Cyfrifiad 2021: Stori'r Gymraeg mewn un ardal
Tu ôl i'r ystadegau moel am sefyllfa'r iaith, mae ‘na bobl a chymunedau
Wrth i'w bys redeg ar hyd y rhesi o wynebau yn y llun du a gwyn, mae Glenys Evans yn gallu enwi pob un disgybl. Er eu bod nhw'n ganol oed erbyn hyn, plant ydyn nhw o hyd iddi hi.
"Mae'n od, mae rhywun yn cofio lot fawr o blant dros y blynyddoedd ond mae’r dosbarth yma yn aros yn y cof fwy nag eraill," meddai am lun o blant Ysgol Crud y Werin, Aberdaron, yn 1984.
"Roedd hi'n flwyddyn gynta' i finnau fel athrawes yn yr ysgol ac roedd fy mab yn y dosbarth hefyd felly mae rhywun wedi gweld nhw'n tyfu fyny. Dwi'n cofio eu henwau i gyd - ac mae gen i dal syniad pryd maen nhw'n cael eu penblwyddi hyd yn oed."
Ond nid plant yn unig ydyn nhw i Glenys, sy'n dal i fyw yn y pentref lle magwyd hi, gan ei bod hi'n dal i gadw golwg arnyn nhw o bell.
"Ym Mhwllheli mae’r hogan yma'n byw rŵan, Saesneg oedd hon - dwi ddim yn gwybod be' ddigwyddodd iddi hi, aethon nhw i ffwrdd. Mae hwn yn byw yn lleol, a hwn, mae o ym Mhorthmadog... Pwllheli... Manchester – roedd hi'n Saesneg ond yn hollol Gymraeg ar ôl bod yma am ychydig, ac mae hwn yn byw yn Aberdaron..."
Mae eu bywydau nhw, a ble maen nhw nawr, yn adlewyrchu'r newid yn y gymdeithas dros y degawdau. Yn y cyfnod pan dynnwyd y llun, roedd rhai trigolion dal yn uniaith Gymraeg. Tydi hynny ddim yn wir heddiw.
Ar yr olwg gyntaf does fawr o newid wedi bod yn y pentref ym mhen draw Llŷn a'r golygfeydd yn debyg i luniau o ganrif yn ôl. Mae’r fynwent yn llawnach, ond yr un yw'r eglwys a'r bae gerllaw; yr un yw'r bont dros yr afon er mai ceir nid ceffylau sy'n ei chroesi. Ond tu allan i ffrâm y lluniau cardiau post mae 'na newid wedi bod dros y degawdau, fel ymhob cymdeithas.
Mae’r pentref wedi ehangu, ac er ei fod yn un o gadarnleoedd y Gymraeg o hyd, fel mae ffigyrau'r Cyfrifiad dros y degawdau yn ei ddangos mae'r iaith wedi edwino.
Yn ôl ffigyrau Cyfrifiad 2021, a gafodd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022, doedd tua chwarter poblogaeth ardal Aberdaron methu siarad Cymraeg. Dim ond 13% oedd yn methu siarad Cymraeg yn yr ardal nôl yn 1981.
Ac er mai dim ond yn eu 40au cynnar mae'r plant sydd yn y llun ysgol erbyn hyn, fe gawson nhw eu geni i gymdeithas lle'r oedd 28 o'u cymdogion, yn cynnwys 13 oedolyn, yn uniaith Gymraeg.
Un oedd yn methu siarad Saesneg ddechrau'r 1980au oedd Dylan Llŷr Jones. Ond roedd ganddo reswm da: doedd o prin allan o'i glytiau.
"Mae angen coblyn o job dda i fedru cael mortgage mor fawr" - Dylan Llŷr Jones
"Roedd pawb yn deall Cymraeg yn yr ysgol," meddai Dylan, sydd yn dal i fyw yn yr ardal hyd heddiw. "Dwi'n cofio roedd 'na un hogyn ddaeth o aton ni o Loegr, Martin, roedd o'n byw lawr y ffordd o'r ysgol ac roedd o'n Saesneg ond roedd o'n deall Cymraeg yn iawn o fewn 'chydig a finna'n siarad Cymraeg efo fo.
