'Balch fod yr Eisteddfod yma' wedi cyfnod heriol i Bort Talbot
Un person sy'n hynod o falch o fod â phresenoldeb ar faes yr Eisteddfod eleni ydy Cassius Walker-Hunt o Bort Talbot.
Roedd yn arfer gweithio yng ngwaith dur Tata cyn i nifer fawr o'r gweithlu golli eu swyddi yno llynedd.
Erbyn hyn mae'n rhedeg siop goffi ym Mhort Talbot ac mae ganddo stondin goffi ar y maes.
"Dwi mor falch fod yr Eisteddfod wedi cyrraedd nawr. Mae'n amser anodd i bobl o Bort Talbot," meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn falch o gael y cyfle i ddefnyddio ei Gymraeg.
"Fi'n hoffi siarad Cymraeg. Fi mor falch i ddysgu pobl, learning more Welsh hefyd, fi jyst yn rili falch."