'Angen parchu Slofacia ond canolbwyntio ar ein hunain'
Mae capten newydd Cymru Angharad James yn dweud y byddan nhw’n dangos llawer o barch tuag at Slofacia yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025 nos Wener.
Ar ôl dweud hynny, mae hi’n hyderus yng ngallu ei thîm, gan ddweud fod yna gymysgedd dda o chwaraewyr profiadol a chwaraewyr ifanc o fewn y garfan.
Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae yn ninas Poprad, cyn yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth nesaf.
Mi fydd yr enillwyr yn wynebu un ai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia yn y rownd derfynol am le yn Euro 2025 yn Y Swistir yr haf nesaf.