Ruby Evans yn 'mynd amdani' yn ei phrofiad Olympaidd gyntaf

Bydd y Gymraes Ruby Evans a gweddill aelodau tîm gymnasteg menywod Prydain Fawr yn cystadlu yn rownd derfynol y merched yn y Gemau Olympaidd.

Bu'n rhaid i'r ferch 17 oed o Gaerdydd a'i chyd-mabolgampwyr aros am rai oriau cyn y daeth cadarnhad eu bod wedi sicrhau lle yn y ffeinal.

Fe gafodd Evans y dechrau gorau posibl i’w phrofiad Olympaidd, gan sgorio'r uchaf yn y cyfarpar cyntaf.

Er ei bod yn anlwcus gyda chwymp ar y bariau, fe lwyddodd i adenill hyder ar y trawst cydbwysedd cyn mynd i'r llawr.

Gafodd sgôr cyffredinol o 13.333 gan y beirniaid ar ôl cais llwyddiannus i adolygu ei sgôr gwreiddiol o 12.833.

Fe orffennodd yn bumed yn y categori hwnnw, o dan ei chyd-aelodau tîm Georgia-Mae Fenton ac Alice Kinsella, felly ni fydd yn rhan o'r rownd derfynol yna.

Bydd rownd derfynol timau'r merched yn cael ei gynnal yn Arena Bercy ddydd Mawrth am 17:15.