Y Coridor Ansicrwydd: Pwy fydd yn dechrau i Gymru?
Dwy gêm yn unig mae Craig Bellamy wedi bod wrth y llyw, ond mae rheolwr newydd Cymru eisoes wedi dangos i barodrwydd i newid ei dîm yn sylweddol – yn ystod a rhwng gemau.
Cafodd 14 chwaraewr eu defnyddio yn y gêm gyfartal yn erbyn Twrci wrth agor yr ymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis diwethaf.
Cafodd tri chwaraewr arall gyfle i wneud argraff yn y fuddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Montenegro. Daeth wyth eilydd i'r cae dros y ddwy gêm.
Pwy felly fydd Bellamy yn ei ddewis i wynebu Gwlad yr Iâ nos Wener?
Dyma’r 11 mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn credu allai ddod ar y cae ar ddechrau'r gêm yn Reykjavik.
Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds.