'Fi'n grac' - Protest ffermwyr yn Llundain yn erbyn newid treth
Mae cannoedd o ffermwyr Cymru yn teithio i Lundain ddydd Mawrth i ymuno â phrotestiadau yn erbyn newidiadau Llywodraeth y DU i dreth etifeddiaeth.
Wrth deithio ar y bws o Gaerfyrddin i'r brotest, dywedodd Delia Protheroe, 37, yn emosiynol nad oedd hi'n cytuno gyda phenderfyniad y llywodraeth.
"Fi'n really grac gyda beth maen nhw'n trial gwneud achos fi ddim yn cytuno gyda fe."
"'Na gyd maen nhw'n becso am yw targedau newid hinsawdd."
Ym marn Delia, sy'n ffermio yn Sir Gaerfyrddin, mae 'na ffyrdd eraill y gall y Canghellor Rachel Reeves arbed arian ac mae angen ystyried diogelwch bwyd y wlad.
Ychwanegodd y ffermwr o Sir Gâr, Ieuan Evans, 27, bod "angen newid yn y diwydiant" i genedlaethau’r dyfodol.
"Sa’ i'n gweud bod y dreth etifeddiaeth yn mynd i effeithio ni, ond felle fydd yn effeithio'r genhedlaeth nesaf."
"Mae angen i ffermydd bach gadw fynd."
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi gwneud "penderfyniad anodd i sicrhau bod y drefn yn gynaliadwy", ond bod y cynllun yn "deg".
Ychwanegodd y llefarydd bod cyplau sy'n berchen ar ffermydd yn cael pasio hyd at £3m heb dalu treth, ac mai tua 500 o ffermydd fydd yn cael eu heffeithio bob blwyddyn.