Dathlu fy hunaniaeth gymysg
Profiad Chanai Zabadi o gael ei magu yng Nghymru a syrthio mewn cariad â defnydd lliwgar o famwlad ei thad-cu
Cafodd Chanai Zabadi ei geni a’i magu yng Nghaerdydd.
“Dwi’n ystyried fy hun yn Gymraes.
“Fel plentyn, bob blwyddyn ar Ddydd Gŵyl Dewi, byddwn i’n gwisgo lan mewn gwisg draddodiadol – siôl goch, bonet ddu a gyda chennin Pedr ar fy mron. Yn yr ysgol, o’n i’n chwarae rygbi, ac yn dawnsio gwerin yn yr Eisteddfod.
“Dwi’n aml yn coginio pice ar y maen – er dwi’n meddwl fod well gen i eu bwyta nhw na’u gwneud nhw!
“Ond pan o’n i’n tyfu lan, o’n i wastad yn cael sylwadau; dwi'n cymryd oherwydd lliw fy nghroen a fy ngwallt. Dwi o dras Cymreig, Saudi Arabaidd, Nigeraidd, Portiwgeaidd a Gwyddelig.
“Mae pobl yn gofyn i mi ‘o lle ti’n dod?’ a phan dwi’n ymateb gyda ‘Cymru’, maen nhw’n aml yn dweud ‘na, o lle ti’n dod go iawn?’ Dwi wedi cael fy ngalw yn exotic, ac wedi cael pobl yn gweiddi pethau hiliol ata i. Yn ffodus, mae’r achosion wedi bod yn brin.
“Ond mae hyn wedi gwneud i mi deimlo fel outcast yn y wlad lle ges i fy ngeni a’n magu.
“Dwi’n teimlo mor Gymreig ag unrhyw un arall gafodd eu geni a’u magu yma – jest digwydd bod mae gen i’r cefndir du, gwyn ac Arabaidd prydferth ’ma.”
Ankara
Gan fod ei dau dad-cu wedi marw cyn iddi gael ei geni, ni chafodd Chanai lawer o ddylanwad diwylliannau eraill arni wrth dyfu i fyny. Er hyn, roedd hi'n ymwybodol iawn o'i chyndeidiau ac o ble'r oedden nhw'n dod.
Ar ymweliad â Zambia fel rhan o'i chwrs prifysgol, daeth ar draws y defnydd ankara am y tro cyntaf - sydd yn fath o gotwm gyda phatrymau trawiadol a lliwiau llachar arno.
“Aethon ni rownd yr holl farchnadoedd ’ma, ac oedden nhw’n gwerthu llwyth o ankara, ac o’n i’n gweld lot o bobl yn eu gwisgo nhw. O’n i wrth fy modd â’r holl liwiau a phatrymau gwahanol, a pha mor unigryw oedd pob un.
“Roedd e’n eitha’ newydd i mi oherwydd ges i ddim fy nghyflwyno i ankara yn ifanc.
“Pan gafodd ankara ei greu gyntaf, daeth e'n boblogaidd iawn ar draws holl gyfandir Affrica. Roedd y bobl wrth eu boddau gydag e, achos roedd e’n debyg i lawer o batrymau a lliwiau’r llwythau.
“Yn Nigeria - o ble roedd fy nhad-cu yn dod - mae yna gannoedd o lwythau, ac yn aml byddai gan bob llwyth ei batrwm ei hun.”
'Unigryw a phersonol'
Pan wnaeth Chanai gyfarfod Sonsare ei gŵr, sydd o Nigeria, aeth ei chariad tuag at y defnydd patrymog, lliwgar ‘i’r lefel nesa’, meddai, yn enwedig ar ôl sylweddoli fod ankara yn boblogaidd iawn yn y wlad honno hefyd.
“Mae gan bobl o Nigeria falchder mawr yn eu dillad.
“Mae pawb yn prynu defnydd o’r farchnad ac yn mynd â fe at y teiliwr, gyda llun o sut fath o ddilledyn ti ishe, a mae e’n ei wneud e i ti. Mae e mor unigryw a phersonol.
