Effeithiau cudd Covid

Gwir effaith y pandemig ar y gwasanaeth iechyd

Dyn ar yr ochr arall i ffenest
Llun agos o'r feirws Covid-19
Llun agos o'r feirws Covid-19

Mae pryder y gallai miloedd farw oherwydd Covid-19 – ond nid am eu bod wedi dal y feirws.

Mae'r pandemig wedi arwain at ganslo apwyntiadau, oedi gyda thriniaethau a rhestrau aros yn tyfu gyda chleifion yn methu cael cymorth iechyd hanfodol.

Wrth i’r gwasanaeth iechyd wynebu misoedd anodd y gaeaf ac ail don o’r feirws, mae BBC Cymru yn datgelu gwir effaith y pandemig ar y gwasanaethau hynny ac ar fywydau pobl.

Canslo gofal canser

Fe ddechreuodd 2020 yn wael i David Williams, a hynny cyn iddi ddod i’r amlwg y byddai’n flwyddyn hunllefus i’r byd cyfan.

“Ges i ddiagnosis prostate mis Ionawr. Roedd yn dipyn o ergyd i glywed bod ganddoch chi ganser ac yn boen meddwl a doeddwn i ddim yn gwybod be’ yn union oedd am ddigwydd. Mae pawb sy’n cael gwybodaeth am ganser yn mynd trwy’r un peth.”

Ac fel sydd hefyd yn gyffredin, yn syth ar ôl derbyn y newyddion drwg roedd y gŵr o Landegfan, ar Ynys Môn, am gael trin y canser mor fuan â phosib.

Ar y cychwyn roedd popeth yn symud yn gyflym a chafodd biopsi ei drefnu – ond daeth rhwystr i’w lwybr at wella nag oedd yn bosib ei ragweld ddechrau’r flwyddyn.

“Wnaeth Covid godi ei ben ac yn sydyn roedda ni mewn canol pandemig a wnaeth bob dim gau lawr," meddai.

"Ges i wybodaeth bod ‘na ddim biopsi am fod, a doeddwn i ddim yn sicr o gael unrhyw fath o driniaeth os oedd y biopsi yn llwyddiannus.”

David Williams

Fe gafodd David Williams, cyn-olygydd BBC Cymru, ddiagnosis am ganser yn Ysbyty Gwynedd, Bangor

Fe gafodd David Williams, cyn-olygydd BBC Cymru, ddiagnosis am ganser yn Ysbyty Gwynedd, Bangor

Ar ochr arall y wlad, roedd Simon Green mewn sefyllfa debyg.

Ddwy flynedd yn ôl fe gafodd driniaeth am diwmor yr ymennydd, ac ar ôl meddwl ei fod wedi gwella fe gafodd ei daro’n wael fis Mawrth eleni.

“Wnaeth nhw fynd a fi i’r uned casualty a rhoi sgan CT i mi a chymryd profion gwaed a dweud, ‘gwranda allwn ni ddim dweud lot fawr – ti angen MRI’,” meddai.

“Yna dwi’n cael llythyr yn dweud ei fod wedi ei ganslo oherwydd y lockdown am resymau diogelwch.”

Simon Green tu allan i'w gartref

Mae Simon Green, sy'n byw ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, yn athletwr cadair olwyn brwd

Mae Simon Green, sy'n byw ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, yn athletwr cadair olwyn brwd

Roedd yn rhaid i Simon ddisgwyl tan mis Mai cyn cael sgan, a chael newyddion drwg. Roedd y tiwmor yn ôl – ond wedi tyfu ac wedi ymledu, a doedd dim posib cael llawdriniaeth.

“Tasa nhw wedi rhoi sgan ar y dyddiad gwreiddiol ym mis Mawrth yn lle Mai, yna dwi’n meddwl y byddai nhw wedi dod o hyd i’r tiwmor llawer cynt achos mae’n tyfu’n gyflym.

“Dwi ddim yn lladd ar yr NHS achos maen nhw o dan bwysau mawr iawn ar hyn o bryd, ond os doeddwn i ddim mor gegog ac wedi ffonio a mynnu ella fyddwn i dal heb gael fy sganio.

"Dwi'n meddwl efallai bod hyn wedi effeithio fy nyfodol."

Simon tu allan i'w gartref
Simon yn edrych trwy ffenestr ei gartref

Wrth i Gymru ddod allan o ail gyfnod clo mae’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yn delio gydag ail don y feirws. Ond mae ‘na bryder bod miloedd ar draws Cymru yn byw gydag effaith peidio cael profion, triniaeth neu ddiagnosis pan oedd eu hangen yn ystod y don gyntaf.

Dros y misoedd diwethaf mae rhaglen Wales Investigates BBC Cymru wedi bod yn ymchwilio i ganfod faint o bobl allai fod wedi cael eu heffeithio gan fod y feirws wedi amharu cymaint ar y gwasanaeth iechyd.

Mae banc data SAIL, sydd yn rhan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi bod yn olrhain cofnodion iechyd holl boblogaeth Cymru yn ystod y pandemig. Dyma un o’r astudiaethau mwyaf manwl drwy’r byd.

Yr Athro Ronan Lyons

Yr Athro Ronan Lyons

Yr Athro Ronan Lyons

Yr Athro Ronan Lyons sy’n arwain y gwaith ymchwil. Mae'n dweud bod yn rhaid mynd yn ôl i gyfnod y rhyfeloedd byd i weld effaith tebyg ar y gwasanaeth iechyd.

Meddai: “Rydy ni'n gwybod bod effaith fawr wedi bod ar y gwasanaethau iechyd, o ran trin y bobl [gyda Covid] ac hefyd y ffaith wedyn bod y gwasanaeth iechyd wedi gorfod treulio cymaint o'u hamser yn trin y bobl hynny ac wedi ei chael hi'n anodd i gadw fyny efo gofynion gweddill y boblogaeth.

"Aethom ni o 2,500 o bobl y dydd yn mynd i’r adran uned brys i tua 1,000 – sy'n leihad anferth.”

Un o’r afiechydon sydd wedi ei effeithio ydi canser.

Mae’r ffigurau yn dangos bod miloedd o bobl wedi colli allan ar driniaethau canser yn ystod y cyfnod clo rhwng Mawrth a Gorffennaf eleni o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Cyfeiriadau brys canser. Mawrth-Gorff. Graff yn dangos ffigurau cyfeiriadau brys canser - treuan yn llai yn 2020 nag yn 2019 2,400 - neu 33% - o bobl yn llai wedi mynd am ddiagnosis.
Graff yn dangos ffigurau radiotherapi a cemotherpi - 20% yn llai wedi derbyn yn 2020 nag yn 2019

Colli amser, colli bywydau

Yr Athro Tom Crosby ydi pennaeth Rhwydwaith Canser Cymru, sy’n edrych ar sut i wella gwasanaethau.

Mae’n dweud bod perygl bod cannoedd os nad miloedd o gleifion canser yn cael eu gweld yn rhy hwyr i'w hachub oherwydd yr ymdrech ar ddechrau’r pandemig i ddelio gyda Covid-19:

“Mae yna filoedd o gleifion sydd heb ddod drwy’r system, fyddai wedi gwneud fel arall. Mae rhai o’r rheiny yn mynd i fod efo canser a nawr fydden nhw heb gael diagnosis.

“Ryda ni wedi gwneud gwaith modelu efo Lloegr ac mae’n awgrymu bod rhwng 200 a 2,000 o farwolaethau ychwanegol yn mynd i ddigwydd yn sgil canser sydd heb ei ganfod neu ei drin yng Nghymru.”

