yn casglu arian i dalu am bryd o fwyd i’r holl staff ddiwedd y mis.
Colli Mam
Yng nghanol y cyfnod clo roedd Anwen yn un o'r rhai oedd angen cefnogaeth ei chymuned.
Bu'n rhaid i'w mam Joyce Roberts, fu'n byw yn Y Felinheli erioed, fynd i'r ysbyty am lawdriniaeth.
“Roedd hynny’n anodd achos dwi’n meddwl bod hi’n gwybod ella fasa hi ddim yn dod oddi yna achos roedd sôn am dorri ei choes i ffwrdd," meddai Anwen. "Roedd hi'n ffarwelio efo’r pentref, ffarwelio efo’r gath, ffarwelio efo Rhodri, fy ngŵr.”
Tra yn yr ysbyty fe gafodd ei rhuthro i'r theatr ganol nos, ond y diwrnod canlynol cafodd Anwen ei galw mewn i ffarwelio gyda'i mam am y tro olaf.
“Gafon ni weld hi ar yr intensive care a ro’n i’n gorfod gwisgo’r full PPE. Sut mae rhywun yn canolbwyntio i wneud eu gwaith yn hwnna a gwneud llawdriniaeth dwi ddim yn gwybod. Mae’r staff meddygol yn anhygoel.
“Roeddan ni’n trio gafael yn ei llaw hi ond tydi o ddim yr un peth efo menig. Ond dwi’n hynod ddiolchgar mod i wedi ei gweld hi. Dwi’n gwybod am deuluoedd sydd heb fedru deud ta-ta.
“Achos doedd Mam ddim efo Covid dwi wedi cael gweld hi a dweud ffarwél. Mae hynny’n bwysig.”
Angladd wahanol
Un o sgil-effeithiau yr haint ydi’r cyfyngiadau ar angladdau.
Roedd Joyce yn rhan fawr o’r pentref a’r capel, ond doedd dim hawl cael gwasanaeth yn ei addoldy a dim ond 10 o bobl oedd yn cael mynd i’r cynhebrwng. Felly fe ddaeth yr hers at y capel i gael gwasanaeth byr iawn tu allan, cyn mynd heibio ei thŷ a drwy’r pentref.
“Roedd pawb yn y pentref yn sefyll tu allan wrth i ni basio, gan fod pobl methu dod yma i gydymdeimlo na mynd i’r angladd. Tasa ni wedi cael angladd cyffredin fasa ni heb wneud hynny felly wnaeth o weithio allan yn lyfli.
“Roedd o’n gysur mawr i fi weld y bobl allan a gweld cymaint o feddwl oedd ganddyn nhw o Mam. Fasa hi wedi bod wrth ei bodd."
Sialens
Pan glywodd Charlotte Makanga bod feirws newydd yn dechrau ymledu yn y dwyrain pell, roedd hi'n gwybod y byddai rhaid paratoi yn ei gweithle ond doedd hi ddim yn poeni’n ormodol.
Fel rhan o adran atal heintiau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, roedd wedi gweld sefyllfaoedd tebyg yn mynd a dod o’r blaen.
“Dwi wedi arfer gweld infections gwahanol yn dod trwy’r ysbyty, a ro’n i’n meddwl ‘ok mae byg arall yn mynd ymlaen fydd o’n fine, wnawn ni drin o fel pob un arall,” meddai Charlotte, sy'n fferyllydd ymgynghorol ac yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd.
“Roeddach chdi’n clywed am y peth yn digwydd yn China a roeddach chdi’n meddwl ‘neith o ddod ata ni, ac fel bob dim, gawn ni un case’. Efo Ebola, gafo ni neb.”
Wrth i’r sefyllfa ddatblygu, a difrifoldeb y sefyllfa ddod yn amlwg, fe drodd yn ras yn erbyn y cloc.
Mae fferyllwyr yn hyfforddi am flynyddoedd i wybod pa feddyginiaeth sy’n debygol o wella cleifion - ond gyda feirws mor newydd roedd pawb yn y niwl.
Felly fel ei chydweithwyr ym Mangor ac ar draws y byd dechreuodd geisio dysgu’n gyflym cyn i’r feirws gyrraedd ei hardal gan weithio oriau hir, weithiau saith diwrnod yr wythnos.
“Roedd yna lot o bwysau. Roedd petha’ jest yn newid trwy’r amser a doeddwn i ddim eisiau methu dim byd fel bod ein cleifion ni yn cael y gofal gorau posib,” meddai Charlotte.