“Pan dwi’n mynd yn ôl i Nigeria, dwi’n cael stwff wedi ei greu i mi. Dwi’n defnyddio teilwriaid mae fy mam yng nghyfraith yn eu hargymell, achos mae hi’n ei wisgo bob dydd ac mae e’n hyfryd.
“Dwi’n meddwl y galli di ddod o hyd i rywbeth ar gyfer unrhyw achlysur. Mae e i gyd am sut mae wedi cael ei deilwra – gallai fod yn addas ar gyfer achlysuron smart, gwyliau neu’r swyddfa.”
Defnydd dathlu
Un o’r achlysuron lle byddai llawer o ankara yn cael ei weld yw mewn priodas.
“Yn Nigeria, ar gyfer eich priodas, bydde’r ddwy ochr – ochr y priodfab ac ochr y briodferch – yn dewis ankara ac yn gofyn i’ch gwesteion wisgo un penodol. Mae priodasau yn Nigeria yn enfawr – mae yna tua mil o westeion ar gyfartaledd – felly byddai cannoedd o bobl, yn llythrennol, yn cyrraedd yn yr un peth.
“Yr union yr un ffabrig, yr union un lliw – ond byddai’n edrych yn wahanol oherwydd falle fyddai un gwestai mewn sgert hir ac un arall mewn crop top a sgert.
“Yn fy mhriodas i yng Nghaerdydd, aethon ni ychydig yn wahanol. Roedd pobl yn gwisgo ankara, ond roedden ni wedi eu cael nhw i ddewis un drwy ddangos lluniau o rai gwahanol, a daeth fy rhieni fy nghyfraith â nhw i gyd o Nigeria, a defnyddiodd bawb deilwriaid lleol. Roedd e fel ffrwydrad enfawr o batrwm a lliwiau!
“Roedd y briodas yn gyfuniad hyfryd o draddodiadau Nigeria a Chymru. Roedd gennym ni fwydydd o Nigeria, fel reis jollof, ond hefyd pice ar y maen!
“Mewn priodas draddodiadol yn Nigeria, byddai’r briodferch yn newid unwaith. Felly roedd gen i fy ffrog briodas ifori draddodiadol, ac wedyn nes i newid i ddillad traddodiadol Nigeria, gyda sgarff fawr wedi ei lapio am fy mhen.
“Doedd fy ngwesteion bendant ddim yn disgwyl i mi newid – dydi’r briodferch mewn priodas Gymreig ddim fel arfer yn newid i mewn i rywbeth sydd hyd yn oed yn fwy extravagant!”
Plethu diwylliannau
Mae bywyd Chanai yn gyfuniad o’r holl ddiwylliannau hynny sy’n agos at ei chalon – y Cymreictod sydd wedi bod yn rhan o’i bywyd ers ei geni, a’r traddodiadau Nigeraidd sy’n gymharol newydd iddi, ond yr un mor bwysig.
Yn ddiweddar, o’i chartref yng Nghaerdydd, mae hi wedi dechrau busnes ar-lein yn gwerthu defnydd ankara mae hi’n ei gludo o Nigeria, ynghyd â bocsys sy’n cynnwys cynnyrch wedi ei wneud o’r defnydd, bwydydd, a nofelau gan awduron Affricanaidd.
“Roedd dechrau’r cwmni ynglŷn â newid y stori sydd yn cael ei hadrodd am Nigeria.
“Pan o’n i’n tyfu lan, nes i erioed gael fy llywio tuag at awduron du. Nes i’r bocsys i chwyddo eu lleisiau ac amlygu profiadau eraill sydd ddim o reidrwydd yn cael eu trafod yn y cyfryngau.
“Ond ges i fy ngeni yn dilyn traddodiadau Cymreig - os ga i blant, hoffwn i eu magu yn ymwybodol o draddodiadau Cymreig hefyd - felly yn y bocs nesa’, dwi am roi pice ar y maen hefyd...”