Yr Athro Tom Crosby

Yr Athro Tom Crosby

Yr Athro Tom Crosby

Mae’n anodd iawn darogan gwir effaith hyn, ond dywed Yr Athro Tom Crosby bod posib y bydd mwy o bobl wedi marw o ganser – fyddai fel arall wedi gallu byw – na sydd wedi marw o Covid.

Meddai: “Dwi ddim yn meddwl ein bod ni’n gwybod yn iawn a bod yn onest, ond dwi’n amau, yn y tymor hir, mai dyna fydd yn digwydd oherwydd dwi’n meddwl bydd yr effaith ar wasanaethau canser yma am ddwy neu dair blynedd yn y dyfodol.”

Cleifion yn ofnus

Tydi’r pryderon ddim yn synnu Dr Nia Hughes, sy’n gweithio yn ardal Bangor. At feddygon teulu fel hi fydd pobl yn mynd yn y lle cyntaf os oes ganddyn nhw bryderon am eu hiechyd, ac fe welodd hi wahaniaeth mawr yn ystod y cyfnod clo.

“Roedda ni yn y gwaith ond doedd dim llawer o gleifion yn cysylltu efo ni,” meddai wrth raglen BBC Radio Cymru Creithiau Covid. “Roedda ni’n barod i drafod cyflyrau iechyd efo nhw ond doedd nhw ddim yn dod felly yn sgil hynny tyda ni ddim wedi cyfeirio cleifion i weld arbenigwyr yn yr ysbytai.

Dr Nia Hughes

Dr Nia Hughes, meddyg teulu

Dr Nia Hughes, meddyg teulu

"Roedda ni’n cydlynu yn agos efo’r meddygon yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod clo a dwi’n cofio un yn dweud ‘mae’n nghlinig i yn wag wnewch chi plîs gyfeirio dwi’n poeni am y merched sydd ddim yn dod i’n ngweld i' a dwi’n cofio dweud 'wel, dydi nhw ddim yn dod i’n gweld ninnau chwaith’.

“Roedd pobl ofn marw efo Covid, felly ofn mynd i’r ysbyty ac ofn dod i’n gweld ni i gael profion gwaed ac ati.”

Mae arbenigwyr ac elusennau canser wedi bod yn galw am sicrwydd bod gwasanaethau yn parhau yn ystod yr ail don, a chanolfannau triniaeth ar gael sydd ddim yn delio gyda chleifion Covid.

“Mae cael triniaeth yn gyflym yn rili, rili pwysig,” meddai Lowri Griffiths, pennaeth materion cyfoes a pholisi Marie Curie yng Nghymru.

“'Da ni ar yr ail wave ar hyn o bryd a 'da ni’n gobeithio bydd y gwasanaethau yn y byrddau iechyd yn cario 'mlaen y tro yma a bod ni’n medru atal rhag gorfod cau sgrinio a hefyd y routine operations.”

Ychwanegodd yr Athro Tom Crosby: "Rwy'n meddwl bod angen bod yn fwy uchelgeisiol. Roedden ni'n gallu adeiladu ysbytai maes mewn dwy neu dair wythnos. Mae angen agwedd tebyg rŵan i ddal i fyny efo'r achosion."

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario biliynau yn ymladd Covid, yn ceisio cadw'r feirws o dan reolaeth a chadw'r GIG i fedru parhau i weithredu.

Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Vaughan Gething

Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething sydd wedi gorfod gwneud penderfyniadau mewn cyfnod digynsail

Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething sydd wedi gorfod gwneud penderfyniadau mewn cyfnod digynsail

Yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething mae’r penderfyniadau wnaeth y llywodraeth yn mynd i arwain at rai pobl yn diodde’ anableddau neu hyd yn oed golli bywydau oherwydd lleihad yn y gofal oedd ar gael oherwydd Covid. Ond ychwanegodd:

“Byddai gwneud dim yn golygu nid yn unig bod y gwasanaeth wedi cael ei lethu efo gofal sâl iawn i gleifion oedd gyda Covid a rhai heb Covid, ond fe fyddai wedi bod yn drychinebus i’n staff ni hefyd.”

Dywedodd eu bod yn edrych ar sut i ddod dros y broblem o rhestrau aros hirach, ond bod cael cynllun hir dymor yn anodd gan nad ydi’r pandemig drosodd eto ac ansicrwydd y gaeaf eto i ddod.

Simon Green

Simon Green yn yr ysbyty yn cael triniaeth oherwydd ei salwch

Simon Green yn yr ysbyty yn cael triniaeth oherwydd ei salwch

Mae’n bosib bod y cyfan yn rhy hwyr i Simon Green.

Trwy gydol ei salwch mae ei ffrind Kirsty a’i phlentyn Lucia wedi bod yn gymorth mawr iddo, ond mae o’n pryderu na fydd o gwmpas i weld y ferch bump oed yn tyfu i fyny.

“Mae lot dwi eisiau gwneud, a dwi’n dal i obeithio ga' i wneud hynny ond dwi’n derbyn bod hynny’n annhebygol rŵan.

“Dwi wir yn meddwl os fyddwn i wedi cael y sgan mis Mawrth yna byddai fy mhrognosis yn llawer gwell, ond fyddai byth yn gwybod.”

Simon Green yn rhoi pluen i Lucia

Mae Simon Green yn gwybod nad oes gwellhad i'w ganser, ond mae'n dweud ei fod am wneud y mwyaf o gweddill ei fywyd.

Mae Simon Green yn gwybod nad oes gwellhad i'w ganser, ond mae'n dweud ei fod am wneud y mwyaf o gweddill ei fywyd.

Ar Ynys Môn mae David Williams mewn sefyllfa llawer mwy ffodus.

Pan ddaeth hi'n amlwg fod cyfyngiadau Covid yn mynd i achosi oedi i’w driniaeth, fe benderfynodd fynd am driniaeth breifat a chael tynnu’r canser yn syth.

“Dwi’n teimlo yng ngeiriau'r Sais bod fi wedi dodged a bullet,” meddai.

“Dwi yn deall mor lwcus ydw i a dwi yn deall bod pobl eraill ddim yn yr un sefyllfa a dwi’n ymwybodol bod pobl yn gwitchad. Dwi’n darllen rŵan am ganser ac mae cymaint o bobl fel dwi’n deall wedi marw ac mae’n 'neud i fi feddwl be' fasa wedi digwydd i fi.

“Dwi ddim yn trio bod yn melodramatic ond wrach baswn i, achos bod y broses ddim ar gael yn yr NHS, faswn i wedi colli bywyd fy hun.”

Ond dim ond un rhan o’r gwasanaeth iechyd sy’n delio gyda chleifion canser.

Byw gyda phoen

Colin Jones yn cerdded y ci
Colin Jones yn eistedd ar y soffa gyda'i faglau
Colin Jones ar long
[object Object]
“Roedd quality of life da gen i. Sa i efo rhagor.”

Roedd Colin Jones yn arfer byw bywyd llawn. Wedi iddo ymddeol o’r heddlu, roedd o a’i wraig Jane yn mynd ar wyliau dramor dwywaith y flwyddyn ac yn mwynhau cerdded.

“Ro’n i’n cerdded i gadw’n heini ac yn arfer mynd a chi fy nghroten am dro pan oedden nhw ar wyliau, a mynd ar hyd llwybr arfordir fan hyn,” meddai wrth Cymru Fyw o’i gartref yn Llanelli.

“Ro’n i’n mynd tua thair milltir – fi ffili mynd tair modfedd rŵan. Mae fy mywyd i wedi twli upside down. Mae e ar stop."