“Doeddan ni erioed wedi trin neb efo Covid o’r blaen ac roeddan ni’n dysgu lot.
“Yn y byd pharmacy roedda ni’n mynd i sessions gyda’r nos ac mae ganddon ni network da o fferyllwyr yn yr Eidal ac yn China ac roeddan nhw’n rhannu lot o wybodaeth ac yn dysgu lot gan ein gilydd.
"Mae gen i Whatsapp Group efo bob un antimicrobial pharmacist ym Mhrydain felly 'da ni’n rhannu pethau efo’n gilydd, yn dweud ‘da ni di gweld hwn’, neu ‘da ni wedi rhedeg allan o’r antibiotic yma, well i chi newid.’
“Roedd o'n full on, ond neshi trainio i fod yn pharmacist, neshi trainio mewn infectious diseases ac os dw i methu gwneud y swydd rŵan pryd arall gai wneud o? Mae’n bwysig. Dw i'n dod o’r ardal, mae teulu fi o fan yma, a dwi eisiau gwneud yn siŵr bod bob un patient sy’n dod drwy’r drws yn cael y driniaeth gorau ‘da ni’n gallu rhoi iddyn nhw.”
Gyda phawb yn gweddïo am unrhyw newydd da, roedd pwysau hefyd i roi meddyginiaeth oedd wedi rhoi llygedyn o obaith ar draws y byd.
Fe gafodd hydroxychloroquine sylw yn dilyn astudiaethau addawol yn Ffrainc ac roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump hefyd yn canu ei glodydd. Roedd meddygon yn awyddus i roi cynnig arno i geisio achub cleifion.
“Roedd pwysau yn dod gan doctoriaid yn dweud ‘I want to try it, I want to try it’ ond weithiau 'da ni’n gorfod meddwl ‘think sensibly’.
“Roedd papurau yn dod allan o Ffrainc – ond papurau bach efo studies bach heb lot o gleifion, a ti’n gorfod defnyddio dy ‘pharmacy hat’ a dweud ‘always go for good evidence’ a wnaethon ni benderfynu bod ni am sticio efo’r trial.
“Ti’m yn gwybod os ti’n gwneud y peth iawn, os ti’n gwneud cam efo’n cleifion ni – ond roeddan ni’n iawn yn y diwedd.”
Tra roedd hyn i gyd yn mynd ymlaen, roedd Charlotte hefyd yn ceisio magu dau o blant gyda’i gŵr Alex, sy’n wreiddiol o Malawi, ac yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd.
Heb nain a thaid i fedru gwarchod oherwydd y cyfyngiadau, roedd yn rhaid i’r plant fynd i Ysgol Felinheli i gael eu gwarchod drwy’r cyfnod clo.
Euogrwydd mam
Meddai Charlotte, sydd hefyd yn arweinydd y mudiad Brownies yn Y Felinheli: “Reit yn y dechra' neshi benderfynu do’n i ddim am fynd ar social media a chymryd rhan mewn grwpiau achos ro’n i’n teimlo’n euog dros fy mhlant os dwi’n onast. O ni’n rili yn, a ro’n i’n methu nhw.
“Roedd yr athrawon yn brilliant a’r ysgol yn wych... felly roedda nhw’n fine ond ro’n i’n teimlo’n euog. Achos hyd yn oed pan oedda ni gyd mewn cyfnod clo roedd pobl yn gallu mynd ar eu beics efo’u plant ac ati, dim mod i’n teimlo ‘tydi hyn ddim yn deg’ achos dyma ydi’n swydd i a dyna pam dwi’n cael fy nhalu – ond ro'n i'n teimlo’n euog ac yn poeni amdanyn nhw trwy’r adeg.
"Dwi mor falch bod pawb yn ôl yn ysgol efo’u ffrindiau rŵan.
“A dyna be' sy’n poeni fi mwy na dim byd. Os dyda ni ddim yn dilyn be' 'da ni fod i wneud a 'da ni gyd nôl dan glo fydda i nôl i’r sefyllfa yna.
Canslo priodas
Ymysg y miloedd o ddelweddau sy’n crisialu’r cyfnod clo, mae'n debyg nad ydi eistedd yn feddw o flaen sgrin gyfrifiadur wedi gwisgo fel Ziggy Stardust yn un ohonyn nhw.
Ond mae’r foment ddoniol-drist yma yn adlewyrchu’r cyfnod clo i un o drigolion Y Felinheli am resymau da.
