Gwylio: Tŷ Gobaith fel 'botwm reset' i deulu o Ynys Môn

Ychydig filltiroedd y tu allan i Gonwy mae hosbis Tŷ Gobaith sy'n lle heddychlon, braf i deuluoedd â phlant sydd angen gofal cymhleth gael ysbaid, a chwrdd â theuluoedd eraill tebyg iddyn nhw.

Un o'r teuluoedd rheiny yw teulu Alaw, o Ynys Môn. Yn dilyn cymhlethdodau yn ystod ei genedigaeth mae Alaw yn byw gyda chyflwr parlys yr ymennydd (cerebral palsy) yn ogystal ag epilepsi a dystonia. Mae'r cyflyrau hyn yn golygu bod angen gofal 24/7 ar Alaw.

Dywedodd ei mam, Ffion James Evans, bod Alaw wedi mynd i Dŷ Gobaith ar ôl i niwrolegydd a meddyg plant awgrymu hynny wedi cyfnod o chwe mis yn ysbyty Alder Hey, Lerpwl.

"Tra mae Alaw yn cael gofal seibiant yn Nhŷ Gobaith, mae hynny'n golygu ein bod ni hefyd yn cael seibiant. Ond y prif beth mae o'n ei roi i ni ydy seibiant o'r rôl gofalu 'na. Mae o'n rôl 24 awr.

"Felly, 'dan ni'n cael brêc o wneud yr holl feddyginiaethau rownd y cloc, 'dan ni'n cael seibiant o wneud yr holl apwyntiadau, galwadau ffôn, ebyst yn ôl ac ymlaen efo pobl sy'n ymwneud â gofal Alaw.

"Mae o'n fotwm reset mewn ffordd i ni fel teulu."

Pan mae Alaw yn Nhŷ Gobaith, mae'n cael gymaint yn fwy na dim ond gofal eglurodd Ffion.

"Mae o'n gymaint mwy na hosbis. Fuodd Alaw yng ngerddi Bodnant wythnos diwethaf yn mwynhau yn fanno efo'r criw. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn defnyddio'r stafell sensori yn Nhŷ Gobaith.

"Ond dw i'n meddwl mai hoff beth Alaw ydi mynd i nofio efo'r tîm, ac yn aml iawn mae'r ffisiotherapydd yn mynd efo nhw, ac yn cynnal sesiynau yn y pwll. Felly mae hi'n hogan fach lwcus iawn yn cael mynediad i'r holl weithgareddau yma."

Mae Alaw yn dipyn o seren yn Nhŷ Gobaith eleni gan mai ei stori hi sy'n arwain apêl flynyddol yr elusen.

Roedd Ffion a'i gŵr, Barry, yn awyddus i rannu stori Alaw gyda'r byd er mwyn "codi ymwybyddiaeth o'r gwaith arbennig maen nhw yn ei wneud yno."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.