Dechreuodd problemau’r gŵr 72 oed flwyddyn a hanner yn ôl gyda phoen yn ei gefn a’i glun. Gwaethygodd dros y misoedd a dechrau eleni cafodd ddiagnosis o osteoarthritis a’i gyfeirio am driniaeth. Yna daeth y pandemig.

“Mae’n anodd, sneb yn cysylltu â sna’m dyddiad na dim.

“Rhaid i fi ddibynnu ar y wraig i neud popeth. Fi ffili codi o’r gadair even heb help a ma’n cael effaith ar yr ymennydd sa ddim dowt ambyti fe.”

Colin Jones a'i wraig

Dyddiau di-boen - Colin a'i wraig Jane

Dyddiau di-boen - Colin a'i wraig Jane

Colin Jones ar daith llong
Colin Jones ar ei fagla

Mae pryder bod rhestrau aros fel rhai orthopaedig, oedd yn hir cyn y pandemig, nawr yn hirach byth.

Dyna brofiad y meddyg teulu Dr Nia Hughes. Dywed bod rhestr aros am lawdriniaeth ar y glun yn ddwy flynedd cyn i Covid daro, a’i bod wedi clywed gan gyd-weithwyr y gallai fod wedi dyblu erbyn hyn.

Meddai: “Mae ganddo ni gleifion sy’n cysylltu rŵan wedi cael llond bol, yn dioddef yn ofnadwy efo poen ac yn mynd yn fethedig a methu cerdded a ‘da ni’n gwybod bod y rhestr wedi mynd lot hirach ac yn sicr yn fwy o flynyddoedd.

“Mae yna bottle neck yno. ‘Da ni’n cael cyswllt gan glaf mewn poen ofnadwy a does unlle i ni gyfeirio nhw achos mae’r rhestr aros yn orlawn.

"Mae’r cleifion yma am fynd yn fwy methedig, maen nhw’n cerdded llai felly mae cyflwr eu cyhyrau yn mynd yn waeth ac mae hynny efo oblygiadau ar sut fydd nhw’n dod dros y llawdriniaeth a fydd nhw’n cymryd hirach i ddod dros y llawdriniaeth yn y tymor hir.”

Mae hi’n dweud bod ei hysbyty lleol, fel eraill ar draws Cymru, wedi ail-afael mewn llawdriniaethau ac yn wahanol i’r cyfnod clo cyntaf mae gwasanaethau yn parhau er gwaetha cynydd eto yn y niferoedd gyda Covid.

Ond mae'r ffigurau yn dangos bod gwaith dal fyny, gyda tua hanner yn llai o lawdriniaethau wedi eu gwneud yn ystod y cyfnod clo.

Graff yn dangos nifer y llawdriniaethau - tua hanner yn llai yn ystod y cyfnod clo

Gofynnodd BBC Cymru i bob bwrdd iechyd yng Nghymru pa mor hir maen nhw’n credu y gallai ei gymryd i glirio'r rhestrau aros sydd wedi eu creu gan y pandemig.

Doedd dim un ohonyn nhw yn gallu rhoi amser penodol i’r BBC.

Ond mae'r ffigurau gafodd eu rhoi gan chwech allan o'r saith bwrdd iechyd yn profi bod cleifion eisoes yn aros yn llawer hirach nag y gwnaethon nhw o'r blaen am driniaethau a llawdriniaethau.

Graff o'r ffigurau yn dangos 3,434 o gleifion yn disgwyl dros flwyddyn am lawdriniaeth
Graff yn dangos 25,997 o gleifion yn disgwyl blwyddyn am lawdriniaeth
Graff yn dangos 4,492 yn disgwyl dros flwyddyn am driniaethau
Graff yn dangos 49,684 o gleifion yn disgwyl am driniaeth

Label tabledi morffin

I Colin Jones mae’r misoedd ychwanegol o boen yn sgil yr oedi wedi arwain at broblem arall – dibynnu ar dabledi lladd poen.

Meddai: “Roedd y morffin yn gweithio yn yr wythnosau cynta’ ond fel ma’r wythnosau yn mynd ymlaen smo nhw’n cael yr un effaith. Fi’n gwybod bod cymryd morffin am gyfnod yn gallu cael effaith mawr ar eich corff chi. Mae rhywun yn gallu mynd yn addicted iddyn nhw, chi’n gorfod gwatchad – ond ma’n Catch 22. Fi ffili neud dim byd mond cymryd nhw.”

Label meddyginiaeth

Mae un llygedyn o obaith gan fod ganddo apwyntiad ffisiotherapi yn y dyddiau nesa, ond dim sôn am lawdriniaeth.

“Dwi’m yn meddwl fydd y driniaeth flwyddyn nesa chwaith,” meddai. “A be’ fi’n poeni yw, gan mod i ffili symud mod i’n gwaethygu, bod yr esgyrn yn mynd yn waeth, ac efallai yn y diwedd fydd nhw methu gwneud dim byd i fi.”

Colin Jones ar faglau

Tabledi

Iechyd meddwl

Wrth i’r ail don gyrraedd, mae’n ymddangos bod y gwasanaeth iechyd yn ymdopi, hyd yma, i’r her o drin cleifion Covid wrth barhau i gynnig gwasanaethau eraill.

Ond nid triniaethau iechyd corfforol yn unig sydd wedi cael eu heffeithio o ganlyniad i’r feirws.

Gyda rheolau aros gartref, cadw pellter, a hunan-ynysu, a'r holl bryder yn ystod y pandemig, mae iechyd meddwl nifer fawr o bobl wedi dioddef.

Ers bron i ddegawd mae Ryan Donohue wedi cael problemau iechyd meddwl. Llynedd roedd yn ddiolchgar am gymorth gan uned seiciatryddol ac roedd yn dal i gael cefnogaeth yng ngogledd Cymru.

Ond ddyddiau yn unig ar ôl dechrau’r cyfnod clo cyntaf, cafodd wybod bod ei driniaeth yn dod i ben oherwydd Covid.

Ryan Donohue ar draeth

Ryan Donohue, wnaeth astudio bioleg y môr, ar un o draethau gogledd Cymru

Ryan Donohue, wnaeth astudio bioleg y môr, ar un o draethau gogledd Cymru

Meddai: “Ges i neges ar y ffôn, oedd prin yn bosib ei glywed, a llythyr swta, ac wedyn – pan yn dy ben dy hun ti ar ymyl y dibyn, ddim yn gwybod be’ sy’n digwydd nesaf.

“Alli di ddadlau mai hwn ydi’r un adran o feddygaeth sy’n gallu cael ei wneud o bell, felly dwi ddim yn gwybod pam cafodd ei dorri fel hyn."

Yn ystod y cyfnod clo, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ryddhau bron i 1,700 o gleifion o'u gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gamgymeriad, ac roedd Ryan yn un ohonyn nhw.

Roedd effaith colli’r gwasanaeth dros nos yn straen iddo: “Heb fy nghi, sydd fel angor i mi, dwi’n meddwl y byddwn i mewn sefyllfa debyg i lynedd, efo meddyliau am hunanladdiad ac anobaith llwyr.”

Dywedodd y bwrdd iechyd wrth BBC Cymru eu bod yn derbyn bod camgymeriadau wedi eu gwneud ar ddechrau'r pandemig, ac yn ymddiheuro i unrhywun gafodd eu gadael i lawr. Fe wnaeth y bwrdd iechyd geisio'n aflwyddiannus i gysylltu yn ôl gyda Ryan, ac maen nhw'n parhau i dderbyn cyfeiriadau newydd.

Yn ôl ffigurau SAIL, ar draws Cymru roedd gostyngiad sylweddol yn y niferoedd yn gofyn am help am gyflyrau fel iselder a gor-bryder.

