Cerddwyr swnllyd yn mynd trwy Lanberis ganol nos
Mae trigolion sy’n byw ar ddechrau llwybr mwyaf prysur yr Wyddfa wedi dweud bod y nifer cynyddol o bobl sy’n penderfynu dringo’r mynydd yn oriau man y bore wedi gwneud eu bywydau’n "ofnadwy".
Mae recordiad camerâu cylch cyfyng o gynharach ym mis Mehefin yn dangos ymhell dros 100 o bobl yn cerdded ar hyd Rhes Victoria yn Llanberis am 01:30.
Yn y fideo, mae modd gweld nifer ohonyn nhw’n siarad yn uchel a fflachio eu tortshis tuag at rhai o dai’r trigolion.
Yn ôl rhai yn lleol mae aflonyddwch o’r fath yn dod yn fwy cyffredin, gan greu problemau fel diffyg cwsg, mwy o sbwriel a gwastraff dynol ar y stryd.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n annog ymwelwyr i drin pobl leol a’u cymunedau gyda pharch bob amser.
Tra bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol o’r sefyllfa ac yn ymrwymo i ddod o hyd i ddatrysiad.