Mis Ebrill oedd hi, mis oedd fod yn llawn bwrlwm a hwyl i Katie Gill wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd, mynd ar ei noson ‘iâr’ a gwneud y paratoadau olaf cyn ei phriodas ar Fai 2. Yn sgil Covid-19 roedd rhaid gohirio’r cyfan ond fe drefnodd barti iâr rithiol a chael noson ‘David Bowie’, noson o chwerthin a cherddoriaeth gyda’i ffrindiau wedi ‘glamio’ fel brenin Glam Rock. Ac wedi elwch, tawelwch fu.
“Roedd yn noson brilliant - fi’n eistedd yn y gegin mewn sequins, fel Ziggy Stardust David Bowie,” meddai. “Roeddwn i ar Zoom, fy ffrindiau i gyd yna, fy ‘ieir’ i gyd, a phawb wedi meddwi. Wedyn wnaethom ni gyd logio ffwrdd, nes i gau’r cyfrifiadur a ro’n i’n eistedd ar ben fy hun yn y gegin. Roedd o mor od a ro’n i’n meddwl ‘Lle aeth pawb?’.
“Roedd o mor wahanol i be’ oedd newydd fod. Ac mewn ffordd, dyna ddigwyddodd efo lockdown, roedd o fel ‘lle mae bywyd wedi mynd mwya’ sydyn?’
“Ella’i fod yn swnio’n ddramatig ond ella’i fod yn metaphor i’r cyfnod.”
Colli busnes
Roedd cael gwybod ar ddechrau’r cyfnod clo bod rhaid gohirio priodasau yn gur pen i Katie am fwy nag un rheswm.
Bu’n gweithio’n galed ers tair blynedd i ddatblygu busnes priodasol, a’r siop yn dechrau ffeindio’i thraed. Dros nos, roedd yn rhaid cau popeth.
“Dyma lockdown yn digwydd a dyna ni - cau, wedi gorffen. Roedd yn drist.
“Dwi’n cofio – o cywilydd rŵan edrych yn ôl – nes i wneud post ar Instagram a ro’n i’n crio arno fo. Doeddwn i ddim yn trio ond dwi’n meddwl mai jest sylweddoli’n sydyn bod fy mhriodas i ddim am ddigwydd, bod y siop yn gorfod cau am... dwn im am faint.
“Hefyd dwi’n dod i adnabod y clients yn dda iawn, a’u teuluoedd felly ro’n i’n drist drostyn nhw hefyd yn gorfod canslo. Roedd yn horrible.”
Mwynhau bywyd arafach
Ond mae’r cyfan wedi rhoi amser iddi ail-ystyried sut roedd hi’n byw bywyd ar ruthr.
Cyn y cyfnod clo roedd ei dyweddi yn dechrau ei waith fel coedwigwr am 7.30am, hithau’n cael y plant yn barod i’r ysgol, gweithio mewn swydd 9-5, cyn nôl y plant a mynd i’w siop gyda’r nos, ac ar ddyddiau Sadwrn.
“Gyda’r lockdown ges i’r anrheg o amser,” meddai. “Ges i fod efo’r teulu, roedd yn teimlo fel cael ail famolaeth efo fy mab.
“Ges i ffyrlo o’r gwaith am chwe wythnos, felly roedd hwnna yn grêt. Aethon ni i gerdded, nes i ddechrau rhedeg eto – rhywbeth oeddwn i’n gwneud cyn cael plant. Roedd yn lyfli ac yn barod dw i’n teimlo mod i’n galaru bod y cyfnod wedi mynd.
“Roedd popeth wedi stopio, roeddach chdi’n edrych ar natur eto, cysylltu eto efo dy deulu, y gymuned a siarad efo pobl. Roedd o jest yn teimlo’n hen ffasiwn. Dwi’n methu’r cyfnod yna ac mae fy emosiynau yn bob man ar hyn o bryd.
“Felly dwi rŵan yn trio cael gwell balans i’m mywyd.”
A’r dyfodol? Heblaw am briodi mae hi’n gobeithio parhau i weithio o’i chartref – yn rhan amser – a pharhau i ddatblygu’r busnes.
Mae hi’n poeni am effaith cyfnod clo arall ar y siop, ac yn poeni y gallai tensiynau godi os ydi pobl yn torri'r rheolau:
“Y peth trist ydi, dwi’m yn meddwl bod lot o’r bobl yma yn torri rheolau i fod yn gas. Maen nhw wedi bod ar ben eu hunain, mae eu pen yn bob man, ella’u bod wedi colli eu gwaith ac maen nhw angen pobl ar hyn o bryd – ac mae ‘na risg rŵan y bydd pobl yn achwyn arnyn nhw a gorfod talu dirwy, ac mae hynny’n greulon.”
