Gwyliwch: Fideo CCTV o'r ferch a drywanodd athrawon a chyd-ddisgybl

Mae fideo CCTV o ferch a drywanodd ddwy athrawes a chyd-ddisgybl wedi cael ei ddangos i'r llys yn yr achos yn ei herbyn.

Ddydd Gwener, fe glywodd y rheithgor bod y ferch 14 oed wedi dweud “dyna un ffordd o fod yn enwog” ar ôl trywanu'r tri yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu amser egwyl ar 24 Ebrill.

Mae’r ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cyfaddef iddi drywanu'r tri, ond mae hi'n gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.