'Diagnosis canser ar ei hôl hi o'i gymharu â'r triniaethau'
Mae adroddiad damniol i gyflwr gwasanaethau canser yng Nghymru wedi beirniadu dryswch a diffyg eglurdeb yn y ffordd y maen nhw'n cael eu harwain.
Galw mae Archwilio Cymru am arweiniad cenedlaethol "cryfach a chliriach" i wella canlyniadau i gleifion.
Mae'r adroddiad yn nodi fod targedau cenedlaethol yn dal i gael eu methu, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn gwariant, gyda rhai cleifion yn aros dros 100 diwrnod am driniaeth.
Un sydd wedi bod trwy'r profiad o gael diagnosis a thriniaeth canser ydy Nia Elain Roberts o Landwrog ger Caernarfon, a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn Nhachwedd 2023.
Dywedodd bod cleifion yn "ymwybodol iawn" fod datblygiadau addawol o ran triniaeth canser, ond ei bod yn credu nad yw'r gallu i weld meddygon a chael diagnosis yn datblygu ar yr un cyflymder.
"Mae'r hyn maen nhw'n gallu gwneud - sydd yn wych - yn codi calon ac yn obeithiol iawn," meddai.
Ond ychwanegodd fod "angen sicrhau fod lle i fedru manteisio ar y datblygiadau hynny".
"Os nad ydy pobl yn gallu cael eu gweld ac os nad ydy pobl yn cael eu trin, does 'na ddim pwynt i'r camau yma fynd yn eu blaen."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu canfyddiadau'r adroddiad a bod trefniadau arweinyddiaeth cenedlaethol ym maes canser yn cael eu hadolygu.