Graff yn dangos ffigurau cysylltiad gyda meddyg teulu am broblemau iechyd meddwl cyffredin - 50% yn llai yn 2020 nag yn 2019

Ac roedd 700 yn llai wedi gofyn am gymorth ar gyfer salwch meddwl difrifol, fel sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol yn yr un cyfnod - gostyngiad o 43%.

Dywed yr elusen iechyd meddwl Hafal bod rhai cleifion wedi cael trafferth i dderbyn y cymorth roedden nhw angen a bod lefel y gwasanaeth yn amrywio o un ardal i’r llall.

Meddai Mair Elliott, ar ran Hafal: “Mae pawb efo’r hawl i gael gofal iechyd a phawb efo’r hawl i gael cymorth. Felly pam bod un person yn ne Cymru yn cael cefnogaeth wych ac unigolyn ardal yng ngogledd Cymru ddim yn cael y cymorth? Dylai hyn ddim digwydd.

“Mae’r gofal yna am reswm a’r gefnogaeth yno am reswm.”

Angen arweiniad

Mae’r elusen yn pryderu am effaith y diffyg cymorth ar iechyd meddwl cleifion – yn enwedig y rhai gyda chyflyrau dwys - ac wedi disgwyl gwell arweiniad gan y llywodraeth.

Meddai Mair Elliott: “Fi’n credu nad oedd digon o direction gan Lywodraeth Cymru i’r byrddau iechyd i ddweud ‘dyma sydd fod i ddigwydd, dyma sut y'n ni am wneud hyn a dyma beth i ddweud wrth bobl Cymru’.”

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething bod y llywodraeth wedi gwneud yn glir fod darpariaeth iechyd meddwl yn flaenoriaeth yn ystod y pandemig ac yn hanfodol ym mhob rhan o Gymru.

Maen nhw'n ymwybodol bod camgymeriad wedi ei wneud wrth ryddhau cleifion yn y gogledd, ond bod y bwrdd iechyd wedi unioni'r sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi penodi gweinidog yn benodol ar gyfer iechyd meddwl ac wedi buddsoddi bron i £10m mewn gwasanaethau ychwanegol.

Y dyfodol

Wrth i Gymru ddod allan o'r ail gyfnod clo, mae'r feirws yn dal i ymledu ac mae misoedd y gaeaf ar y ffordd.

Heddiw mae’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn fwy nag erioed.

Pwysleisio bod gan bawb gyfrifoldeb i helpu rheoli’r pandemig wna Vaughan Gething.

“Fe all pethau fynd yn waeth, ond y ffactor mwyaf ydi’r dewisiadau rydym ni’n ei wneud ynglŷn â sut ydym ni’n byw ein bywydau,” meddai.

“Mae gan y dewisiadau rydym ni’n eu cymryd ganlyniadau yn y byd go iawn i bobl sy’n disgwyl [am driniaeth], waeth beth ydi eu gofynion iechyd nhw eu hunain.

“A’n gwaith ni yn rhedeg a rheoli’r system ydi ceisio cael cydbwysedd rhwng yr holl ofynion.”

Mae'r frwydr bellach nid yn unig i achub pobl rhag y feirws, ond hefyd rhag sgil effeithiau mae'r haint wedi ei gael ar bob rhan arall o'n gwasanaeth iechyd.

Arwydd cadwch ar wahan
Dynes yn cerdded ger y mor
Dyn yn eistedd ar ben ei hun
Cerlun gyda masg

Cydnabyddiaeth:

The Hidden Cost of Covid - BBC1 Wales, 9 Tachwedd, 2030/ iPlayer.

Creithiau Covid, BBC Radio Cymru, 9 Tachwedd, 1230/BBC Sounds.

Hawlfraint lluniau: BBC; cyfranwyr; Ajale/Pixabay; Getty. Mae hawlfraint ar bob llun.

Dyddiad cyhoeddi: 09/11/2020