Y Coridor Ansicrwydd: Caerdydd i ddisgyn?

Er iddyn nhw ennill yn annisgwyl nos Iau yn erbyn Sheffield United yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr, mae Caerdydd mewn dyfroedd dyfnion yn y Bencampwriaeth.

Gyda'r tri thîm isaf i ddisgyn i Adran Un ar ddiwedd y tymor, a dros hanner y gemau wedi'u chwarae, mae'r Adar Gleision un safle o waelod y tabl.

Ydy'r garfan yn ddigon cryf i aros i fyny?

Mae 'na wahaniaeth barn mawr ymysg criw Y Coridor Ansicrwydd.

Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds