Eisteddfodwyr yn canu ar y platfform ac ar y trên

Roedd eisteddfodwyr a fu ar y maes mewn hwyliau da wrth ddychwelyd o'r Maes ar Barc Ynysangharad ym Mhontypridd nos Sadwrn.

Bu diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn llwyddiannus - pawb yn canmol y Maes a'r trefniadau teithio.

Nos Sadwrn Dafydd Iwan a gwesteion fu'n perfformio ar lwyfan y Maes ac yn y Pafiliwn roedd yna berfformiad o'r opera roc Nia Ben Aur.

Roedd eisteddfodwyr mewn hwyliau da wrth iddyn nhw adael y Maes ac yn canu ar y platfform a'r trên.

(Fideo Iestyn Williams a Mari Williams)