Ysgrifennu fel 'math o therapi' i enillydd Cadair yr Urdd

Elain Roberts o Bentre'r Bryn yng Ngheredigion sydd wedi ennill y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr.

Elain yw'r cyntaf erioed i ennill y Fedal Ddrama a'r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd - enillodd y fedal yn 2023.

Hefyd am y tro cyntaf yn hanes cystadleuaeth y Gadair, mae'r wobr wedi'i hennill gan ferch am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Tesni Peers o Wrecsam oedd yn ail yn y gystadleuaeth, a Celt John o Aberystwyth yn drydydd.

Dywedodd Elain Roberts wrth BBC Cymru Fyw ei bod hi'n falch iawn o fod y drydedd ferch yn olynol i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd.

"Mae hwn wedi bod yn hwb yn bendant... ac i fi mae'n [ysgrifennu] ffordd dda o brosesu unrhyw deimladau.

"Mae e'n rhywbeth dwi'n gorfod ei wneud, mae fel math o therapi wir."