"Doeddwn i methu siarad Saesneg chwaith mashwr! Dim ond gan visitors ac ar y teledu fydda rywun yn clywed Saesneg – ac mae o rywbeth tebyg rŵan."
Ar ôl ei addysg aeth Dylan i weithio i gwmni adeiladu teuluol, sydd bellach yn cael ei redeg ganddo fo a'i frawd. Mae o’n byw yn Rhiw gyda'i wraig a'u tri o blant.
Wrth edrych ar y llun ysgol o 1984 mae'n gweld nifer o wynebau mae'n dal i'w gweld o gwmpas rŵan, wedi aros yn lleol neu adael a dod 'nôl – yn aml i fagu plant. Un wyneb cyfarwydd ydi hogyn fferm, sy'n amaethu ei hun erbyn hyn a newydd gymryd drosodd caffi'r Gegin Fawr yng nghanol y pentref.
"Mae’n neis i weld rhywun oedd yn yr ysgol efo chdi yn cymryd drosodd menter newydd," meddai Dylan.
"Ma'r ysgol dal yn Gymraeg iawn ac mae unrhyw un sy'n dod fewn yn dysgu Cymraeg – maen nhw fel sbwnj yr oed yna.
"Ond mae 'na newid – a mwy o dai haf.
"Yn y gaeaf ti’n sylwi - y tywyllwch yn y tai a ti'n gwybod eu bod nhw’n wag."
Fel adeiladwr efo tri o blant, mae'n ymwybodol iawn o'r pwysau yn y farchnad dai, a'r ffigyrau yn dweud y cyfan.
Yn 2021, canolrif pris eiddo yn ward Aberdaron oedd £380,000 - dwbl y ffigwr ar draws Gwynedd gyfan, ac mae prisiau ar gynnydd. Cyfartaledd cyflog cyn treth yn Nwyfor Meirionnydd ydi £18,772 y flwyddyn.
"Dwi yn poeni am y plant. Mae angen rhywle i adeiladu - efo'r prisiau fel maen nhw rŵan fyddan nhw methu fforddio prynu tŷ. Mae angen coblyn o job dda i fedru cael mortgage mor fawr, ac os maen nhw eisiau'r job yna mae’n rhaid symud i ffwrdd i’w gael o.
"Faswn i wrth fy modd os fyddan nhw'n aros fan yma. Dwi 'di bod yn lwcus. Dwi wedi etifeddu'r tŷ dwi'n byw ynddo fo – faswn i ddim wedi gallu fforddio byw yma heblaw am hynny."
A dyna ydi sefyllfa un o'i hen gyd-ddisgyblion yn y llun ysgol. Ond nid prisiau tai orfododd iddi adael Pen Llŷn - gadael o ddewis wnaeth hi.
"Cyn i mi fynd i Gaerdydd ro'n i'n swil – wedi bod yn swil erioed" - Gwenllian Williams
Yn y llun du a gwyn mae Gwenllian Williams yn edrych i lawr at y rhes o'i blaen, yn cadw golwg ar ei brawd bach. Tydi hynny ddim mor hawdd y dyddiau yma ag hithau'n byw mewn rhan arall o Gymru.
"Mae prisiau Aberdaron tu hwnt, fyddai dim siawns i fi brynu," meddai. "Ond dwi'n meddwl bod Aberdaron wedi ei golli ers blynyddoedd. Ro'n i'n arfer gweithio yn y Spar ers talwm a ro'n i'n gweld gymaint o bobl yno bryd hynny efo tai haf a cymaint o dwristiaid yn yr haf – dwi'm yn licio hynny."
Ar ôl gorffen ei haddysg gweithiodd fel cymhorthydd ysgol i ddisgybl oedd yn ddall, a dysgu Braille. Am flynyddoedd bu'n mwynhau ymweld â ffrindiau yng Nghaerdydd. Wrth iddi agosáu at ei phen-blwydd yn 30 gwelodd hysbyseb swydd gydag elusen Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall.
