'Gobeithio fod Taylor Swift yn siarad i'w chathod yn Gymraeg'
Mae darlunydd o Gaerdydd a gyhoeddodd lyfr i ddysgu Cymraeg i anifeiliaid yn dweud ei bod hi'n "gobeithio fod Taylor Swift yn siarad i'w chathod yn Gymraeg", ar ôl i'r seren bop gael copi yn anrheg gan Croeso Cymru.
Cyhoeddodd Anne Cakebread y llyfr 'Teach Your Dog Welsh' ar ôl iddi achub milgi oedd ond yn ymateb i’r Gymraeg.
Mae'r llyfr bellach ar gael mewn 13 o ieithoedd gwahanol, ac yn cynnwys cyfres 'Teach Your Cat'.
Ers 2018 mae dros 90,000 copi o'r llyfrau wedi eu gwerthu, ac yn ogystal â Taylor Swift, mae amryw o enwogion eraill yn berchen ar gopi hefyd.
Gobaith Anne, sy'n byw yn Llandudoch yn Sir Benfro, yw bod y llyfrau yn hybu mwy o bobl i ddysgu ac i ailgydio yn yr iaith mewn ffordd hwylus.