O Idole i Irac
Bywyd y ffotonewyddiadurwr o Sir Gâr, Claire Thomas, drwy ei lluniau
RHYBUDD: Gall rhai o'r lluniau beri pryder
Tua phedair milltir o dref Caerfyrddin mae pentref bychan Idole yn gorwedd yng nghanol môr o gaeau gwyrddion wedi ei amgylchynu gan ffermydd.
Mae’r ardal ble magwyd y ffotonewyddiadurwr Claire Thomas yn fyd hollol wahanol i’r lle a fu’n gartref iddi am dair blynedd rhwng 2016 a 2019: Irac.
Yn ystod yr ymgyrch olaf ym Mosul, ble y treuliodd Claire y rhan fwyaf o’i hamser yn y wlad, bu farw rhwng 9,000–11,000 o bobl gyffredin gyda miloedd mwy wedi eu hanafu.
Yng nghanol y brwydro, bu'n gweithio ar y rheng flaen yn tynnu lluniau o’r meddygon oedd yn darparu triniaethau brys i drigolion lleol ac i’r milwyr.
Mae ei gwaith ar y digwyddiadau hyn wedi cyrraedd rhestr fer sawl gwobr fawr, gyda’r lluniau sy’n adrodd cyfrolau wedi eu cyhoeddi yn The New York Times, The Sunday Times a’r National Geographic.
Sut felly y gwnaeth rhywun o bentref bychan gwledig ger Caerfyrddin gyrraedd fan hyn?
“Mae’r diolch yn mynd i fy ffrind Matt oedd yn gwerthu desg lawr yn Nhre Ioan, a daeth dyn i’w gasglu oedd yn ffotograffydd,” meddai Claire gan chwerthin. “Dywedodd Matt bod gan ei ffrind ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth a holodd os oedd modd iddo basio ei rif ymlaen ata i.”
Drwy’r cyswllt hwn, dechreuodd wneud ychydig o waith llawrydd i’r Carmarthen Journal a’r Llanelli Star a chael y wefr o weld ei gwaith wedi ei gyhoeddi am y tro cyntaf.
Ond un darn o’r jig-so gyrfaol ydyw honno.
Mae un arall i’w ganfod ychydig filltiroedd o Dre Ioan, yng nghanol tref Caerfyrddin. Wrth i Claire aros i ddechrau ei gradd mewn gwleidyddiaeth, treuliodd beth amser yn gweithio mewn siop.
Ar ei hegwyl ryw ddiwrnod, daeth ar draws hysbyseb fach yn y cylchgrawn Horse and Hounds yn cynnig cyfle i fyfyrwyr dreulio’r haf yn dysgu plant yn America sut i farchogaeth.
A hithau mor angerddol dros geffylau ers yn bedair oed, roedd Claire yn argyhoeddedig mai hwn fyddai’r haf perffaith iddi hi a phlannwyd y dyhead i fynd i weithio gyda cheffylau yn America.
Wyoming
Ychydig flynyddoedd wedyn, daeth y freuddwyd yn wir a chafodd gyfle i gamu i fyd yr oedd hi’n credu a fodolai’n unig mewn ffilmiau Western. Gyda mynyddoedd y Teton sy’n ffurfio rhan o’r Rockies byd-enwog yn gefndir, treuliodd sawl haf yn gweithio ar ranch yn Wyoming.
“O'n i’n casáu fe ar y dechrau,” meddai, “o’dd y gwaith yn gorfforol iawn. O'n i’n llefen lot, bob dydd! Y feddylfryd oedd 'if you can’t lift the bale, get stronger'.”
Ond er y diwrnodau gwaith hir oedd yn ymestyn rhwng pump y bore a 10 y nos, mewn cwta fis roedd hi wedi syrthio mewn cariad â’r lle, a dychwelodd yno’n flynyddol i ofalu am dros 90 o geffylau bob haf.
Nid yn unig y bu’r cyfnod hwn yn baratoad da iddi at anghenion corfforol gweithio mewn rhyfeloedd ond yma hefyd y datblygodd ei chariad at ffotograffiaeth wrth iddi godi’r camera i dynnu lluniau o’r ceffylau.
Gwneud gwahaniaeth
Parhaodd i deithio wedi iddi raddio gan dreulio amser yn Ghana ble y sylweddolodd fod gan ei lluniau y gallu i wneud gwahaniaeth.
Defnyddiwyd y delweddau a dynnodd o fenywod oedd yn byw’n guddiedig gyda HIV ac AIDS oherwydd stigma ar gyfer ymgyrch elusennol lwyddiannus i brynu matresi iddyn nhw. Cyn hyn, roedden nhw’n cysgu ar lawr caled, oer a oedd yn cyfrannu at ddioddefaint eu salwch.
Ond daeth y penderfyniad i ddilyn gyrfa lawn amser mewn ffotograffiaeth wedi i lun a dynnodd o gamel o flaen pyramid Giza yn Cairo gael ei gyhoeddi, yn annisgwyl braidd, yn y National Geographic.
“Hwn oedd y foment i fi i fynd amdani,” meddai Claire.
Y Lan Orllewinol
Er y byddai’n well gan ei rhieni ei bod hi wedi penderfynu mynd ar drywydd ffotograffiaeth deuluol neu briodasol, ffotonewyddiaduraeth oedd yn mynd â’i bryd.
Teithiodd i’r ddinas Balesteinaidd, Hebron, ar y Lan Orllewinol a dechrau llunio ffoto-draethodau ar rai o heriau bywyd beunyddiol y Palestiniaid a oedd yn byw o dan oresgyniad filwrol yr Israeliaid.
“Dyma ble dwi wedi teimlo fwyaf ofnus,” meddai Claire, gan ddisgrifio gweithredoedd y milwyr fel rhai "di-drugaredd" ar brydiau.
“Roedd grŵp o ferched ifanc, myfyrwyr, yn peintio arwyddion o heddwch a gobaith, a dyma’r milwyr yn rhedeg atyn nhw. Roeddwn i’n tynnu lluniau ohonyn nhw a tries i redeg o’r ffordd ond welon nhw fi a taflon nhw stun grenade ata i… Roedd pethau fel hyn yn digwydd bob dydd,” meddai.
Gyda’r bwriad o rannu straeon y bobl ddiniwed, canolbwyntiodd yn aml yn ystod y cyfnod hwn ar blant. Roedden nhw’n cael eu targedu’n gyson, boed hynny drwy weithredoedd fel eu beiciau’n cael eu gwahardd gan y milwyr Israelaidd, neu’n cael eu taro gan geir oedd yn gwibio trwy’r ddinas.
Aeth Claire ymlaen wedyn i gofnodi argyfwng y ffoaduriaid, gan fynd i wersylloedd ar draws Groeg ac i’r 'Jwngl' yn Calais.
Yma, bu’n tynnu lluniau o’r tensiynau rhwng yr heddlu a’r ffoaduriaid wrth i’r awdurdodau fynnu cau’r gwersyll yng Ngogledd Ffrainc. Yr un fu’r hanes hefyd yng Ngogledd Groeg pan gaewyd y ffin â Macedonia.
Gwrthdaro rhwng heddlu terfysg Ffrengig a ffoaduriaid oedd yn aros yng ngwersyll y 'Jwngwl' yn Calais
Gwrthdaro rhwng heddlu terfysg Ffrengig a ffoaduriaid oedd yn aros yng ngwersyll y 'Jwngwl' yn Calais
Ffoadur yn eistedd ar y rheilffordd o flaen y ffin gaedig rhwng Groeg a Macedonia
Ffoadur yn eistedd ar y rheilffordd o flaen y ffin gaedig rhwng Groeg a Macedonia
Irac
Wedi iddi gyfarfod â sawl teulu yn y gwersylloedd a oedd wedi peryglu eu bywydau wrth geisio cyrraedd Ewrop, penderfynodd ei bod hi eisiau mynd i weld beth yn union yr oedden nhw’n dianc rhagddo.
Dyma ddechrau ar ei thair blynedd yn Irac.
Pan gyrhaeddodd y wlad, treuliodd amser yn Gayyara i’r de o Mosul, yn tynnu lluniau dynion tân oedd yn brwydro fflamau enfawr a pheryglus wedi i filwyr ISIS roi ffynhonnau olew yno ar dân. Wedyn, bu’n rhedeg o adeilad i adeilad mewn pentrefi cyfagos yn ceisio cael lloches wrth i’r bwledi daro ar y waliau o’i hamgylch.
Dilynodd y frwydr wrth iddi agosáu at yr hen ddinas ym Mosul, ac yma ymunodd â chriw o feddygon rhyngwladol oedd yn gweithio ar flaen y gad mewn clinigau dros dro.
Gyda’r rhyfel yn gefndir, roedden nhw’n gweithio’n ddiflinio i ofalu am bawb oedd yn cael eu hanafu.