"Nes i feddwl 'dwi am fynd amdani – os dwi ddim yn mynd yna fyddai’n styc yn Pen Llŷn'," meddai.
"Cyn i mi fynd i Gaerdydd ro'n i'n swil – wedi bod yn swil erioed, ddim yn dweud bw na be wrth neb. Do'n i ddim yn siarad pan yn blentyn a ro’n i dal yn swil fel oedolyn.
"Yn Pencaerau (ger Aberdaron) doedd 'na'm llawer o gwmpas, a ddes i arfer efo peidio bod o gwmpas pobl, ond roedd bod mewn dinas yn wahanol.
"Pan nes i symud i Gaerdydd roedd yn rhaid i mi siarad efo pobl. Roedd rhaid i mi siarad Saesneg hefyd - ond dwi'n siŵr doedd neb yn deall be o'n i'n ddweud i ddechrau oherwydd yr acen.
"Roedd o'r peth gorau nes i."
Ar ôl wyth mlynedd yn y ddinas roedd hi'n barod i adael, ac yn 2016 symudodd nôl i'r gogledd. Wedi cyfnod gartref ym Mhen Llŷn, dewisodd fyw yn Llanuwchllyn, lle roedd ganddi ffrindiau ac yn teimlo’n gartrefol.
Setlo yn fwy lleol oedd hanes ei brawd bach Geraint, sy'n byw gyda'i bartner a'u merch ym Mhwllheli, a'i brawd hŷn. Mae'r ddau mewn gwaith yn y dref - y naill yn weithiwr crefftus i gymdeithas dai a'r llall yn dechnegydd theatr.
Dywedodd Gwenllian: "Ro'n i'n gwybod byddai fy ngwaith fel cymhorthydd yn dod i ben pan oedd y ferch yn gadael ysgol, felly be' fyddwn i'n 'neud o ran gwaith?
"Byddai rhaid ella i mi fynd nôl i'r coleg i drio bod yn athrawes a chael gwaith – ond mae'r rheiny'n brin.
"Ella'i bod yn haws yn gyffredinol i ddynion i aros gan fod y gwaith sydd yn yr ardal - fel ffermio ac adeiladu a physgota - yn bethau traddodiadol mae dynion yn wneud fel gwaith."
Dyna brofiad tad i chwech o gyn-ddisgyblion Ysgol Crud y Werin. Mae meibion Huw Erith i gyd wedi llwyddo i aros yn lleol: dau yn adeiladu, un yn gweithio gyda thîm bad achub Porthdinllaen, un yn gweithio o gartref gyda chwmni morgeisi a dau ar y môr, ond gyda'u cartref yn ardal Aberdaron.
Mae Huw Erith ei hun wedi gallu byw yn ei gynefin yn Uwchmynydd, i fyny'r ffordd o Aberdaron, a chadw dau ben llinyn ynghyd drwy wneud gwaith amrywiol.
"Mewn lle fel yma ti methu dibynnu ar un peth am fywoliaeth, dwi bob tro wedi gwneud ambell i beth," meddai. "Heddiw dwi'n bario [torri drain] llwybr yr arfordir, fory ar y môr [yn pysgota crancod a chimychiaid]. Alla i ddim dibynnu dim ond ar y môr – weithiau fydd dim posib mynd allan am wythnos oherwydd y tywydd."
Aeth ei blant i'r ysgol gynradd yn yr 1980au a'r 1990au, ond i'r hen Ysgol Deunant aeth Huw yn yr 1960au.
Mae o felly wedi profi mwy o newid, er bod rhai pethau 'run fath, fel pwysigrwydd twristiaeth i'r economi leol.
“Roedd gan Mam garafán acw ac yn ei gosod hi yn yr haf," meddai. "Mynd a dod oedden nhw bryd hynny, ond mae'n wahanol rŵan.
"Ar ddiwedd y 60au a dechrau'r 70au roedd 'na lot o ymwelwyr o Birmingham a Lerpwl yn dod. O Ganolbarth Lloegr oedden nhw'n dod adeg hynny, ond rŵan mae mwy o bobl Cymraeg. Ac mae 'na bobl yn dod yma a gadael eu carafans yna dros yr haf i gyd a dod yma bob penwythnos."
Un newid mawr, sy’n effeithio ar y gymuned a'r iaith Gymraeg, ydi'r niferoedd o dai haf. Yn ôl ffigyrau Cyngor Gwynedd, ar ddiwedd 2020 roedd traean o'r stoc dai yn Aberdaron yn dai gwyliau neu'n ail gartrefi.
"Mae'n dlawd iawn am Gymry lawr yn y pentref rŵan, ond mae 'na fwy yn uwch i fyny ac i ffwrdd o ganol y pentref.
"Yn Uwchmynydd nesh i gyfri'n ddiweddar bod 'na 65 o lefydd acw ac mae 'na 30 yn dai haf."
Wrth fynd o gwmpas y pentref mae o'n gweld esiamplau - a'r effaith.
Mae adeilad yr hen fanc sydd ar bwys y traeth ar werth, am £500,000, meddai.
Wrth hel atgofion am gyfnod pan oedd pedwar banc yn y pentref, siop sgidiau, cigydd a dau of, mae'n amlygu newidiadau yn y gymdeithas sy'n rhoi lliw i'r ystadegau moel.
"Roedd 'na fwy o fywyd yn y pentref, efo'r siopau. Dwi'n cofio William Owain Gladstone yn ofaint yn fan yma, un o'r hen gymeriadau," meddai, wrth sefyll tu allan i dŷ cadarn ger y bont yng nghanol y pentref.
"Roedd 'na dân yma o hyd a haers yn y tân," meddai Huw Erith. "Roedd William Gladstone yn gymeriad, roedd ganddo fo straeon celwydd golau. Unwaith ar ôl glaw mawr roedd cymaint o lif yn yr afon ddy'dodd o fod yr engan wedi nofio at y bont."
Does yna ddim engan na haearn yno mwyach ond mae yna arian. Tŷ gwyliau ydi Gladstone erbyn hyn sy'n codi bron i £500 y noson ym mis Awst. Mae wedi ei gofrestru fel eiddo i berchnogion sydd ddim yn lleol ers cael ei brynu am £150,000 yn 2004.
Os ydi Huw Erith wedi gweld newid mewn cymdeithas dros y degawdau, mae ei gyn-athrawes yn yr ysgol gynradd wedi gweld mwy.
Yn 1934, ganwyd Mary Roberts i gymuned sydd ddim yn bodoli heddiw - ddim yn Aberdaron nac yn unlle arall yng Nghymru.
Mae'r newid ieithyddol anferth sydd wedi bod yng Nghymru yn amlwg yn ffigyrau Cyfrifiad 1931 sy'n dangos bod bron pawb yn ward Aberdaron yn gallu'r Gymraeg. Doedd bron i dri chwarter y boblogaeth ddim yn siarad Saesneg.
Dyma gymuned Mary Roberts pan oedd hi'n blentyn, ac mae ei phrofiad hi yn brawf o sut all ffactorau ymhell tu hwnt i'r filltir sgwâr newid cymdeithas am byth.
"Mae lot o Gymraeg o hyd yma, ond mae rhywun yn clywed mwy o Saesneg," meddai.
"Pan ddaeth yr ifaciwîs yma newidiodd pethau – wnaethon ni ddysgu Saesneg ganddyn nhw'r adeg hynny yn 1939. Ddaethon nhw i Ysgol Deunant [yr hen ysgol gynradd yn Aberdaron], ac mae'n siŵr dyna ddaeth a Saesneg i ni.
"Ro'n i tua phump neu chwech oed ar y pryd. Dwi'm yn cofio neb yn benodol oedd ddim yn gallu siarad Saesneg o gwbl bryd hynny, ond mae’n siŵr bod. Adeg hynny roedd y ficer yn helpu pobl i lenwi ffurflenni ac ati os oedd angen."
Erbyn hyn mae Mary Roberts yn byw ychydig filltiroedd i fyny'r ffordd o Aberdaron. Mae hi'n cofio cymdeithas fwy hamddenol pan gafodd ei magu, a phan oedd hi'n athrawes yn Ysgol Deunant, Aberdaron.
Mae'r newid mawr arall mae hi wedi ei weld yn un sy'n effeithio ar y gymuned Gymraeg: llai o weision fferm wrth i ffermydd bychan ddiflannu a pheiriannau gymryd drosodd. Ond tydi hi ddim yn ddigalon am y gymdeithas bresennol a'i dyfodol.
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb efo'r Covid ond fyddwn i'n dweud bod rhai pethau yn y gymuned yn dechrau mynd yn fwy cryf rŵan oherwydd bod yr Eisteddfod ar y ffordd.
"Dwi'n meddwl bod pobl ifanc heddiw yn fwy am drefnu pethau – fel cyfarfodydd i hel pres, mae 'na gae chwarae yn Aberdaron rŵan. Mae mamau ifanc rŵan yn dda.
"Mae pawb yn dweud bod nhw eisiau tai i bobl leol, wel oes mae angen, ond mae angen gwaith hefyd."
Y dyfodol
Tai, gwaith ac iaith – geiriau sy'n bell o feddwl disgyblion presennol Crud y Werin. Tan y cyfrifiad nesaf o leiaf.
Yn y cyfamser mae 'na ddysgu i'w wneud. Heddiw, mae Glenys Evans yn ôl yn yr ystafell ddosbarth i drafod sut mae'r ysgol wedi newid ers ei chyfnod fel athrawes. Dyma'r tro cyntaf iddi fod yn ôl ers iddi ymddeol.
Wrth i'r plant sgwrsio'n naturiol gyda hi yn y Gymraeg mae hi'n dyfalu'n gywir pwy ydi teulu bron pob un, gyda sawl rhiant yn gyn-ddisgyblion iddi. Mae hi'n teimlo'n galonogol bod y gymuned Gymraeg glòs oedd yno yn yr 1980au dal yn gadarn.
Ond mae hi'n gwybod o brofiad personol bod un pwnc ysgol yn allweddol pan mae'n dod i ddyfodol y gymuned: daearyddiaeth. Dywed bod lleoliad Aberdaron yn ei gwneud yn lle deniadol i gael cartref - boed hynny'n brif gartref neu'n un gwyliau - ac yn lle anodd i gael gwaith. Mae ei mab hi ei hun yn enghraifft o effaith hynny.
"Fyddai o'n byw yma o ddewis ond oherwydd bod ganddo fusnes ar Ynys Môn tydi o ddim mor hawdd â hynny," meddai Glenys. "Ella ei fod rhy hwyr erbyn hyn i ddod 'nôl hefyd, mae ei bartner o Gaernarfon a'i gwaith hithau hefyd yn yr ardal yna.
"Mae Bangor tuag awr a hanner i ffwrdd. Mae'n bell i fynd bob dydd i weithio.
"Hyd yn oed os oes gan rywun £300,000 am dŷ yn Aberdaron, os ydy'ch gwaith chi ym Mangor mae'n mynd i fod yn drwm iawn i fynd yno bod dydd. Mae'n awr a hanner, mwy os oes 'na draffig ar hyd lonydd cefn gwlad."
Wrth ail-greu llun 1984 gyda disgyblion heddiw, mae'n dod i'r amlwg bod chwech ohonyn nhw yn blant i'r disgyblion yn y llun gwreiddiol.
Ac wrth olrhain hanes gweddill y cyn-ddisgyblion yn y llun du a gwyn daw'n amlwg bod yr ardal wedi llwyddo i gadw gafael ar ei phobl ifanc.
