Ai dyma gôl orau Jess Fishlock dros Gymru?

Mae Jess Fishlock bellach wedi sgorio 43 gôl dros Gymru ar ôl rhwydo yn ystod y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Wcráin yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 nos Fawrth.

Helen Ward yw’r prif sgoriwr yn hanes Cymru gyda 44 gôl, felly dim ond un arall mae Fishlock ei hangen i ddod yn gyfartal â record Ward.

Ond y cwestiwn mawr – ai'r gôl yn erbyn Wcráin ydy’r orau iddi ei sgorio ar y llwyfan rhyngwladol?