Fel gweddill plant Cymru, bydd haf hir 2020 yn aros yng nghof disgyblion Ysgol y Felinheli am amser maith.
Cau’r ysgol ar fyr rybudd, methu gweld ei gilydd am fisoedd lawer, dysgu o gartref dros y we – a glynu at reolau Covid-19 unwaith agorodd yr ysgol ei drysau.
Ond os bydd y disgyblion yn adrodd hanesion y cyfnod clo i’w wyrion ac wyresau ymhen degawdau lawer, fydd y straeon ddim i gyd yn negyddol yn ôl un o’u hathrawon.
Er mwyn ceisio atal yr haint rhag ymledu, ar Fawrth 18 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Kirsty Williams y byddai ysgolion Cymru yn cau ymhen deuddydd.
“Roedd rhaid i bethau ddigwydd yn sydyn,” meddai Sioned Jones, dirprwy bennaeth Ysgol y Felinheli.
“Roedd rhaid i ni drefnu pecynnau gwaith i’r plant ‘ma fynd adra, ond dim syniad am faint roedden nhw am fod adra.
“Be’ oedd yn bwysig i ni, achos ein bod ni’n rhieni hefyd, oedd peidio rhoi gormod o straen ar y rhieni, a dim gormod o straen ar y plant – ond roedd rhaid cael tasgau heriol neu doedden nhw ddim yn mynd i ddysgu dim. Roedd lot o’r rhieni yn gweithio felly roedd yn anodd cadw’r ddysgl yn wastad.”
Yn fam i ddau fab oed cynradd ei hun, am y tri mis nesaf roedd hi’n treulio hanner yr wythnos yn yr ysgol yn edrych ar ôl plant gweithwyr allweddol, a’r hanner arall yn gweithio o gartref a bod yn athrawes i’w phlant ei hun.
“Roedd trio gwneud hynna adra yn fwy o sialens na dim byd, felly roedd yn braf gwybod safbwynt rhiant,” meddai.
“Ro'n i’n casáu cael cyfarfodydd dros y we ar Teams neu Zoom. Trio gwneud hwnna adra, efo dy blant o gwmpas a’r ci yn cyfarth, ond dwi’n meddwl bod hwnnw'r un peth i bawb.”
Gyda’r disgyblion yn ôl yn yr ysgol ers dechrau mis Medi, mae hi’n dweud ei bod yn gweld rhai pethau wedi newid:
“Mae’n neis cael pawb yn ôl, gweld y plant efo’i gilydd a’u clywed nhw’n chwarae ar yr iard.
“Un peth dwi wedi sylwi, a’r staff yma i gyd wedi sylwi hefyd, ydi iaith y plant o deuluoedd di-Gymraeg sydd wedi bod adra. Dwi’n clywed lot mwy o Saesneg ar lawr y dosbarth ers i ni ddod yn ôl, lot mwy – tydi nhw heb gael yr ymarfer, ac wedyn mae plant eraill yn troi i’r Saesneg.”
Ond tydi hi ddim yn credu bod y cyfnod clo wedi bod yn negyddol i bawb.
“Dwi’n meddwl bod lot o blant wedi cael gwerth bod adra efo’u rhieni,” meddai. “Dwi’m yn dweud pawb – ‘da ni’n tueddu i feddwl yn amlwg am rai sy’n diodde’ a ‘da ni’n poeni am lot o blant oedd adra ac yn hapusach yn yr ysgol, ond mae yna blant sydd wedi cael sylw un i un - bob dydd efallai – gan mam a dad.
“Mae’n amhosib rhoi’r sylw hynny mewn dosbarth o 30. Felly dwi’n meddwl bod o wedi bod yn llesol iddyn nhw gael y berthynas yna efo’u rhieni - dwi’m yn meddwl ein bod ni’n gorfod bod yn negyddol amdano i gyd, bod y plant wedi cael cam o fod adra’ – tydi o ddim mor ddu â hynny.”
Cydnabyddiaeth
Cynhyrchu: Bryn Jones.
Prif luniau: Kristina Banholzer.
Lluniau eraill: Cyfranwyr.
Mae hawlfraint ar bob llun.
Dyddiad cyhoeddi: 23/9/2020