Mae dros ddwy ran o dair ohonyn nhw yn dal i fyw yn ardal Llŷn ac Eifionydd - yn wir mae dros hanner y disgyblion yn dal i fyw o fewn dalgylch yr ysgol. Doedd dim posib dod o hyd i leoliad dau o'r disgyblion, a bu farw dau yn ifanc mewn damweiniau ffordd.
Dim ond tri o'r 29 yn y llun sydd wedi gadael Cymru.
Ond beth am y dyfodol? Mae’r gyn-athrawes, a'r pennaeth presennol Llinos Jones, yn gytûn bod Aberdaron mewn sefyllfa gref i gadw ei phobl ifanc, ond mae'r ddwy hefyd yn ymwybodol iawn o'r hyn sydd ar y gorwel.
Yn ddiweddar, ac yn enwedig ers Covid gyda chymaint yn gweithio o gartref, mae tai wedi bod yn gwerthu'n sydyn a phrisiau wedi codi - 12.5% yn fwy o gynnydd yng Nghymru yn haf 2022 na'r flwyddyn flaenorol yn ôl Cymdeithas Adeiladu y Principality.
Fe allai pwysau ychwanegol ar y farchnad dai gael effaith ar gymunedau fel Aberdaron lle mae'r prisiau tai yn llawer uwch na gweddill y sir yn barod, a lle mae canran uwch o'r eiddo yn dai gwyliau ac ail gartrefi - 34% ar ddiwedd 2020.
Yn y cyfamser mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cynyddu'r dreth ar ail gartrefi yn y sir o 100% i 150% o fis Ebrill 2023. Mae'n ymgais gan y cyngor i helpu pobl brynu tai yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu.
Erbyn i ddisgyblion Crud y Werin lenwi eu ffurflenni Cyfrifiad 2031, bydd unrhyw effaith y mesurau newydd - a chyfnod y pandemig - yn gliriach.
Mae Llinos Jones, hithau'n gyn-ddisgybl ei hun, yn hyderus y bydd nifer ohonyn nhw yn dal i fyw yn lleol.
"Mae 'na wreiddiau cadarn i'r gymuned yma, yr un math o deuluoedd sydd yma a phan o'n i yn yr ysgol," meddai. "Mae Aberdaron yn dod yn fwy poblogaidd fel lle i ddod ond mae gen ti o hyd gymuned gref yma.
"Mae dwy ffordd o edrych ar y peth. Mae rhywun yn meddwl 'mae o'n garantîd o newid', ac eto mae lot o'r plant yma yn rhai wnaiff aros yma a chael teuluoedd, alla'i weld nhw'n aros yma. Fyswn i'n synnu tasa fo yn newid - bosib achos ein bod ni mor bell 'da ni’n cael llonydd."
Ac i Glenys Evans, mae'r patrwm yn amlwg, a chanddi deimladau cymysg: "I raddau, dwi wedi synnu bod cymaint yn yr ardal, ond o weithio fo allan wrth edrych ar yr hen lun, mae'n dibynnu ar y swyddi. Mae'r un yma yn gweithio yn Manchester, mae'r un yma yn dysgu yn Sarn, roedd hon yn chef yn Llundain cyn dod 'nôl, ffarmio mae hwn, gweithio efo peiriannau fferm ac ati mae hwn, yr un yma yn gweithio efo’r cyngor, hwn efo lle cychod, un arall yma yn ffarmio.
"Mae'n haws os ydych chi’n ffermio. Mae un teulu wrth ymyl ni, mae ganddyn nhw dri o feibion ac maen nhw'n gallu cadw'r tri adra gan fod y fferm digon mawr – mae o yn gwneud gwahaniaeth.
"Felly er bod rhywun yn pryderu, mae 'na obaith."
Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2022
Hawlfraint lluniau: Lluniau cyfranwyr - BBC/cyfranwyr; lluniau du a gwyn o Aberdaron - Casgliad y Werin; llun ysgol 1984 - anhysbys; William Owen ac Ysgol Deunant - Casgliad Geoff Charles/Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Gladstone - bigcottages.com; tablau cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol/Y Goron. Holl luniau eraill - BBC.