Bu ton gyson o ochneidiau gan rieni yn colli plant o flaen eu llygaid neu blant yn dod atyn nhw heb eu rhieni. Rhwng y boen a’r gwaed, roedd torcalon.
Yn aml yn ystod y cyfnod hwn, bu rhaid iddi osod ei chamera i'r naill ochr a helpu, boed hynny wrth ddal llaw plentyn mewn ambiwlans neu estyn offer angenrheidiol i’r meddygon.
“Mae ffotograffiaeth mor bwysig er mwyn bod pobl eraill yn gorfod wynebu realiti ac erchyllderau rhyfel,” meddai.
Un peth arall a darodd Claire yn syth oedd y newyn. Mae un achos penodol yn aros yn y cof; babi bach dau fis oed – Sulaiman – oedd yn dioddef yn enbyd o ddiffyg maeth difrifol. Tynnodd lun o’r babi yn derbyn triniaeth gan un o’r meddygon, Katie Batrouney.
“Roedd y meddygon yn gweithio mor galed,” meddai Claire. “Ma' siwt gymaint yn digwydd a ti’n creu perthynasau mor gryf gyda’r bobl o dy amgylch.
"Chi’n dod mor invested yn y stori. Do'n i ddim yn teimlo fel fy mod i mo’yn gadael. I’r gwrthwyneb, ro'n i mo’yn mynd nôl.”
Yn rhyfeddol, wythnos ar ôl iddi adael Irac, derbyniodd neges dros Facebook gan y doctor oedd wedi trin y babi pan gyrhaeddodd yr ysbyty. Roedd wedi gweld y llun ac eisiau rhoi gwybod i Claire ei fod wedi gweithio am fisoedd i’w gadw yn fyw.
Cafodd Claire y cyfle i gwrdd â’r doctor, Sulaiman a’i fam ddwy flynedd ers y llun cyntaf.
Pŵer ffotograffiaeth ar sawl lefel.
Yn dilyn cyfnod pellach yn Irac yn gweithio gyda’r Cenhedloedd Unedig yn dogfennu’r wlad yn adfer, aeth ymlaen i Afghanistan.
Drwy ei chamera, cofnododd y newidiadau cymdeithasol oedd ar waith yno wrth i fenywod dewr geisio herio’r hen drefn a chreu llwybrau newydd iddyn nhw ei hunain drwy fynychu cyrsiau fel rhai i fod yn fydwragedd.
Mae Claire wir yn ofni nawr am y dyfodol iddyn nhw a phawb yn Afghanistan yn sgil y sefyllfa bresennol yno.
Ychydig fisoedd yn ôl, treuliodd amser gyda ffoaduriaid oedd wedi dianc o’r wlad i dref Ven yn Nhwrci ger y ffin ag Iran.
“Maen nhw wedi gwario eu harian i gyd i gyrraedd Twrci, a nawr s'dim byd gyda nhw,” meddai. “Maen nhw’n styc mewn fflat mewn stafelloedd hollol wag, does dim trydan gyda nhw, dim byd. Deuddeg o bobl mewn lle bach, plant hefyd. A dy'n nhw methu gadael achos os ydy’r awdurdodau yn Nhwrci yn eu dala nhw, byddan nhw’n cael eu hanfon nôl i wynebu marwolaeth.
"Does dim opsiynau gyda nhw. Dim help. Maen nhw’n desperate.”
Mongolia
Gyda’i hawch i fynd at wraidd straeon a’u rhannu gyda’r byd, mae Claire wedi dilyn sawl prosiect personol hefyd sy’n aml yn ymwneud â’i chariad at geffylau.
Marchogodd gyda llwythi ym mynyddoedd yr Altai ym Mongolia wrth ddysgu am helwyr tylluanod y Kazakh, y ceffylau, a’r bobl lled-nomadaidd sy’n byw yno.
Ei bwriad oedd rhoi’r traddodiadau hynafol hyn, sy’n wynebu bygythiad yn sgil trefoli a newid hinsawdd, ar gof a chadw.
Ym mynyddoedd yr Altai, yn bell o’i chynefin yn Sir Gaerfyrddin, y ceffylau oedd y llinyn cyswllt, yn ei hatgoffa o ddiwrnodau hir ym marchogaeth ar gaeau Idole.
Er bod milltiroedd daearyddol a gwahaniaethau diwylliannol yn aml yn gwahanu pobl, canfyddiad Claire yw bod yna elfennau cyffredin sy’n ein huno o hyd.