Oes angen dysgu am y menopos yn yr ysgol?

Ym mis Awst fe fydd dwy fyfyrwraig Meddygaeth yn lansio eu podlediad newydd, Paid Ymddiheuro.

Mae Elin Bartlett a Celyn Jones-Hughes yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a dyma'u tro cyntaf yn cynhyrchu eu podlediad eu hunain.

Bydd y podlediad yn canolbwyntio ar iechyd merched ac mae tair pennod allan o chwech yn rhoi sylw i ddulliau atal-cenhedlu, PCOS (Poly-cystic Ovary Syndrome) a'r menopos.

Bydd y menopos yn effeithio pob menyw rhyw ben, ac ar raglen Dros Ginio ddydd Mawrth fe fynegodd y ddwy ddarpar feddyg eu bod yn teimlo'n gryf nad yw'r menopos a'i effeithiau yn cael ei addysgu ddigon.