Beth sydd ar feddyliau etholwyr Ceredigion Preseli?

Fel ym mhob man yng Nghymru oni bai am Ynys Môn, mae etholaeth newydd Ceredigion Preseli yn edrych tipyn yn wahanol i'r arfer yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Ond beth sydd ar feddyliau pleidleiswyr yno, a beth fyddai'n eu perswadio nhw i bleidleisio dros berson neu blaid benodol?

Iwan Griffiths fu'n teithio'r etholaeth ar ran rhaglen Newyddion S4C i gasglu'r farn.

Bu hefyd yn sgwrsio â Dr Elin Royles o adran wleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth i drafod y newidiadau sydd wedi bod i ffiniau'r etholaeth, a pa effaith posib all hynny ei gael ar y canlyniad.

Ymgeiswyr Ceredigion Preseli

Taghrid Al-Mawed - Plaid Gweithwyr Prydain

Tomos Barlow - Y Blaid Werdd

Jackie Jones - Llafur

Ben Lake - Plaid Cymru

Karl Pollard - Reform UK

Aled Thomas - Ceidwadwyr

Mark Williams - Democratiaid Rhyddfrydol