Medi Harris yn cael 'hwyl' yn y ras gyfnewid

Roedd Medi Harris o Borthmadog yn rhan o dîm ras cyfnewid 4x200m dull rhydd Prydain sydd wedi sicrhau eu lle yn y rownd derfynol.

Y pedair oedd yn cystadlu oedd Freya Anderson, Abbie Wood, Lucy Hope a'r Gymraes, Medi Harris.

Er i Harris nofio'r cymal olaf yn y ras, nid yw hi'n gwybod eto a fydd hi'n rhan o'r tîm fydd yn cystadlu yn y rownd derfynol nos Iau.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd fod y ras wedi mynd yn "rili da".

"Roedda' ni jyst isho mynd mewn a chael hwyl a chael lane da iddyn ni".

Wrth baratoi at heno, dywedodd y byddai'r tîm yn "bwyta lot, cysgu lot a jyst trio chillio cymaint â da ni'n gallu".

Roedd teulu Medi yn y stadiwm yn ei gwylio yn cystadlu.